Pendevig, Gig Pafilwin, Eisteddfod Genedalethol

August 12, 2018 by

Dyma Eisteddfod wahanol ac mae hynny’n wir am y gigiau pafiliwn hefyd, fymryn yn fwy ffurfiol efallai eleni ond tydi hynny’n dweud dim nad ydyn nhw’n lot o hwyl o hyd chwaith.

Uchafbwynt yr Eisteddfod hyd yn hyn i mi oedd gig Pendevig, fedrai ddim dweud i mi brofi fawr o ddim tebyg iddo o’r blaen. Un peth sydd wedi  bod yn gyson drwy gydol y perfformiadau yn y pafiliwn eleni ydi eu bod nhw wedi manteisio’n llawn ar adnoddau Canolfan y Mileniwm, nid cymryd un peth a’i osod o ar lwyfan wahanol a wnaethpwyd ond yn hytrach cynllunio digwyddiad gyda lleoliad a adnoddau technegol penodol mewn golwg. Roedd o’n wir am y Siwper Stomp, am gig Jarman ac yn sicr am berfformiad egnïol Pendevig. Defnyddiwyd goleuo a thaflunio yn ogystal â  gollwng eu logo, y penglog trawiadol, o’r to er mwyn gwneud hwn yn berfformiad a fydd yn aros yn y cof am yn hir. Gwiethiodd popeth yn dda iawn, gyda ond y taflunio ar brydiau’n bygwth cuddio’r perfformwyr a thynnu sylw oddi wrthynt.

Does yna’m gwadu nad ydi’r aelodau un ac oll yn feistri ar eu crefft yn unigol neu mewn grwpiau llai ond roedd hon yn gyfanwaith a oedd, mewn sawl modd, yn llawer iawn mwy na’r darnau unigol. Mae hi’n anodd efallai disgrifio beth yn union oedd y perfformiad i rywun nad oedd yno. Caneuon gwerin, ia, ond wedi eu hail-drefnu a’u hailwampio, roedd yna ddylanwadau cerddorol o genres eraill a phopeth wedi’i blethu’n gelfydd, roedd yna berfformio gweledol, dawnsio a barddoniaeth. Y demtasiwn fyddai dweud ‘Tŷ Gwerin ar Acid’ mewn rhyw ffordd stroclyd ond beryg nad ydi hynny’n gwneud cyfiawnder o gwbl gyda’r criw, yn un peth tasa ni am fynd am drosiad tila o’r fath dwi’n siŵr fod yna MDMA, Ketamine a llond trol o bethau difyr erill yn y gybolfa.

Dyma ganu gwerin fel na’i welwyd o erioed o’r blaen, yn arbrofol, egnïol a heriol, yn bennaf oll yn newydd, ond dyma griw sydd heb golli golwg ar eu gwreiddiau chwaith gyda chaneuon traddodiadol yn cyd-fynd gyda chyfansoddiadau gwreiddiol a chyfeiriwyd hefyd at un o fawrion y byd gwerin, y diweddar Meredydd Evans.

Wn i ddim sut y gwnaeth puryddion yn ymateb i’r perfformiad ond roedd y gynulleidfa o’n nghwmpas i, a minnau yn eu plith nhw, wedi gwneud hynny mewn modd drydanol. Roedd y setiau fwy byrlymus yn gymorth gyda hynny wrth gwrs ond aethpwyd ati i ddewis pob adran gerddorol yn ofalus gan gynnig hen ddigon o amrywiaeth. Ond am fath egni ac angerdd! A hwythau wedi bod yn teithio yn perfformio yn Llydaw a newydd gyrraedd yn ôl i Gymru bron wedi taith hir wn i ddim sut y buodd iddyn nhw allu bownsio, dawnsio a chwalu eu ffordd ar draws y llwyfan gyda rhai o’r perfformwyr yn newid offerynnau, eraill yn mynd ati i ddawnsio neu ymddangos mewn man hollol wahanol ar ôl diflannu am ychydig eiliadau.

O glywed disgrifiad o’r dawnsio, y chwythu tân a’r gwaith corfforol byddair rhai nad oedd yn dyst i’r perfformiad yn gallu meddwl mai gimics oedden nhw ond does yna’m sail i hynny chwaith gan eu bod nhw’n ychwanegu at naws syrcas-aidd wyllt y perfformiad. Byddai hynny hefyd yn awgrymu nad oedd gan y spectacl sylwedd yn perthyn iddi, a doedd hynny ddim yn wir— o’r perfformio i’r cyfansoddi mae hi’n amlwg mai criw proffesiynol fuodd wrthi, a hynny wedi llawer iawn o waith caled hefyd.

Cefais olwg newydd ar ein alawon cynhenid ac ar farddoniaeth hefyd wrth i’r arferol gael gwisg a chyd-destun newydd, cyffrous. Datganwyd barddoniaeth hen a newydd mewn dull ysgubol, weithiau gyda chymorth pastwn traddodiadol, er nad oedd yna ddim yn draddodiadol am y dull yr aethpwyd ati i wneud hynny.

Erbyn diwedd y noson roedd pawb ar eu traed, a’r nifer helaeth yn clapio a symud, hyd yn oed rhwng seddi parchus Canolfan y Mileniwm. Fe adawais y perfformiad yn berwi, heb lawn fod yn siŵr be welais i, dim ond mod i’n gwybod ei fod o’n eithriadol ac yn brofiad gwerth i unrhyw un ei gael. Dwi hefyd yn obeithiol, aeth Pendevig ati i osod yr hen mewn cyd-destun newydd a thrwy wneud hynny lwyddo i gael llond pafiliwn i fod o’u plaid nhw. Dylai bod pob agwedd o’n diwylliant yn gallu gneud yr un peth, dwi’n falch i mi allu bod yn dyst i un yn llwyddo.

 

The Independent Voice of Artists and Reviewers in Wales / Llais Artistiaid ac Adolygwyr yng Nghymru

Leave a Reply