Ie, ie ie, Theatr Genedlaethol Cymru yn Theatr Clwyd

March 7, 2024 by

****

Arweiniwyd Ie, ie, ie, gan yr actor a digrifwr Eleri Morgan, presenoldeb carismataidd a hawdd i ymgysylltu â hi. O’r dechrau un, rydym yn teimlo ein bod mewn pâr o ddwylo diogel, dibynadwy a di-feirniadol…heb sôn am ddoniol!
Tywysa Eleri ni ar drywydd dwy stori – Eleri a Tom, a Rhi a Morgan, sy’n cychwyn mor debyg, ond yn cyrraedd pen taith dra gwahanol.

Archwiliad doniol, heriol a phwysig o gydsyniad yw Ie, ie, ie, gan Theatr Genedlaethol Cymru. Wedi’i gyfarwyddo gan Juliette Manon, nid yw’n or-ddrwm, or-ffraeth nag or-ddifrifol – mae’n berffaith.

 

Mae’r ddrama’n gwahodd y gynulleidfa i gymryd rhan, gyda thri pherson ifanc yn gwirfoddoli i ddarllen sgript, ac aml i gyfle is sgwrsio a rhannu barn.

Doedd dim byd tebyg yn bodoli ar gyfer ein cenhedlaeth ni (40au), felly fel mam o ddwy ferch sydd yn aml yn poeni am bynciau tebyg, braf yw gweld bod y theatr yn mynd i’r afael a dyletswydd nac efallai nad ydy byd addysg o hyd yn gwneud.

Mae cydsyniad yn bwnc llosg ym myd y cyfryngau ond nid oes cyfoeth o ddeunydd Cymraeg yn ymdrin â’r pwnc. Mae Eleri Morgan mor gredadwy, wnes synnu mai wedi ei addasu o ddrama o Seland Newydd mae Ie, ie, ie, ond ta waeth, mae Lily Beau wedi gwneud gwaith campus ohono.

Dyma ddrama ddeniadol sy’n llwyddo i fod yn ddiddan ac yn addysgiadol ar yr un pryd yw Ie, ie, ie.
Mae pedwar perfformiad o Ie, ie, ie ar ôl, manylion yma.  https://theatr.cymru/en/shows/ie-ie-ie/

 

Eleri Morgan, credit Kirsten NcTernan

Leave a Reply