Raslas Bach a Mawr, Theatr Bara Caws

December 9, 2016 by

Tony ac Aloma, Glenys a Rhisiart, Ryan a Ronnie, a Sion a Sian! Dim ond rhai o ddeuawdau mawr byd adloniant Cymraeg ail hanner yr ugeinfed ganrif.  Ond byddai rhestr o’r fath yn gwbl anghyflawn heb ddeuawd eiconig arall; ffrwyth dychymyg Wynford Ellis Owen a Mici Plwm. I’r genhedlaeth gyntaf a fagwyd ar S4C mae Syr Wynff a Plwmsan yn cynrhychioli anarchiaeth pur; slapstic swrealaidd, ‘haia chwcs!’, ffrwydriadau gwallgof  a slepjan, neu dri.

Ceisiwch egluro eu schtick yn Saesneg, ac fe fwrwch chi wal; ymdrechais innau, yn reit ofer,  ar BBC Radio Wales. Rhyw groes rhwng Laurel and Hardy a Morecambe and Wise, â thwtch o Tiswas neu’r Monty Python Cymraeg. Ond dyw hynny  ddim chwaith yn cyfleu hanfod y ddau; tybed beth oedd tarddiad eu bramant cyd-ddibynnol?  Yr hyn a wyddwn yn sicr ers 1982 yw eu bod yn denu helbul mawr i’w pennau.

Mae eu henwau llawn Cymraeg yn datgelu popeth am y ddau; Syr Wynff ap Concord y Bos yw control freak awdurdodol y bartneriaeth docsig rhyngddynt.  Ond tra bod Wynff yn  (gymharol) graff, ac yn dal ac yn fain, mae’r hen Plwmsan (y Twmffat Twp) yn fabi mawr sy’n sugno’i fawd,  ac yn weledol mae e’n fyr ac yn foliog. Byddai ei alw yn araf yn dwyn dirmyg ar falwod, ac efe, fel arfer, yw  targed y ‘slepjan’ eiconig.

Sut goblyn lwyddodd y ddau i gydio yn nychymyg cymaint o bobol? Perfformiadau comig yr awduron Mici Plwm a Wynford Ellis Owen, yn syml iawn. Bu cryn edrych mlaen felly at weld Raslas Bach a Mawr eleni;  yr addasiad i’r llwyfan gan gwmni Theatr Bara Caws.

Ond ar gyfer yr aduniad mawr yn 2017, castiwyd Syr Wynff a Plwmsan newydd,  tra fod y ddeuawd wreiddiol yn gyfrifol am y sgript.  Dwi’n falch iawn i ddweud fod Llyr Evans ac Iwan Charles yn wych, ac wedi’u geni  i chwarae’r ddau gymeriad. Nid yn unig o ran eu cemeg, a brofwyd droeon hyd yn hyn, ond gallech chi daeru i’r ddau wreiddiol gael eu clônio i’r dim!

 

 

Fe ddof i ’nol at ein harwyr yn y man, ond yn gyntaf, amlinelliad o stori’r sioe, sy’ – fel y penodau gwreiddiol  hanner awr o hyd– yn rhyfedd ar y naw.  Ar ddechrau’r cynhyrchiad cawn gyflwyniad ar ffurf cân, i deulu estynedig Syr Wynff (Llyr Evans); Goncwerwyr oll, mae nhw’n byw yn yr un tŷ, gan gynnwys yr hen ffefryn, Taid. Drws nesa mae Plwmsan (Iwan Charles), ond yn fuan iawn, deallwn bod newid mawr ar droed; rhaid dymchwel eu cartrefi er lles tai ’fforddiadwy, cyn symud pawb i Loegr dlawd.

Yno, yng nghartref gofal ‘Happy Home’, mae metron ddieflig (Lowri-Ann Richards) yn cadw trefn, gan ddilyn cyfarwyddiadau Prif Weinidog (Carys Gwilym) dauwynebog, sydd hefyd yn fenyw filain dros ben. Yn groes rhwng Dame Edna a Margaret Thatcher, mae’n benderfynol o gadw Syr Wynff a Plwmsan draw. Yn anffodus iddi hi, mae na gynllun ar waith – i ddianc am adre,  ac i gipio’r Brif Weinidogaeth. Teflir popeth i’r pair ar ben hyn oll – gan gynnwys Moronwen (Llinos Daniel), cariad Plwmsan.

