Dilyn Fi, Cwmni Frân Wen, Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau

August 2, 2016 by

Yn dilyn taith fach ddechrau’r flwyddyn, cafwyd cyfle bendigedig i brofi perl o sioe i blant ar faes y Brifwyl yn Y Fenni. Ond fel yn achos cynyrchiadau eraill or fath i blant bach, cynigir gwersi a phleserau yn ogystal i oedolion yn sioe dyner, llawn dychymyg,

Braf iawn oedd gweld plant  bach yn cael eu denu’n syth bin i eistedd at sêr y sio. Fe hoeliwyd eu sylw, a cafwyd gwrandawiad  astud iawn am dri charter awr yn Theatr y Maes. Crewyd naws fyfyriol iawn ar hyd y cynhyrchiad, a’n tywysodd trwy ddrws y dychymyg. Ond dihangfa dros dro oedd cyrchfan y sioe, ymhell o ddwndwr newydd-ddyfodiad; baban bach swnllyd, a fynnai sylw pawb, er mawr siom i Nansi, ei chwaer fawr.

 

 

 

Fe wylion ni Nansi (Cêt Haf) yn chwarae â Cai (Elgan Rhys), ei ffrind gorau mewn dyngarîs denim; yn dawnsio a chwerthin, gan ddynwared anifeiliaid, ar goll ym mhleserau’r dychymyg. Ategu at awyrgylch freuddwydiol eu hwyl wnaeth cefnlen gerddorol Gruff ab Arwel (Eitha Tal Ffranco, Palenco, Y Niwl) – ar adegau’n arallfydol, ar brydiau eraill yn brudd, yn syrthio’n braf rhwng gwaith Y Niwl a Moon Safari.

Daeth cwmwl mawr du i darfu ar y ddau, yn achos crio cefndirol ‘Babi Bleddyn’. Tywyllodd gwyneb Nansi ar achlysur pob bloedd – prun a’i’n wich neu’n chwerthiniad bach braf. Fe  ymgollodd hi ymhellach i fyd yr ‘eliffant’, gan fygwth dieithrio Cai yn llwyr. Ond camodd Cai i esgidiau prif ‘arwr yr awr’, wrth ei darbwyllo nad bygythiad mo Bleddyn. Fe dywysodd yntau Nansi i ‘Affrica’, lle ddaeth hi wyneb yn wyneb ag eliffant go iawn, a hwnnw’n un go debyg i’w brawd iau…

Pleser pur oedd ymgolli’n llwyr ym mherfformiadau disglair Cêt Haf ac Elgan Rhys; plethwyd cyffyrddiau dawns i’w symudiadau sionc, oedd mewn cytgord llwyr â’i gilydd. Ymgorfforwyd ryddmau bychain – ynghyd â thrac sain cynnil iawn – i gynorthwyo antur fawr y dorf. Ag ychydig iawn o eiriau, fe’n hudwyd dros y dŵr – ar awyren, cwch a thrên – gan chwysu a chwerthin bob cam.

Ond siwrne ddwysach fyth a gymerwyd mewn gwirionedd, am natur cariad ac empathi. Rhannwyd emosiynau cymhleth – fel yn achos dryswch Cai, wrth wylio’i ffrind yn troi yn gas; ‘stopia, plis… ti’n neud fi’n drist’. Ac wrth i Nansi ddiosg maneg i gyffwrdd â’r babi eliffant, datgelwyd ei thynerwch a’i dynoliaeth hi.

Dyma gydweithrediad wych rhwng Cwmni Frân Wen a’r awdur Sarah Argent, dan gyfarwyddyd hynod deimlawy Iola Ynyr. Bydd cynulleidfaoedd rhyngwladol Gŵyl Caeredin ar eu hennil wrth brofi’r fersiwn Saesneg, Follow Me,  ym mis Awst. Ond dychwelyd i Gymru wna Dilyn Fi  yn yr hydref, felly da chi, profwch drysor dros eich hun.

 

 

 

 

 

 

 

 

Leave a Reply