Nos Sadwrn O Hyd, Canolfan Mileniwm Cymru

August 5, 2018 by

Am ddiwrnod cyntaf anhygoel yn Eisteddfod Caerdydd; roedd naws arbennig a’r tywydd yn wych.  Bu’n hyfryd cael cwmni dinasyddion o bob math, i Brifwyl gynhwysol, ac amrywiol dros ben. Rhwng y Lle Celf gwefreiddiol yn ein Senedd syfrdanol, a seiniau samba Carnifal Butetown yng Ngharnifal y Môr, b’n ‘Bwrw Cwrw’ ar Renee Griffiths, o Batagonia bell, ac ‘Elfed Steddfod’, a anfarwolwyd ym mar Syched gan Gwrw Llŷn.

A thra roedd Bryn Terfel yn tarannu ar lwyfan Neuadd Donald Gordon, a sain y Crumblowers yn dirgrynnu ar Brif Lwyfan y Maes, profwyd perl o sioe yn theatr bwyty Ffresh, sy’n parhau tan y 7ed o Awst. Penderfynwyd lansio arlwy Mas ar y Maes  gydag addasiad Gymraeg o Saturday Night Forevergan Roger Williams – dewis perffaith ar nos Sadwrn cynta’r Brifwyl, rhaid dweud

Sioe un-dyn oedd dan sylw, lai nag awr o hyd, a pherfformiad trydanol gan yr actor Sion Ifan. Mewn cyflwyniad bywiog, aml-acennog, ac annwyl dros ben, fe gipiwyd y dorf dros gan gorwynt o ramant, ar hyd strydoedd Caerdydd. Dilynwyd hanes carwriaethol Lee, dyn ifanc hoyw a dinesig, wrth iddo wynebu stormydd geirwon o bob math. O Smörgåsborg orgasmig Grindr, a’r dewis o ffilter ar gyfer eich proffil (Nashville, natch) i artaith noson karaokepan ry’ chi wiryn casau Take That.

 

 

Dechreuodd Lee mewn perthynas â Matthew – pelen ddisgo ddisgleiriaf y neuadd ddawns – cyn graddio i lefel arall o gariad â Carl, o Benarth. Ond cafwyd awgrym bach cynnil rhwng pob reiat o vignette, y byddai’r chwarae’n troi’n chwerw cyn pen dim. Yn wir, daeth y troad anochel fel bwled o wn, i chwalu’r swigen o gariad mewn un clec. Os oes beirniadaeth gen i o gwbl o’r llwyfaniad cyntaf hwnnw, cywasgwyd datgeliad mawr i un linell amwys, ac roedd y diweddglo braidd yn ffwrbwt. Ond roedd pŵer y diweddglo yn glir i bawb, i danlinellu’r trasiedi mawr.

Digon naturiol fyddai i nifer o newydd-ddyfodwyr weld y ddrama hon fel disgynnydd o goeden deulu Llwyth, drama eithriadol o lwyddiannus Dafydd James. Ond mae Nos Sadwrn o Hyd(a’i rhagflaenydd Saturday Night Forever) mewn gwirionedd yn daid i’r ddrama honno – neu i fod yn garedig, yn hoff ewyrth, ‘a fu yno’ droeon cyn campau cyfoes ei nai. Gyda’r ddrama’n ugain mlwydd oed eleni, aeth Roger Williams ati ei hun i ddiweddaru rhannau helaeth o’r gwaith, a hynny’n bur ddeheuig. Bu newid anhygoel yn y gymuned LHDT ers 1998, gyda phriodi a chael plant yn normerbyn hyn. Ac mae’n glir o’r cyfoeth o gyfeiriadau diwylliant-pop iddo hefyd fyn di gryn hwyl, gan gyfnewid Blind Dateam Love Island, a Facebook a Grindr am…tybed beth?!

Ond yr un mor oesol yw thema ganolog y darn, am anghyfiawnder i’ch gadael yn gegrwth sy’n dali ddinistrio bywydau lu yn ein oes #woke honedig ni. Llwyfannwyd y cyfan yn gynnil, a hynny mewn cryn steil mewn ‘theatr’ pop-up ag adlais o sioe cabaret. Cyflwynwyd elfennau cefndirol o sain, a weithiodd yn grefftus i greu naws, yn arbennig pan drodd y freuddwyd yn hunllef pur.

Ond y  curiadau emosiynol ym mherfformiad Sion Ifan (dan gyfarwyddyd Aled Pedrick) a agorodd ein calonnau ni i stori gariad ddigon cyffredin, ond sy’n troi’n erchyll o sur. Gall unrhyw un uniaethu’r â’r teimlad hwnnw o unigrwydd mewn perthynas, ac o beidio a ffitio fewn; a hefyd o’r cynnwrf anesboniadwy wrth gwrdd â rhywun yn yr oes sydd ohoni, sy’n dal i ddarllen papur newydd, sy’n mynd ar ei wyliau i Copenhagen, ac sy’n dod o Benarth (ching ching!). Aeth yr actor â ni ar daith bersonol – ym mhob ystyr o’r gair – oedd yn ddechrau gwych i wythnos Mas ar y Maes.

 

The Independent Voice of Artists and Reviewers in Wales / Llais Artistiaid ac Adolygwyr yng Nghymru

Leave a Reply