Pontio yn cyhoeddi rhaglen fywiog ar gyfer Haf 2018

March 27, 2018 by

Bydd rhaglen artistig Mai-Awst 2018 Canolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio, Bangor yn mynd ar werth heddiw, 28 Mawrth am 10.00.

Ymysg yr uchafbwyntiau mae ymweliad Shakespeare’s Globe, y band Gwyddelig, The Fureys, cyngerdd Catrin Finch a Seckou Keita, gig Gwenno, syrcas gyfoes o’r radd flaenaf, sioeau plant, cynhyrchiadau Ballet Cymru, Theatr Genedlaethol Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru, yn ogystal â’r rhaglen sinema gyfredol a darllediadau byw.

Prifysgol Bangor fydd yn agor y tymor ym mis Mai gyda chyngerdd Cerddorfa Symffoni a Chorws y Brifysgol ac Arddangosfa Ddawns yr Haf y Cymdeithasau Dawns, gyda’r Ysgol Cerddoriaeth yn cyflwyno eu Cyngerdd Gala Diwedd y Flwyddyn ddiwedd y mis.

Bydd Theatr Genedlaethol Cymru yn dychwelyd gyda drama Hefin Robinson, Estron, Soho Theatre a Talawa Theatre Company yn cyflwyno sioe gomedi dywyll, Half Breed a Little Wonder yn dod a mwy o gomediwyr gorau Prydain i’r Clwb Comedi. Y Byd Ben-i-waered fydd teitl cynhyrchiad newydd project cyfranogol Pontio, BLAS fydd hefyd yn cyflwyno noson arbennig sy’n archwilio grym sgwrs rhwng pobl ifanc a rhai sy’n byw gyda dementia, Ein Lleisiau.

 

 

Heb os, uchafbwynt y rhaglen fydd ymweliad Shakespeare’s Globe ar ddechrau mis Mehefin. Caiff Theatr Bryn Terfel ei thrawsnewid i gyfleu naws a theimlad y Globe gyda chyfran o’r gynulleidfa’n sefyll. Yn ôl traddodiad, rhoddir dewis o dair drama, The Merchant of Venice, The Taming of the Shrew a Twelfth Night, a bydd y gynulledifa yn pleidleisio ar y noson dros pa ddrama yr hoffent ei gweld yn cael ei pherfformio o’u blaenau.

A hithau’n Flwyddyn y Môr Croeso Cymru, mae’r thema fel petai’n treiddio drwy’r rhaglen, a byddwn yn ymuno â’r dathliadau gan gynnal gweithgareddau creadigol i deuluoedd ar thema’r môr yn ystod hanner tymor Mai. Bydd Theatr Iolo a Pontio yn cyflwyno darn o theatr newydd sy’n cael ei ddatblygu’n gydweithredol gyda theuluoedd a bydd Hikapee Theatre yn diddanu cynulleidfa Teulu Pontio gyda syrcas awyr, comedi corfforol ac adrodd stori hudolus yn sioe deuluol, Tua’r Lleuad.

Daw cerddoriaeth o bob cwr o’r wlad gyda The Fureys yn perfformio rhai o’u clasuron a deunydd newydd, Catrin Finch a Seckou Keita (Senegal) yn perfformio eu halbwm hirddisgwyliedig, Soar am daith blynyddol gwalch y pysgod o 3,000 milltiro arfordiroedd Gorllewin Affrica i aberoedd Cymru. Bydd cyfle hefyd i weld Gwenno yn perfformio ei halbwm seicadleig hyfryd gyda blas y môr arni mewn gig sefyll gyda chefnogaeth R.Seiliog.

Bydd Gandini Juggling yn dychwelyd gyda sioe newydd anturus ac amryliw sy’n gyfuniad o ddawns a jyglo, Spring, a Casus Circus o Awstralia yn cyflwyno eu hunig berfformiadau yng Nghymru o’u sioe acrobatig unigryw, Driftwood. Os am roi cyfle arni eich hun, bydd digonnedd o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithdai o bob math.

Croesawn Ensemble Cymru yn ôl gyda’u cyngerdd Uchafbwynt Taith Ben-blwydd, Opera Cenedlaethol Cymru gyda chyngerdd Clasuron Opera’r Haf, Ballet Cymru i gyflwyno Cinderella ac Ysgol Glanaethwy i berfformio eu sioe liwgar a cherddorol, Camllisafu. Cawn hefyd noson ddifyr yng nghwmni Gwyn Llewelyn fydd yn sgwrsio â Charles Duff am ei hunangofiant hynod drawiadol, a sioe newydd sbon Bardd sy’n dod a’r hip-hopwyr o fri Martin Daws ac Ed Holden/Mr Phormula ynghyd.

Yn dod a’r tymor i ben bydd Cyngerdd Cofio’r Canmlwyddiant gyda Band y Gwarchodlu Cymreig a Chôr Merched RAF Y Fali, Stiwdio Ddawns Bangor yn cyflwyno Breuddwyd Carnifal a darn rhyngweithiol i leddfu’r enaid, NHS70: Touch, sy’n cyfuno pwerau iachau, therapiwtig dawns a chyffyrddiad National Theatre Wales a Migrations.

 

Dywedodd cyfarwyddwr artistig Pontio, Elen ap Robert: “Wrth edrych ymlaen at dymor yr haf, cawn gyfle i groesawu nifer o gwmnïau cenedlaethol yn ôl atom yn ogystal â chyflwyno ambell i brofiad theatrig gwahanol iawn!”

Bydd tocynnau ar werth o Ddydd Mercher 28 Mawrth am 10am o pontio.co.uk neu 01248 38 28 28. Am gopi o’r rhaglen ewch i pontio.co.uk neu galwch heibio’r ganolfan.

Leave a Reply