Derwen, Invertigo, Stiwdio Pontio, Bangor

October 30, 2018 by

Anaml iawn y bydd rhywun yn cael y pleser o fynd i wylio drama heb glem o gwbwl beth i’w ddisgwyl. Dyna oedd fy hanes i yn stiwdio Pontio wrth fynd i weld cynhyrchiad cwmni Invertigo o ‘Derwen’ cyfieithiad cyhyrog Mared Llywelyn Williams o ‘An Oak Tree’ gan Tim Crouch . Hyd yn oed rhyfeddach efallai doedd un o’r actorion, Wyn Bowen Harries fawr callach nag oeddwn i.

Mae Derwenyn hynod, yn arbrawf theatrig sydd yn tynnu drama lwyfan draddodiadol yn griau ac yn gorfodi rhywun i feddwl drwy’r holl berfformiad. Dim ond un actor, Steffan Donnelly oedd gyda’r holl wybodaeth a thrwy ddefnydd o feicroffonau, sain a sgript roedd o’n ein harwain ni a Wyn drwy’r ddrama.

Ar adegau roedd gofyn i Wyn ddarllen o sgript, ar eraill roedd o’n dilyn cyfarwyddiadau drwy glustffonau neu’n dilyn awgrymiadau. Roedd ansicrwydd yn ran mawr o’r holl berfformiad wrth i’r ffin rhwng y cymeriadau, a’r actorion gael ei gwneud yn annelwig iawn. Roedd natur actio, cyfarwyddo a llunio drama yn cael eu harchwilio ac er y byddai’r holl dynnu a dieithrwch y profiad yn gallu tanseilio’r ‘plot’ llwyddodd hwnnw i fy nhynnu a’m cadw hefyd. Mae hi’n anodd cynnig adolygiad traddodiadol o’r ddrama hon gan mai cymaint oedd natur arbrofol y perfformiad nes bod unrhyw frychau a chamgymeriadau yn ychwanegu at effeithiolrwydd.

Ar ei symlaf stori am hypnotydd sydd wedi colli ei fojo a hynny wedi iddo daro merch ifanc ar ddamwain ydi Derwena stori am be sy’n digwydd pan mae’r hypnotydd hwnnw yn dod wyneb yn wyneb âthad y ferch rai misoedd wedi’r cwest.

Llwyddodd Steffan i bortreadu hyfdra, ansicrwydd ac euogrwydd yr hypnotydd yn gywrain ond roedd ei berfformiad yn cynnwys llawer iawn mwy hefyd. Fo oedd y tywysydd, y cyfarwyddwr a’r technegydd mewn rhai achosion a llwyddodd i arwain Wyn a ninnau’r gynulleidfa yn gelfydd. Mae ganddo garisma eithriadol ar lwyfan ac roedd ei reolaeth ar bob agwedd o’r ddrama yn linyn o gysur drwyddi.

Er na chafodd o ddim amser o gwbl i baratoi llwyddodd Wyn i gyflwyno Andrew y tad fel cymeriad stoig, a oedd yn amlwg yn galaru ond eto’n ceisio cadw’i hunan barch. Wrth i’w bortread fynd yn ei flaen daeth yn gynyddol amlwg fod Andrew yn wedi cael cnoc galetach nac yr oedd rhywun wedi feddwl. Roedd ei berfformiad yn eithriadol ar sawl ystyr ac yn destament i brofiad Wyn fel actor. Nid ar chwarae bach dwi’n siŵr oedd mynd ati i berfformio o dan y fath amgylchiadau ond diolch ei fod wedi gwneud.

Wrth gwrs bydd yr ail actor a thrwy hynny’n holl gynhyrchiad yn wahanol ym mhob perfformiad. Mae hon wir yn ddrama werth ei gweld fwy nac unwaith felly. Gadewais y stiwdio yn meddwl ac yn falch bod rhywbeth rhyw fymryn yn wahanol wedi ei gynnig i ni fel cynulleidfa. Bachwch ar y cyfle i fynd i weld Derwen, chewch chi mo’ch siomi.

 

Invertigo presents Welsh language premiere of An Oak Tree – Derwen

Leave a Reply