Panto! Blodeuwedd – Cwmni Mega

November 27, 2016 by

A hithe’n dymor panto, mae’r enwau mawrion i’w gweld ledled Cymru; o Alfie, yr arwr rygbi, fel Aladdin yn Llandudno i’r ‘Hoff’ fel Capten Hook yng Nghaerdydd. Sleeping Beauty yw atyniad Abertawe y tro ’ma, a Sinderela fydd yn swyno criw’r Stiwt yn Rhosllannerchrugog. Ac ar ben popeth, bydd gan Dick Whittington grwydr a hanner i Lundain bell wrth alw yng Nghaerfyrddin, Pontarddulais, Port Talbot ac Aberhonddu ar ei ffordd.

I blith yr enwau Seisnig gor-gyfarwydd hyn, mae na griw sy’n cynnig panto cwbl Gymreig, ac ar daith ledled Cymru ers ganol mis Tachwedd y mae Blodeuwedd, sy’n sioe ddigri dros ben.   Dyma’r ail banto ar hugain i Gwmni Mega ei lwyfannu ers sefydlu yn 1994, heb son am y pantos y bu’r cyfarwyddwr Dafydd Hywel yn eu cynhyrchu, cyn hynny, â chwmni Whare Teg.

Llwyddais i i fachu tocyn yn neuadd goffa’r Barri – peth prin ar y naw a dweud y gwir. Roedd y neuadd yn atsain o sgrechian plant ysgol, uwch na pharc chwarae Ynys y Barri gerllaw

Wel, sôn am sioe i dwymo’r galon, mewn cyfnod mor llwm, diolch i gast a chriw hynod afieithus. Mae’r sgript honco bost – gan Huw Garmon a Helen Wyn – yn orlawn o ddwli a direidi; nid yn unig yn cynnwys y cyfeiriadau pantomeimaidd arferol, ond haenau hefyd o ddychan gwleidyddol.

Fe gychwynodd y sioe ymhell cyn i’r panto ddechrau arni, wrth i’r uchel-seinydd floeddio cyfres bywiog o ganeuon Cymraeg o gyn-gynhyrchiadau Cwmni Mega. Erbyn i’r llenni cochion agor, i ddatgelu set arallfydol, roedd y band roc byw – dan arweiniad Richard Vaughan – yn eu hwyliau go iawn. Gyda’r plantos ar eu traed, cyflwynwyd byd tra chwedlonol mewn cân gyntaf hynod afaelgar. Fe’n denwyd gan leisiau, a phypedau bach ciwt, i gyfnod lledrithiol, lled-hanesyddol, heb ffin rhwng byd natur a dyn.

Gwelwyd arth (Iwan Garmon) nid anhebyg i Bungle o Rainbow yn lloer-gamu i’r Van Halen Cymraeg. Ei gri yntau, ac eraill, oedd ‘Ffwr a phlu, dewch â ni!’ ac roedd plantos Bro Morgannwg wrth eu bodd.

Yn sylfaenol, yr hyn a gafwyd ar hyd y cynhyrchiad oedd adweithiad o stori Blodeuwedd, o’r Mabinogi; y fersiwn PG, â diweddglo ddedwydd dros ben, heb smic o odinebu. Gwibiwyd yn chwim trwy’r chwedl Gymreig, gan gyflwyno’r prif gymeriadau’n ddi-ffws; o Gwydion y dewin da, ac Arianrhod y ‘wrach’, i ‘arwr’ y sioe, Lleu Llaw Gyffes (Dafydd Evans).

Er yn destun melltith ar ddechrau’r cynhyrchiad, caiff Lleu – sy’n fabi mawr – berchnogi enw ac arf, ond beth am ‘wraig o blith merched dynion’? Diolch i Math (Llew Davies), y dewin dwl, creuir merch hardd o o grochan fawr; Blodeuwedd (Kate Elis), a fu, cyn hynny, yn dylluan. Ond un digon dichellgar yw Arianrhod (Lisa Marged) y wrach, gaiff gymorth cyntaf gan Gronw Pebr. Eu cynllun? Lladd Lleu, a bachu Blod – oes siawns i gyfiawnder eu trechu?

Meistr y seremonîau yw Bryn ‘Gwydion’ Sbwriel – glanhawr y strydoedd yn nhre Caer Dathyl. Yn ei MC Hammer pants, a’i arddull Tommy Cooper, mae Erfyl Ogwen Parry yn dywysydd gwych, yn denu’r dorf gyda’i ‘How-di-dw-di-dwdi?’(How-di-dw-di-dŵ!’). Ond fe gaiff yntau gystadleuaeth gan Lisa Marged fel Arianrhod, sy’n hynod atyniadol o atgas; yn edrych fel croes rhwng Maleficent a Cher yn ei gwisgoedd Oscars OTT gan Bob Mackie.

Ond caiff y ddau eu tanseilio gan racsyn o rapiwr; Gronw Pebr, sydd ag enw canol adnabyddus iawn. Yn gymeriad abswrd, sy’n dychan ffigwr mawr gwleidyddol, mae e’n atgoffa’r dorf nad panto cyffredin mo hwn. Cyflwyna Math, yn ogystal, ambell linell ffwrdd-â-hi o sylwebaeth comig gwleidyddol  – a pham lai? A ninnau yma yng Nghymru yn ymdrochi’n fenyddiol mewn propaganda Eingl-Americanaidd, does gen i ddim gwrthwynebiad i ambell hedyn gwrthryfelgar gael eu plannu ym meddyliau’r dorf iau.

Fel yn achos pob panto, mae’r pâr canolog yn siwgwrllyd iawn – y rhannau i’w sawru yw’r cymeriadau cynorthwyol. Ond daw Dafydd Evans a Kate Elis, ill dau, ag ysgafnder i’r garwriaeth hon rhwng dyn a merch o flodau. Ac mae fersiwn Blodeuwedd  o ‘Chwarae Troi’n Chwerw’ (trwy ganiatâd Caryl Parry Jones) yn uchafbwynt pendant tua diwedd y sioe.

Yn wir, fel yn achos y sylwebaeth wleidyddol achlysurol, mae clywed tri clasur cerddorol Cymraeg  yn cynnau fflam o Gymreictod yng ngwylwyr o bob oed. Hir oes i Gwmni Mega, gyda’u pantomeim blynyddol; brafiach fyth fyddai gweld drama, neu sioe arall ganddynt ar hyd y flwyddyn, i’n cadw ar flaenau ein traed.

 

Leave a Reply