Sieiloc, Miles Productions, Eisteddfod Genaedethol 2018

August 6, 2018 by

Sut goblyn mae o’n llwyddo i gofio pob gair… yn chwys i gyd, a phob anadl yn ei le? Os da chi’n chwilio am wefr, a pherfformiad tan gamp ar lwyfan yng Nghanolfan y Mileniwm, ewch ar eich union i weld ecstrafagansa un-dyn Rhodri Miles yn y ’Steddfod eleni. Mae Sieiloc, ar un wedd yn ‘hard-sell’ i eisteddfotwyr, gan, yn wahanol i Richard Burton a Dylan Thomas (ei destunau sioeau un-dyn diwethaf), nid yw’n gymeriad sydd yn eicon Gymreig.

Ond wrth gamu o Stiwdio Weston, gwynebais lu o wynebau surion, yn sgil llwyfaniad Teilwng i’r Oenyn Neuadd Donald Gordon. Roedd y cynhyrchiad mawr hwnnw wedi derbyn ‘standing ovation’, ond ar lafar yn y cyntedd roedd y Cymry’n gynddeiriog, a nifer yn difaru na aethon nhw i weld Rhodri Miles yn lle.

Dyma’r ddrama a gipiodd wobr Sioe Deithiol Orau Cymru yng Ngwobrau Theatr Cymru yn gynharach eleni. Paham hynny? Yn syml, perfformiad electrig sy’n seiliedig ar sgript ffantastig, sy’n gyhyrog, ac yn gomig, am yn ail.  Dyma’r eilwaith i mi ei brofi – yn sgil taith ledled Cymru– ac es ati a chryn asbri i’w adolygu mewn cryn fanylder, wedi mawredd ei sioe ym Merthyr. Plethir waith William Shakespeare, a sylwadau craff ar fyd actio Cymraeg, gyda gwibdaith ddadlennol i hanes yr Iddew mewn cymdeithas, sy’n dali ddioddef erledigaeth mawr.

Daw hynny fel sioc wrth wylio’r sioe hon, sy’n cyffwrdd hanes o gyfnod y Rhufeiniaid, i Auschwitz, a thu hwnt. Ond yn dal i hawlio’r penawdau y mae’r cyhuddiadau o wrth-Semitiaeth yn erbyn y Blaid Lafur, dan arweiniad Jeremy Corbyn.

Felly sut mae cyflwyno’r Cymry i destun mor ddwys, mewn sioe sy’n cynnig miri mawr? Teitl y sioe yw Sieiloc– gelyn  Marsiandiwr Fenis, a danseiliwyd am fynnu hawlio ei ‘bwys o gnawd’. Ond seren y ddrama hon yw cymeriad ymylol Tiwbal, sy’n mynd ati i wneud yn iawn am gam mawr. Cawn berspectif bur wahanol ar ffigurau o bob math, o Pontiws Peilat, a’r bwystfil  Barnabas, i Barbra Streisand a Dracula.

Mae’r sgop yn bur epig, ond diolch i berfformiad empathetig, cawn ei hudo a’n haddysgu gan Rhodri Miles. Ceir gwaith goleuo arbennig, a cherddoriaeth atmosfferig, sy’n ategu at gyfoeth y sioe. Mae Tiwbal yn rhodd o ran i artist o fri, gan ddatelu cyfrinachau actio lu. Mae’n berfformiad sy’n denu rhyfeddod, a’r cwestiwn anochel i rai; ‘pam nad yw Rhodri Miles yn enw mwy  cyfarwydd i mi?’. Wel, mi a sbotiais sawl cyfarwyddwr yn y dorf ar y noson agoriadol… felly gwyliwch y gofod, da chi. Ond os fyddai’n well ganddoch hawlio ‘mi oeddwn i yno’, yna archebwch docyn  i’w weld yng Nghaerdydd.

 

Sieiloc 2017:

Sieiloc, Rhodri Miles

The Independent Voice of Artists and Reviewers in Wales / Llais Artistiaid ac Adolygwyr yng Nghymru

Leave a Reply