Sioeau Cerdd Cwta, The Other Room & Leeway Productions, Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2017

August 11, 2017 by

Union flwyddyn yn ôl sefydlwyd cynllun gan Leeway Productions, mewn cydweithrediad â theatr dafarn  The Other Room. Y bwriad oedd i archwilio’r potensial i ddatblgu sîn sioeau gerdd yng Nghymru, genre sy’n boblogaidd ledled y byd.

Wedi’r cyfan, mae llwyfannau’r Urdd, a’r Eisteddfod Genedlaethol, yn orlawn o blantos a chorau’n canu ‘hits’ mawrion y byd sioe gerdd. Teg dweud fod nifer yn deillio o sioeau gan Gwmni Theatr Maldwyn – Pum Diwrnod o Ryddid (1988) yn eu plith –  ond ceir hefyd doreth o gyfieithiadau o’r iaith fain.

Mae’r gynnulleidfa yma yng Nghymru yn awchu am gynnyrch, a’r cyrchfan amlwg  am eu ‘fix’ yw sioeau Broadway a’r West End. Yn wir,  yn gynharach eleni, cwrddais â merch 13 mlwydd oed, oedd eisioes wedi gwario bom ar docyn i weld Hamilton (ffenomenon o hip-hopera, am sefydlwyr cyfansoddiad yr UDA)  yn Llundain ymhen 18 mis!

Does dim rheswm felly i beidio archwilio’r potensial i ddatblygu sain newydd, sy’n greiddiol – a pherthnasol – i’r Gymru gyfoes,  ac sydd â’r potensial o danio dychymyg y dorf. Dyna’n sicr yw barn danbaid Angharad Lee (Leeway Produtions), a ddaeth â’r cysyniad ‘Sioeau Cerdd Cwta’ i Faes y Brifwyl.

‘Showcase’ awr o hyd yn Theatr Fach y Maes oedd y digwyddiad a gynhaliawyd ar b’nawn Iau. Fel yn achos 10 Minute Musicals, llwyfanwyd gwaith gan sawl grŵp, gan gynnig slot 10 munud yr un. Megis dechrau ar eu taith i archwilio genre y sioe gerdd oedd yr actorion a chyfansoddwyr hyn, gan olygu mai blas o botensial posib a gafwyd. Ond er mor amrwd oedd y cynnyrch, profwyd cynnwrf a gwefr, a pwy â wyr be ddaw o’r hwyl heintus hyn.

 

Cawsom groeso yn gyntaf gan Rufus Mufasa a’r bîtbocsiwr Kalim Bartlett, â rap byrfyfyr a churiadau dub a dancehall. Er ein bod ar gae ym Modedern, sefydlwyd o’r cychwyn , nad yn ‘Kansas’ y byd theatr Cymraeg oeddem mwyach.

Dilynwyd hynny gan y ‘sioe gerdd’ gyntaf a gyfansoddwyd gan Osian Gwynedd, a geiriau gan Wyn Mason, yn archwilio cariad a rhyw yn yr ysgol. Dychmygwch gyfuniad o Pam Fi Duw?School of Rock a fyddwch chi ddim yn bell iawn ohoni. Diolch i hyder a hwyl Heledd Bianchi a Lloyd Macey –  dau actor  a aeth amdani go iawn – sefydlwyd hiwmor a thensiwn rhwng athrawes surbwch (ar yr arwyneb)  a llanc ysgol wedi mopio â merch.  Gyda minnau newydd fwynhau cynhyrchiad gwefreiddiol o Deffro’r Gwanwyn, dwi’n gweld potensial enfawr i sioe Gymraeg o’r fath.

Dychwelyd i’r llwyfan wnaeth Rufus Mufasa a Kalim Bartlett, ar gyfer yr ail lwyfaniad, yng nghwmni Jed O’Reilley ac Emma Hicks. Archwiliwyd y potensial o ddatblygu seiniau ar gyfer ‘hip-hopera’ Cymraeg, yn cyfuno lŵpio, rapio, llafarganu a phrotestio – a dan y lach y tro ma oedd yr iaith Gymraeg. Archwiliwyd hefyd un o gonfensiynau mwyaf maes y sioe gerdd, sef y gân i sefydlu ‘taith’ arwr / arwres y sioe.

Amneidiwyd o seiniau hip-hopera i power-popera yn llwyfaniad Alun Reynolds ac Osian Edwards. Plethwyd seiniau electronig hudolus dros ben â stori am ffrindiau yn dod i delerau a’u rhywioldeb. Datblygwyd yma’r cysyniad o leitmotif – is-haen adleisiol sy’n datblygu ar hyd y sioe, sy’n plethu naratif y cynhyrchiad ynghyd.  Rhaid canmol didwylledd y geiriau – a ddatgeiniwyd gan Joel Edwards a Lowri Morgan; roedd fel el gwrando ar albwm gan Robyn, ond yn y Gymraeg!

Yn olaf, ond nid leiaf, thema gyfoes dros ben; cydraddoldeb benywaidd, wedi’i gyflwyno mewn ffordd gomig, i gefnlen sionc y gitâr Sbaenaidd! Rhwng saga cyflogau’r BBC, a llwyddiant aruthrol The Handmaid’s Tale, a’r momentwm a grewyd gan orymdeithaiu merched ledled y byd, ‘blwyddyn y fenyw’ hyd yma yw 2017. Chwarae teg i’r pedwarawd – Danielle Lewis, Meilir Sion, Kate Griffiths a Jemima Nicholas – denwyd y dorf i fewn gan ramant rwystredig,  a  difyr oedd neges ddiffuant y darn.

Prawf yn sicr y gall pob thema dan haul ei gyfleu yn y Gymraeg, mewn ffordd gomig a chyfoes  a chyffrous. Edrychaf ymlaen i ddilyn saga’r cynyrchiadau; tybed pa un fydd y cyntaf i lenwi theatrau Donald Gordon a Venue Cymru?

Leave a Reply