Do, fe ddarllenoch chi hynny’n iawn. Cyn hyn, nid oeddwn yn ymwybodol fod gan y twmffat reddfau dyn, ac yn wir, daw’n amlwg – mewn montage slo-mo o fri – nad oes ganddo ronnyn o ddiddordeb ynddi hi. Ond ni ellir dweud run peth am Syr Wynff ap Concord y Post, unwaith y clywai mai craig o arian ydy hi. ..

Cynigodd Llyr Evans gryn dipyn mwy na dynwarediad o Wynfford Ellis Owen a’i greadigaeth ‘piwsig, piwsig’, Syr Wynff. Fe diciwyd pob bocs o ran ei linellau anfarwol; ‘raslas’, ‘hysh-awe’, a ‘how-di-dŵ!’ yn eu plith. Ond llwyddodd i gynnig esblygiad o’r ffigwr trasi-comig â chanddo gryn dipyn o feddwl ohono’i hun.  Gyda’i wefusau  llysnafeddog, a’i goesau John Cleese, llwyddodd y pen bach o Fachiavelli i’n denu i’w gefnogi, tra hefyd yn troi’n stumogau union ’run pryd.

Roedd gwylio Iwan Charles fel Plwmsan yn brofiad  afreal;  mae o ’run ffunud â Mici Plwm. Wrth grafu’i ben a sugno’i fawd, safodd amser yn stond, ac fe’n hudwyd i’r Gymru amgen hon. Cymru Orwellaidd, a’i llywodraeth llechwraidd, sy’n manteisio ar boblogaeth ddôf. Tanlinellwyd mai anarchiaeth yw gweithredu, cwestiynu, beirniadu a gwneud, nid dweud.

Yn naturiol, diolch i sawl camddealltwriaeth rhwng y ddau, cafwyd ffrwydriad neu ddau, neu dri. Difyr iawn oedd yr effeithiau, oedd yn cynnwys mwg mawr, yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Mwynheais yn fawr symylrwydd y set ar lwyfan anferthol Donald Gordon; meddianwyd ofod theatrig mwyaf dinas Caerdydd gan ddau rapscaliwn Cymraeg. Cafwyd hefyd lithren ac ysgol i’r actorion eu disgyn,  i’n cadw ar flaenau ein traed. Ac yn addas, o gofio modus operandi y ddau, chwalwyd ‘pedwaredd wal’  y gofod yn rhacs.

Wrth sgwennu hyn oll, mae’r syniadau’n gyffrous, ond ar adegau fe niflaswyd i braidd. Treuliwyd gormod o lawer amser yng nghwmni cymeriadau cynorthwyol, er mwyn cyfianwhau sioe mor ‘fawr’. Dim amharch o gwbl i’r holl actorion hyn; mae’r ddau awdur yn nabod ein harwyr tu chwith allan. Ond oherwydd na ddatblygwyd yr un cymeriad cefndirol yn ddigonol, doedd gen i fawr ddim diddordeb yn y metron – na’r plismon (Llion Williams), na’r Prif Weinidog chwaith.

Serch cyffwrdd ar hanes llinach Wynff, ni ddaethom i adnabod yr un berthynas – ac ni grafwyd dan wyneb dychrynllyd Taid! Ac er mor annisgwyl o ganolog oedd cymeriad Moronwen ar hyd y sioe, ei jôc fawr hi oedd sawl cyn-ŵr, ac un cusanwr gwael. Hyd y gwela i hefyd, problem fwya’r ddau ddihiryn oedd mai merched oedden nhw;  sy’n fy arwain i holi, a fyddai’n well syniad i lunio cymeriad yn seiliedig ar Dr Sigmund Freud?

Serch popeth, does dim dwywaith; daeth y theatr yn fyw  pan ymddangosodd Syr Wynff a Plwmsan ar lwyfan. Ond fy nheimlad greddfol i yw y byddai Plwmsan a Syr Wynff ar eu hennill  yn serennu mewn  ‘sioe glybiau’ gymunedol.  Fel yn achos sioe Blodeuwedd, sef panto Cwmni Mega, gwych oedd gwylio sioe wleidyddol i blant. Ac mewn cyfnod mor ofidus, mawr obeithiaf weld y ddau yn annog anarchiaeth am amser maith.

http://theatrbaracaws.com/portfolio/raslas-bach-a-mawr/?lang=en

Leave a Reply