Imrie, Theatr Clwyd

June 7, 2023 by

 

Drama gyffrous a dwys gan y dramodydd Nia Morais yw Imrie, cynhyrchiad ar y cyd rhwng Frân Wen a’r Sherman Theatre.

Dwy chwaer yw Laura (Elan Davies)  a Josie (Rebecca Wilson) sy’n teimlo’u bod ar ymylon sîn cymdeithasu’u criw ysgol, a bywyd yn gyffredinol. Mae Laura’n penderfynu ymuno â’r hwyl ac yn fuan yng nghanol y cymdeithasu, ond mae Josie’n ffeindio pethau’n anoddach.

Cedwir y merched oddi wrth y môr ers oeddynt yn ferched bach, ond rŵan yn ystod parti ar y traeth mae digwyddiad sy’n newid bywyd Josie am byth.

Mae perfformiadau’r ddwy actor yn hudol mewn drama sy’n ddwys ac yn gofyn llawer ohonynt ar lafar ac yn gorfforol. Roedd cyfarwyddo Gethin Evans yn llwyddiannus tu hwnt ac yn sicrhau bod ein sylw wedi’i hoelio ar y ddwy gymeriad drwy gydol y perfformiad.

Mae’r set syml wedi’i ddylunio’n fedrus gan Cai Dyfan i gyfleu’r traeth, a’r deunyddiau defnyddiwyd yn mwyhau’r gwaith goleuo campus gan Ceri James sy’n ei drawsnewid yn fyd tanddwr swynol. Roedd sgôr swynol Eädyth Crawford yn cyfrannu tuag at yr effaith yn fawr.

 

 

Mae ymateb mam a chwaer Josie i’r ffaith ei fod yn seiren yn drosiad o’r heriau wynebwyd yn y gorffennol gan bobl hoyw, ac yn bresennol mewn rhai ardaloedd o’r byd. Maent eisiau ei chadw ar y tir rhag ofn i bobl ei chasáu ac oherwydd eu hofnau eu hunain, yn union fel oedd pobl yn arfer meddwl bod angen mygu neu drawsnewid cyfunrywioldeb. Mae hefyd yn drosiad ar gyfer sut gall fod yn beryglus weithiau i fod yn ddynes, gan gyfeirio at losgi gwrachod.

O ystyried y trosiad yma, mae’n ddiddorol bod y mater o ragfarn a ‘micro agressions’ ar sail hil yn cael ei ddelio hefo fo’n uniongyrchol gan Laura, sy’n aml-ethnig. Ta waeth, mae’r ddyfais ddramatig o droi’n seiren a holl hyfrydwch byd tanddwr hudol yn un difyr ar ben ei hun. Daw’r ddrama at bwynt berwi gyda digwyddiad treisiol rhwng y chwiorydd, ond drwy rannu teimladau fuodd yn gudd am rhy hir, daw’r ddwy i ddealltwriaeth cryfach.

Bo’r mater yn rhywioldeb, hil neu’n fwy ffuglen wyddonol ei natur, y thema sy’n uno popeth yw pwysigrwydd byw yn awthentig a bod yn oddefgar a pharchus tuag at eraill.

Ar gyfer oedolion ifanc mae Imrie, ac roedd glaslances tŷ ni yn sicr wedi mwynhau’r cynhyrchiad yn fawr. Buaswn i yn ategu ei barn. Er bod rhai o’r dyfeisiau yn llai na cynnil weithiau ar gyfer hen hac fel fi, ar gyfer y gynulleidfa darged roedd wedi ei anelu’n berffaith. Drama ddewr, ddifyr ac adfywiol – ewch i’w gweld.

Mae chwech perfformiad arall o Imrie ar daith tan Mehefin 16.

 

Imrie, Sherman Theatre a Fran Wen Theatre

 

Lluniau: Mark Douet

Leave a Reply