Y Tad, Theatr Genedlaethol Cymru yn Theatr Clwyd

March 14, 2018 by

Enillodd Le Père gan Florian Zeller Wobr Molière ym 2014 am y Ddrama Orau, ac enillodd Geraint Løvgreen y gystadleuaeth Trosi Drama i’r Gymraeg yn Eisteddfod 2016 am y trosiad newydd yma i’r Gymraeg.

Yng ngolygfeydd cyntaf y ddrama, mae’n amlwg o densiwn y ferch, Ann (Catrin Mara), bod ei thad yn sâl, ond eto gweddol fwyn a digrif ydy’r dryswch.

Ond mae gweld wyneb sy’n newid yn annisgwyl, a chlywed hanes gwahanol yn cael ei adrodd, yn ein cychwyn ar daith lle mae amser, llefydd, gwrthrychau a phobl yn gwbl ansefydlog.

Mae Arwyn, Y Tad (Dyfan Roberts), yn gymeriad cydymdeimladol iawn – yn hoffus, doniol, deallus, a ‘chlên’, fel ei ddisgrifiwyd gan gymeriadau eraill. Mae yna anwyldeb a direidi yn y ffordd mae’n ymwneud ac eraill, a chawn ambell bwl o chwerthin, ond teimlo oeddwn i mai chwerthin gydag Arwyn oedden ni ac nid ar ei ben.

Ond ar adegau mae ei eiriau tuag at ei ferch mor greulon â chyllell. Mae’n ffafrio ei ferch arall Helen ac yn ddirmygus o Ann ac o’i ddiweddar wraig. Er bod Ann yn deall mae dementia sydd ar fai, dydy’r sylwadau yn gwneud dim i leihau’r straen cynyddol sydd arni.

Mae pethau’n gwaethygu nes mae perthynas Ann â’i phartner Pete dan fygythiad, a meddwl methiannus Arwyn yn creu profiadau mwyfwy erchyll iddo bob dydd nes bod angen iddo symud i gartref arbenigol.

Mae’r dechneg ddramatig o wneud niwl o bwy sy’n o iawn a be sy’n wir yn cael ei ddefnyddio i gynrychioli sut le yw y tu fewn i ben Arwyn, i ddangos ei ddryswch. Yn fwy na hyn, mae’r ffaith bod golygfeydd sy’n gwrthddweud ei gilydd hefyd yn digwydd rhwng Ann a Pete pan nad yw Arwyn ar y llwyfan, i mi yn ddull mae Zeller yn defnyddio i wneud i ni deimlo be mae o’n profi. Ac mae’n deimlad anodd iawn.

 

Tua’r diwedd ges i fy nghysuro pan mae Ann yn galw Arwyn yn ‘Dadi bach fi’ – cymerais i hyn i feddwl mai Anna oedd yn dweud hyn pan oedd yn fach ac nid Helen, gan brofi bod Arwyn yn caru Anna mewn gwirionedd. Ond gall olygu ei fod yn cymysgu’r genethod hyd y diwedd.

Cwestiwn arall yw a yw’r Dyn (Rhodri Siôn) yn bodoli ym meddwl Arwyn yn unig, yn symbol o’r bwgan dementia a’u greulondeb, neu ydy o’n bodoli ac yn ei gam-drin? Yr ateb gyntaf yr ydw i’n credu, ond dydyn ni byth yn gwbl siŵr be di be, a dyma yw prif gampwaith y ddrama yn fy marn i.

 

Mae’r set yn effeithiol, gyda’r dodrefn a gwrthrychau yn symud o hyd i gyfleu anesmwythder Arwyn, a’r drysau ar agor cyhyd nes iddyn nhw gau wrth i’r diwedd agosáu i Arwyn – a drysau sefydliadol ydynt.

Roedd defnydd o sain yn effeithiol hefyd i hybu’r awyrgylch o anesmwythder, yn enwedig y clychau a ddaw wrth i’r Dyn ddod ar y llwyfan.

Rhoddodd bob un aelod o’r cast berfformiad ardderchog, gyda Catrin Mara’n hynod gredadwy fel Ann, rôl sydd yn siŵr yn emosiynol flinedig.

Roedd Dyfan Roberts yn wych fel Y Tad, hefyd mewn rôl anodd iawn, gyda swp o linellau ac ystod eang o emosiynau i gyfleu.

Mae perfformiadau olaf Y Tad wedi gwerthu allan, ond os ceir gynhyrchiad arall yn y dyfodol – ewch i’w weld, mae’n brofiad gwerth chweil a chofiadwy.

 

http://theatr.cymru/portfolio/y-tad/

Leave a Reply