Pan oedd y byd yn fach, Theatr Genedlaethol

May 21, 2015 by

Fel rhywun a chafodd ei geni yn yr un flwyddyn â Streic y Glowyr, rydw i wedi bod yn ymwybodol o’r digwyddiad erioed, ond eto yn gwybod ychydig iawn amdani. Y tro cyntaf mewn gwirionedd imi ddod i wybod rhagor am ei harwyddocâd hanesyddol oedd pan welais y ffilm ‘Pride’ y llynedd, ac wedi cael fy nghyfareddu gan y stori, synnais nad oeddem wedi astudio’r bennod goll hon fel rhan o’r cwricwlwm addysg o gwbl. Braf felly yw gweld cynhyrchiad sy’n ymdrin â’r cyfnod mewn ffordd newydd gan y Theatr Genedlaethol.

Gosodir act gyntaf y ddrama yng ngaeaf 1984 pan oedd y streic yn ei hanterth. Trwy lygaid pump o fechgyn ifanc, cawn ddarlun o fywyd yng Nghwm Tawe yn y cyfnod ac effaith yr hinsawdd wleidyddol ar eu cymdeithas. Mae elfen Groegaidd i’r ddrama gan nad ydym yn dyst i’r protestio na’r llinell biced ei hun, ond cawn ddarlun cynhwysfawr o gymhlethdodau’r sefyllfa gan bump o feibion i lowyr. Er nad ydynt yn ddigon hen i weithio eu hunain, maen nhw’n dymuno dangos eu cefnogaeth i’w tadau ac yn trafod sut i gyflawni hyn drwy gymysgedd o resymu aeddfed a thynnu coes bachgennaidd. Yn yr ail act, gwelwn aduniad y cymeriadau yn y cyfnod presennol 30 mlynedd yn ddiweddarach wrth iddynt drafod trywydd eu bywydau a’u teimladau am y cwm ers adeg tyngedfennol y streic.

Er eu bod yn hanu o’r un cefndir, mae pob cymeriad yn cynrychioli agweddau gwahanol, ac roedd yn ddiddorol gweld sut oedd eu rhesymeg yn datblygu a’r amgylchiadau yn dylanwadu ar eu hymateb mewn ffyrdd amrywiol. Gwelwn afiaith ieuenctid yng nghyffro’r pum bachgen sydd eisiau cymryd rhan yn y streic, ond er gwaethaf eu hoedran mae eu daliadau gwahanol yn effeithio ar eu hagwedd tuag ati. Arweinydd y grŵp yw Kevin (Gareth Pierce) sy’n fab i’r cynrychiolydd undeb lleol, yr un mwyaf brwd dros weithredu ar frys. Mae’r portread o glymau teuluol yn arbennig o afaelgar wrth i’w gefnder, Garyn (Siôn Ifan) gyfaddef fod ei dad wedi dychwelyd i’r pwll, ac effaith y ‘sgab’ ar ddeinameg y grŵp ffrindiau yn ein hatgoffa nad y glowyr yn unig a gawsant eu heffeithio.

Pwrpas y tri ffrind, Dyfed, Alun a Billy, yw ceisio cymodi’r ddau, ond maent hwythau hefyd yn wynebu argyfwng o ran gwerthoedd a sut i ddelio gyda’r streic. Mae Dyfed (Ceri Murphy) yn argyhoeddi fel y rebel hirben sydd â gweledigaeth, tra bod Billy (Berwyn Pearce) yn fwy naïf ond yn driw i’w gynefin ar bob cyfri. Cyferbyniad celfydd yw’r cymeriad Alun (Dyfed Cynan) sy’n bwriadu astudio yn Rhydychen ac yn gwneud ei farc fel darlithydd yn y dyfodol. Mae’r gwahaniaeth rhwng y cymeriadau yn nodweddiadol o’r tensiynau a achoswyd gan broblem gymdeithasol o’r fath, a’r pen draw yw digwyddiad dirdynnol sy’n taflu cysgod dros fywydau pob un.

