The Weir, Sherman Theatre, adolygiad gan Rhiannon Williams

October 13, 2016 by

Mae The Weir yn gynhyrchiad ar y cyd rhwng Theatr y Sherman yng Nghaerdydd a Tobacco Factory ym Mryste,  ac mae’n ymddangos fel partneriaeth lwyddiannus. Roedd y Sherman yn llawn bron i’r ymylon pan oeddwn i’n y gynulleidfa, sydd bob amser yn arwydd calonogol. Mae’r ddrama gan Conor McPherson, sydd wedi ennill Gwobr Olivier am y ddrama orau, yn ffrwyth cydweithio rhwng cast a thîm creadigol y ddwy theatr.

Er bod y ddrama wedi ei hysgrifennu yn 1997 ac yn trafod Iwerddon fel gwlad sydd ar fin gweld newidiadau enfawr, mae’r un mor berthnasol i ni heddiw ag erioed. Mae bob amser yn bleser gen i weld cynhyrchiad am wlad arall gan fy mod yn tueddu i wylio cynyrchiadau Cymraeg neu rai sy’n trafod pynciau Cymreig. Ac yn wir, teimlais fy mod wedi dod i adnabod Iwerddon a’i phobl yn well o’i herwydd. Eto i gyd, roedd gweld criw o bobl yn dod at ei gilydd mewn tafarn wledig ac yn rhannu eu hanesion hefyd yn rhywbeth sy’n digwydd mor ddefodol a naturiol yng Nghymru a thu hwnt.

Cefais fy atgoffa o grefft y cyfarwydd yng Nghymru, wrth i aelodau o’r cast adrodd straeon, anecdotau a hanesion personol a oedd yn gymysgedd o hiwmor a thristwch. Yn wir, clywyd dogn helaeth o chwerthin ymhlith y gynulleidfa drwy gydol y perfformiad. Yn Iwerddon fel yng Nghymru, mae traddodiad hir o chwedlau a straeon gwerin sy’n rhan annatod o’u treftadaeth. Gallant gynnig dim amgenach na diddanwch ysgafn ar yr wyneb, ond  yn amlach na pheidio, maent hefyd yn dweud llawer mwy wrthym am arferion a gwerthoedd trigolion y wlad honno. A dyna yn union a wneir yma. Mae haenau llawer dyfnach i’w canfod yn yr hyn a fynegir fel cofnod o ffordd o fyw, a chawn weld y byd drwy lygaid Gwyddelig.

Dehonglir y ddrama fel un gyfoes, ond ceir ymdeimlad hynafol yma hefyd. Er gwaethaf sefyllfa hynod gyffredin grŵp o bobl yn cwrdd mewn tafarn, ceir elfen oruwchnaturiol i’r cynhyrchiad ble mae ofergoeledd a’r gorffennol yn rhan hollbwysig o’r presennol. Roedd yr islais o’r meddylfryd Celtaidd yn arbennig yn taro tant , gan nad ydym yn dathlu’r cysylltiad rhwng y gwledydd Celtaidd a’r tebygrwydd rhwng traddodiadau megis llên gwerin yn ddigonol yn fy nhyb i.

 

 

Mae’r dramodydd yn archwilio themâu megis cymuned a chyfeillgarwch, a sut y gall gweithred syml fel mynd i’r dafarn gynnig gobaith a chysur wrth rannu profiadau bywyd. Mae’r ddrama hefyd yn rhoi gwerth ar yr arfer nosweithiol i nifer am ei fod yn fodd i rannu baich a chwmnïaeth. Er mai cnewyllyn bychan o bump sy’n actio’n y ddrama, cawn weld hefyd yr amrywiaeth rhwng cefndiroedd pobl a’r gwahaniaeth rhyngddynt, ond maent hefyd yn rhannu’r un cwlwm sylfaenol yn yr angen am sgwrsio a gwrando.

Roedd perfformiad yr actorion yn taro deuddeg i gyd, a’r monologau yn arbennig o effeithiol ac yn hoelio sylw wrth i ni glywed eu hanesion estynedig a mynd dan groen eu cymeriadau. Mae’n rhaid cyfaddef y cefais drafferth canolbwyntio o dro i dro oherwydd eu hacenion, ond credaf bod hynny oherwydd nad yw fy nghlust wedi ymgyfarwyddo â’r acen Wyddelig.

Mae cyfarwyddo Rachel O’Riordan i’w ganmol, ond cefais mwy o flas ar y cynhyrchiad ‘Iphigenia in Splott’ a oedd yn cynnig fflach o wreiddioldeb a chyfarwyddo cwbl unigryw. Eto i gyd, mae sylwedd y ddrama hon yn llwyr wahanol, a llwyddodd i greu naws gyda’r deunydd crai. Nid oedd y sgript mor afaelgar ag y dychmygais, ond efallai bod hynny oherwydd dieithrwch y cefndir Gwyddelig i mi.

Er mai’r pennawd ar gyfer y cynhyrchiad yw ‘There’s no dark like a winter night in the country,’ mae digon o hiwmor iach yn gymysg â’r tywyllwch er mwyn eich difyrru yn ogystal â’ch cyffwrdd.

 

http://www.asiw.co.uk/reviews/weir-sherman-theatre-2

 

http://www.asiw.co.uk/my-own-words/chelsey-gillard-assistant-director-weir

 

http://www.asiw.co.uk/my-own-words/rachel-oriordan-directing-weir

 

 

Leave a Reply