Richard James o’r Gorky’s yn ysgrifennu ei ddarn cerddorfaol cyntaf

November 2, 2017 by

Mae cyd-sefydlydd y Gorky’s Zygotic Mynci, Richard James, yn ymuno â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC i roi’r perfformiad cyntaf erioed o’i ddarn cerddorfaol cyntaf ar 18 Tachwedd yn Theatr Bryn Terfel, Pontio, Bangor.

Bydd y gwaith yn cael ei arwain gan John Quirk, ac bydd dwy ran i’r noson. Darnau gwreiddiol gan Richard James wedi’u trefnu ar gyfer Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC fydd y rhan gyntaf, gyda Richard yn canu’r gitâr a’r piano. Yn yr ail hanner, bydd premiere byd o’r gwaith gan Richard; cyfansoddiad o ddeg darn a phob un yn gysylltiedig ac yn plethu i’w gilydd, wedi’u hysgrifennu’n benodol ar gyfer y gerddorfa.

 

Ac yntau’n cyfansoddi am y tro cyntaf ar gyfer cerddorfa, bydd Richard yn gweithio gyda’r cyfansoddwr a’r trefnydd Seb Goldfinch i greu deunydd newydd yn seiliedig ar y berthynas rhwng tirweddau mewnol ac allanol, gan gyfleu sut mae ein hamgylchedd yn siapio ac yn ffurfio ein meddyliau a’n hemosiynau.

 

Meddai Richard James “Rwy’n hoffi’r profiad ynysig yn ogystal â’r profiad cydweithredol o greu cerddoriaeth, a phrosiectau cysyniadol mwy sy’n cynnwys sawl celfyddyd. Rwy’n hoffi’r broses o glymu un gweledigaeth wrth syniadau pobl eraill i greu rhywbeth sy’n fwy na’r un ohonom, sydd ar y diwedd, gobeithio, yn creu gwaith diddorol, cyffrous, angerddol ac atyniadol.”

 

Ysgrifennwyd y cyfansoddiad newydd hwn yn ystod diwedd tymor yr haf 2017, a’r hyn sydd wedi bod yn ddylanwad ac yn ysbrydoliaeth iddo ydy tirweddau gwledig, trefol ac arfordirol de a gorllewin Cymru. Mae’n ymateb greddfol ac isymwybodol i’r amgylcheddau hyn, gan greu cerddoriaeth offerynnol rhannol abstract a rhannol linellog, ac sy’n archwilio’r perthnasoedd a’r effeithiau y mae’r tirweddau hyn yn eu cael ar emosiynau a meddyliau Richard ei hun yn ystod bywyd bob dydd.

 

Bydd yr artist Angharad Van Rijswijk, a fu’n gweithio gyda Richard y llynedd ar ddarn celf sain ar gyfer BBC Radio 3 Late Junction, yn llunio dau ddarn o gelf sain gwreiddiol i gyd-fynd â’r gwaith.

 

Yn cefnogi yn y gig fydd Iwan Huws o Cowbois Rhos Botwnnog, a fydd yn perfformio deunydd o’i albwm cyntaf ar ei liwt ei hun.

 

Bydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn perfformio premiere byd Richard James ddydd Sadwrn, 18 Tachwedd yn Pontio, Bangor [8pm]. Am ragor o wybodaeth a thocynnau, ewch i https://pontio.co.uk/Online/d17Richard

neu ffoniwch 01248 38 28 28.

 

 

 

 

Leave a Reply