Mwgsi, Theatr Frân Wen

November 7, 2017 by

Pur anaml y bydda i’n gadael sioe yn siomedig iawn am nad oedd hi’n ddigon hir. Ond ges i fy hudo i’r fath raddau gan sioe newydd Theatr Frân Wen, nes i mi ddigio ei bod mond gwta awr o hyd. Gallwn yn hawdd fod wedi treulio cryn dipyn rhagor ym myd Mwgsi; hafan freuddwydiol o hardd, serch testun gwenwynig y darn.

Addasiad, i raddau,  yw’r sgript (gan Manon Steffan Ros), o gyfres cignoeth o flogbostiau a gyhoeddwyd gan Megan Davies o Bwllheli yn 2015. Penderfynodd hithau fwrw’i bol ar-lein ar ôl darganfod fod arni ganser lymffoma Hodgkin, a hithau newydd droi’n 18 oed. Mae’r sioe felly’n dilyn ei siwrne hi trwy gyfnod heriol, a thu hwnt.

Mae’r cynhyrchiad arbrofol yn archwilio ffyrdd newydd o gyfleu taith gorfforol, a meddyliol o’r fath. Dibynwyd yn helaeth ar ystumiau dawns, cerddoriaeth a thafluniadau i archwilio teimladau o bob math. Ond peidiwch ag ymateb i’r geiriau ‘arbrofol’ nag ‘archwilio teimladau’ wrth wingo, a phenderfynu fod hon yn sioe sy’n werth i chi ei hosgoi.

Am un peth, mae’r agoriad estynedig yn cynnig symffoni i’r synhwyrau, sy’n ein denu i fyd afreal. Dyna ydy byw a chanser, i’r claf a’u caredigion; rhyw fath o gyflwr o oresgyniad bisâr. Tra bod y byd ‘go-iawn’ yn mynnu’ch plagio a rhuthro heibio, rhaid delio’n ddyddiol ag ansicrwydd mawr.

Wedi cychwyn myfyriol yn dilyn patrymau golau celfydd iawn, ac amsugno’r gerddoriaeth gyfareddol, daw tair merch ifanc, eithriadol o hardd, i gyfarch y dorf. Wrth iddynt anadlu’n ddwfn, cawn ein hypnoteiddio’n llwyr, gan ymuno a’u rhythm nhw yn ara bach. Mari (Mirain Fflur) yw un, neu ‘Mwgsi’ i’w theulu, a Greta (Catrin Mara) yw ei ffrind gorau hi. Mae’r drydedd (Ceri Elen) yn ffrind di-enw, ac yn dipyn mwy anelwig, sy’n holl-bresennol ar hyd y darn.

Terfir ar yr awyrgylch cychwynnol o ‘encil ymwybyddiaeth gofalgar’ gan guriadau disco a dawnsio ffyrnig, gan y dair. Try’r set syml yn glwb nos, gyda’r olygfa’n ddathliad meddwol o ddiwedd cyfnod arholiadau Lefel A. Mae’r merched â’u bryd ar fynd ar wyliau i wlad Groeg am un haf ola’ cyn ymuno â’r byd go iawn. Ond bore wedyn rhaid i Mari wynebu peiriant pelydr X; bu’n fyr ei gwynt, a’n colli pwysau ers tro.  Bu hynny, fe ymddengys, yn achos pryder ers amser i Greta, ond testun balchder i Mari, a’i ‘chysgod’ hardd. Ymhen dim, yn bur anffodus, cawn glywed ganlyniadau’r prawf; mae arni ganser, ac mae’n Kali Nichta ar ei gwyliau Gwlad Groeg.

Am weddill y ddrama, dilynwn daith cyfeillgarwch y ddwy, a chlywn lais achlysurol ei mam. Ond clywn hefyd lais arall, gan bresenoldeb parhaol ar lwyfan; ai angel gwarcheidiol neu ddiafol mewn croen, yw’r ffigwr amwys hwn?

Cyd-weithiodd y dair actores a’i gilydd yn wych, gan gyd-blethu profiadau cymysg iawn. O sgrechian anifeilaidd i fudandod, yn achos Mirain Fflur, mewn ymateb i’r newyddion, a’r triniaethau cas. Cafwyd haenau o hiwmor lliwiau cleisiau amrywiol, o iaith goch i arsylwadau du bitsh. A daeth Catrin Mara â dyfnder pellach ac aeddfedrwydd i’w rhan fel haden o ffrind orau, sy’n gymysg oll i gyd. Ond gadawyd marc cwestiwn dros bresenoldeb y drydedd ferch,  y mae Mari yn gyd-ddibynnol arni am gyfnod maith. Fe ddatblygodd yn gymeriad fel a gafwyd yn ffilm The Sixth Sense, y byddai’n gwbl amhriodol i mi ymheleaethu ar hynny oni bai eich bod wedi ei gweld! Ond gyda’i geiriau o gysur ambell waith, a chynghorion gwenwynig ar adegau eraill, tybed  ai cydwybod, neu lais iasol y canser ei hun oedd hi?

Cafwyd cliwiau i’r pos yn achos eu gwisgoedd hardd; ffrogiau tulle andros o brydferth ond bregus, un lliw cnawd gwelw, a’r llall yn ysgarlad cras. Yn nyfnderoedd y boen, gorchuddiwyd Mair yn y ffrog waedgoch, ond wrth iddi hithau gryfhau, diosgodd y ffrog honno, a gwanhau wnaeth ei hefaill milain-mynwesol. Ond amheuthun oedd arsylwi i’r berthynas barhau, wrth i Mair dderbyn y canser  – a hi ei hun – fel rhan o’i chorff ac nid ‘gelyn’ i’w ‘frwydro’, a’i ‘drechu’ (neu ‘golli’ iddo) ar faes y gad.

 

IMG_2705

IMG_2706

 

Yn bendant, cafodd cynulleidfa ifanc Chapter, Caerdydd, fodd i fyw, wrth weld y merched yn ‘cambihafio’ ar lwyfan yn y Gymraeg. Ynghyd â’r dryswch a’r ofn ingol sy’n mynd law-law a’r ias, archwiliwyd ambell ‘bleser’ euog, neu annisgwyl, y profwyd gan y claf; o ymwrthod â geiriau o gydymdeimlad yn llwyr, a throi’n selebriti lleol o fath, cafodd Mari ddiosg ei mwgwd cymdeithasol, derbyniol, ac yngan ffwc o sgrech reddfol, gras.

Hoffwn yn bendant fod wedi treulio tipyn rhagor â’r dair, a hefyd rhan fechan mam Mair, na wyddwn fawr ddim amdani. Fe glywsom ei llais cynnes yn adlewyrchu ambell waith, ond ddim chwarter digon iddi ddatblygu’n gymeriad o gig a gwaed . Gallai’r ddrama ei hun yn bendant fod wedi hymestyn gryn dipyn hwy, i ni yn y dorf gael cyfnod  i ddygymod a nifer o’r themau. Wedi’n denu ni fewn, daeth y ddrama i ben ar ffurf hanner-ochenaid braidd, gan adael nifer yn holi, oes toriad, ac wedi hynny, ran dau? Fe wn nad oes byth ‘all-clear’ go-iawn, pan fo canser yn y cwestiwn. Ond gobeithio y gellid datblygu Mwgsi ymhellach i gynnwys elfen tipyn cliriach o ‘ryddhad’.

 

 

 

 

 

Leave a Reply