Y Glec / King Hit

November 12, 2016 by

Mwynheais y cynhyrchiad mwyaf egnïol i mi’i weld ers tro byd yn Arad Goch, Aberystwyth, yr wythnos hon. Dau berfformiad a gynigodd chwyrligwgan i’r ymennydd, gan adael y gwyliwyr yn teimlo’n chwil gorn. Ond fel sawl sesiwn fawr, cafwyd elfen o benmaenawr, wrth i chwarae droi’n chwerw mewn chwinciad.

Mae cynhyrchiad Y Glec ar daith ysgolion ar hyn o bryd yng Ngheredigion, Sir Gâr a Sir Benfro, cyn teithio prif theatrau Cymru yn y Gwanwyn. Mae’n archwilio effeithiau cam-ddefnydd alcohol, ond nid ar ffurf pregeth sych-dduwiol. Trwy ddefnydd craff o hiwmor, dangosir yn glir, sut all un digwyddiad droi bywydau ben i waered. Cynigir y cyfle i adlewyrchu, ac ystyried llwybr arall mewn ffordd nad yw’n gawslyd o gwbl.

Owain Llŷr Edwards (Diwrnod Mawr Sali Mali) a Rhodri Siôn (Dros y Top) yw’r ddau sy’n ein gadael yn gegrwth.  Mewn tour de force go-iawn, llwydda’r dau actor disglair  i chwarae degau o gymeriadau amrywiol. Trwy ddefnydd cynnil ond deheuig o leisio, gwisgoedd ac ymarweddiad, down i adnabod  – ac uniaethu â phawb,  mewn llai nag awr.

Fe’n croesawir i ofod theatr sy’n nes at glwb nos na neuadd addysgiadol yn Y Glec. Gwynebir wal o sain dubstep, llawr gwyddbwyll du a gwyn, a dau Blues Brother o’n blaenau, â gitar yr un.  Trawsffurfia Elwood a Jake, o flaen ein llygaid, yn dad bygythiol a glaslanc pryderus. Mark Duckworth (Rhodri Siôn)  yw gwestai cyntaf parti ‘pizza a fancy dress’ ei gyd-ddisgybl yn yr ysgol uwchradd, sef Tula (Owain Llŷr Edwards).

Tra fod y merched yn ymbincio, a’r tad yn gadael am y noson, fe welwn ni bawb yn cyrraedd yn y parti trwy lygaid Mark. O Blondie, o’r tim rygbi, i’r stoner Gary, a’i ffrind Ben; y deliwr cyffuriau, y giang Pwylaidd a DJ Fonz. Ymysg eraill mae’r merched tipsy, gan gynnwys Kathy a Kizzy, a profwn newid yn naws y noson ar hyd y sioe.

Wrth i’r coctels cynyddol lifo, dechreua rai anesmwytho, gan gynnwys Ben, sy’n foi reit ddiniwed yn y bôn. Meddai’n betrus wrth Mark,‘Weithia ti jyst yn gallu teimlo y newid yn yr awyr; mae o’n rili rili weird.’ Wrth i densiynau gronni, distewa’r sain yn ddisymwth, a chlywn glec sy’n trawsnewid bob dim. Mae’r gwahaniaeth yn syfrdanol, a  troir stumogau aelodau’r dorf gan ddisgrifiad cignoeth o’r digwyddiad ei hun. Caiff sylw pob gwyliwr ei hoelio gan hyn, ynghyd â’r effaith ar y gymdeithas ehangach.

Llwydda’r actorion i gydbwyso’n dda rhwng y llon a’r lleddf, a chynnal momemtwm rhagorol ar hyd y cynhyrchiad. Daw pŵer y ddrama nid o lunio un dihiryn, ond wrth gynnig sawl drych at y dorf.

Dyma’r ail ddrama lwyfan gan Tom Lycos o Zeal Theatre i gael ei haddasu i’r Gymraeg gan Arad Goch. Llwyddodd sioe Tafliad Carreg i gorddi’r dyfroedd yn 2009, a gwna’r ddrama hon union ’run fath. O’m rhan i, fe’m trawsblannwyd yn ôl i ddyddiau f’arddegau;  cyfnod chwithig, chwerwfelys ar adegau.

Yn gyfnod arteithiol o hunan-ymwybodol i rai, gyda llwythi gelyniaethus o’u cwmpas, mae’n cymryd un dewr i wneud safiad go syml, yn seiliedig ar synnwyr cyffredin.  Gyda’r ddrama yn teithio Cymru yn ystod mis Mawrth, byddai’n talu i bawb fynd i’w gweld. Mae Y Glec yn ein atgoffa  fod gan bawb rôl i chwarae, a chyfrifoldeb dros eu hunain – ac eraill.

 

 

 

 

 

Leave a Reply