Mae’r aduniad drwy Facebook yn yr ail ran yn rhoi cyfle iddynt dafoli eu bywydau a’u teimladau at y cwm bellach. Tra bo rhai wedi torri cysylltiad, mae’r lleill yn bwriadu aros yn eu milltir sgwâr am weddill eu hoes. Un o’r elfennau mwyaf trawiadol yw nad yw Kevin yn bresennol yn yr aduniad, ac mae ei absenoldeb yn tanlinellu ei rôl fel arweinydd yn yr hanner cyntaf.

Gellid disgrifio’r set fel un drawiadol, ymddangosiadol syml ond gydag arwyddocâd dyfnach. Adlewyrchai’r goeden foel a’r sbwriel yng nghornel y llwyfan ddirywiad cymdeithasol, ac mae’r haenau o garpedi o wahanol liwiau oedd yn ffurfio’r llawr a’r llethrau yn awgrymu haenau o ystyr, fel a geir yn y ddrama.

Aled Pedrick sy’n cyfarwyddo, a byddai’n anodd iawn dirnad o’r cynhyrchiad mai dyma ei ymgais gyntaf yn y maes hwn. Mae’n amlwg bod yr hanes yn agos at ei galon fel mab i löwr o’r un ardal gan fod rhyw ddealltwriaeth waelodol o’r hyn fyddai’n realistig o ran yr effaith ar y gymuned, a’r ffaith ei fod yn rhannu’r un dafodiaith yn sicr o fantais i’r actorion.

Un o gryfderau sgript Siân Summers yw’r cyfuniad o hiwmor a dwyster a gyflwynir drwyddo draw, rhag ofn i ni anghofio bod modd chwerthin yn ystod yr adegau tywyllaf. Roedd y sylwadau gwleidyddol hefyd yn effeithiol – gan gynnwys cyfeiriadau at lywodraeth Thatcher yn yr hanner cyntaf a gwleidyddion cyfoes yn yr ail hanner – nodwedd amserol iawn yn dilyn yr etholiad diweddar a oedd yn atgyfnerthu perthnasedd y streic a chyni economaidd i ni heddiw.

Ar brydiau, teimlais fy mod yn colli rhediad y ddeialog wrth i’r cymeriadau dorri ar draws ei gilydd, ond mae’n bosib bod hyn yn nodweddiadol o egni ifanc. Arafwyd y tempo erbyn yr ail hanner fel bod modd pendroni dros y newid yn y cymeriadau.

Cefais brofiad o’r ap ‘Sibrwd’ sydd wedi ei ddatblygu gan y Theatr Genedlaethol yn ystod y perfformiad, ac ymddengys ei fod yn ganllaw hylaw i ddysgwyr neu gynulleidfa ddi-Gymraeg gan ei fod yn egluro’r naratif ac yn cyflwyno’r ddeialog yn Saesneg. Mae hyn hefyd ar gael yn weledol mewn teip ar y sgrin, ac felly gallai’r ddyfais hon ymestyn ymhellach i’r sawl sydd â phroblemau clyw.

Asgwrn cefn y cynhyrchiad yw tynnu’r ffocws oddi wrth y glowyr a’r ymgyrch a’n cymell i sylweddoli effaith y streic ar y plant a’u ffawd hwythau, sy’n gallu parhau am ddegawdau. Mae’r darlun onest o wewyr meddwl pobl ifanc nad oeddent yn uniongyrchol yn rhan o’r streic a’r cyfeiriadau at drais yn y cartref yn dwysáu ein cydymdeimlad at yr hyn oedd yn digwydd ar y cyrion – rhywbeth sy’n aml yn mynd yn angof wrth drin a thrafod y cyfnod pwysig hwn yn hanes y genedl.

 

 

Leave a Reply