Fleabag, Theatr Clwyd

September 28, 2023 by

I’r rhai sy’n anghyfarwydd â Fleabag, drama un-ddynes ffraeth a beiddgar yw hi gan Phoebe Waller-Bridge. Fe’i perfformiwyd am y tro cyntaf yng Nghaeredin a fe’i haddaswyd yn gyfres deledu boblogaidd. Perfformiodd Waller-Bridge y ddrama ar lwyfan y Theatr Genedlaethol (National Theatre) gyda ffrwd fyw i theatrau ar draws Brydain, gan gynnwys Theatr Clwyd.

Rhywun arall sydd wedi troedio llwyfan yr NT ydy Leah Gaffey, seren addasiad Cymraeg Branwen Davies o Fleabag. Tybiaf mai anodd dros ben ydy cofio’r 70 munud o fron monolog llwyr, wedi’i atalnodi gan ambell lais arall mewn mannau. Sialens hefyd i gynnal sylw’r gynulleidfa ar set mor gynnil. Mae Leah Gaffey’n llwyddo i wneud y ddau a gwneud iddo ymddangos yn hawdd.

Cymeriad cymhleth, doniol, budr, hoffus a ffaeledig yw Fleabag. Mae’r gor-rhywioldeb a gor-yfed yn hwyliog a ‘pham ddim?’ i gychwyn, ond yn raddol mae’r profiadau rhywiol yn fwy bas ac yn wacach a’r cyfnewidiau rhyngbersonol yn fwyfwy lletchwith wrth i ni dystio effaith galar dwys.

Mae perfformiad swynol a medrus Gaffey yn hoelio sylw’r gynulleidfa gan ein tywys drwy’r jôcs, y galar, y sefyllfaoedd ‘cringe’ a thorcalonnus tuag at y dadleniad mawr, ysgytiol.

Mae Branwen Davies wedi trawsblannu cymeriad uwch dosbarth canol Saesneg sy’n byw yn Llundain i un dosbarth gweithiol-canol o Ogledd Cymru sy’n byw yn Lerpwl. Roedd hyn y cyfoethogi’r stori i mi ac yn ei gwneud hi’n hyd yn oed haws i uniaethu a’r prif gymeriad. Er mor fudr ac eofn, mae’r iaith yn berffaith raenus ac yn adlewyrchu rhan o gymdeithas Gymraeg efallai sydd heb ei gyfleu ryw lawer. Cyn gweld yr addasiad roedd yn anodd dychmygu cymaint o wahaniaeth gwnaeth hyn, yn ogystal â chael gweld y ddrama yn ein mamiaith. Mae cynrychiolaeth yn y celfyddydau mor bwysig, ac mae’r addasiad medrus yma wedi ychwanegu rhywbeth gwerthfawr at gelfyddydau Cymru.

Mae Fleabag wedi bod ar daith drwy Gymru ers yr Eisteddfod Genedlaethol, gan orffen yn Theatr Clwyd, y cwmni cynhyrchu. Rhedwch, peidiwch gerdded, i’w weld cyn i’r daith orffen mewn deuddydd. Cynhyrchiad gwych gobeithiaf bydd cyfle i’w weld eto yn y dyfodol.

Mae Fleabag yn Theatr Clwyd tan Medi’r 30, tocynnau ar gael yma.

Leave a Reply