No Wê, Theatr Bara Caws

July 5, 2015 by

Does na ddim byd tebyg i sioe glybiau Bara Caws ym myd y theatr Gymreig. Mae’r dramáu masweddus yn denu heidiau o Gymry Cymraeg sydd yn ysu gael eu diddanu. Nid eu herio, na’u goleuo, na’u cyffwrdd i’r byw – ond noson llawn hwyl a hafoc.

Dyna’n sicr oedd bwriad cynulleidfa Clwb Wellman’s Llangefni ar noson go fyglyd o haf. Roedd y criw mawr nesaf ata i a’u byrddau’n gwegian dan bwysau y pizzas, rholiau selsig a phopcorn. ‘Ff***n picnic sgynoch chi fanna?’ heriodd Maldwyn John, prif actor No Wê, o’r llwyfan; ‘Be yda chi, athrawon?’ Roedd y merched wrth eu bodd i fod yn destun ad-lib, gan sicrhau ‘nos Sadwrn bach’ llwyddiannus.

Atynodd y noson yr enwau mawr i ystâd ddiwydiannol Llangefni, o sêr Rownd a Rownd, y Prifardd Mei Mac, a Rhys Ifans – sydd yn y sinema ar hyn o bryd. Cafodd yntau, fel nifer, ei atynnu i’r sioe gan ddybl act Llyr Evans ac Iwan Charles, y mwynheuais i gyntaf yn Un Bach Arall Eto gan Bara Caws yn 2012. Ond un elfen yn unig oedd eu cyfraniad-ar-y-cyd i’r sioe ensemble fywiog hon, sydd ar daith ledled Cymru ar hyn o bryd.

Prif thema’r cynhyrchiad oedd pastiche James Bond, gydag is-haen yn dychan dylanwad y we ar bob agwedd o fywyd byd cyfoes. Mae’r cynhyrchiad yn orlawn o sangiadau, innuendo, gwaith byrfyfyr, a’r gwallgofrwydd arferol. Fydd neb sydd wedi profi sioe glybiau gan Theatr Bara Caws o’r blaen yn hidio dim – ac mae eu poblogrwydd ers 1977 yn tystio i’w llwyddiant. Ond osgowch, da chi, os ydych o anian go fregus, neu’n seleb sensitif yn y bôn.

O ran y stori, derbynia’r asiant anobeithiol, Jâms Bondage (Maldwyn John), ei alw i’r adwy gan ei fos yn MI69, Judi Stench (Gwenno Ellis Hodgkins); y broblem, mae’n debyg yw fod y we fyd eang mewn peryg o gael ei ddiffodd. Troi am gymorth wna James at yr asiant cudd Double D (Llyr Evans), y dyfeisiwr Cyw (Iwan Charles) a’i ysgrifenyddes Miss Moneyshot (Catrin Mara), i drechu haciwr honco bost – ond pwy yn union yw’r dihiryn? Dyna’r dirgelwch…

Nid arwr suave mo’r asiant Jâms, ond haliwr heb ei ail; tanlinellir ei brif ddiddordeb mewn cyfres o ganeuon, sy’n egluro ‘tystysgrif’ 18+ y sioe. Caiff nifer o sêr Cymreig eu targedu gan y sgript, gan Barry ‘Archie’ Jones – enillydd BAFTA am y gyfres Dim Byd. Dan y lach mae Beti George, Iolo Williams a Dai Jones, ac enwau mwy lleol i Sir Fôn.

Tra fod nifer o’r llinellau yn taro fel bwled o wn, y mae eraill dipyn nes at rech wlyb; gyda’r profiad yn debyg i ddarllen copi o gylchgrawn Lol, mae’r hiwmor yn agos at yr asgwrn ar adegau. Roedd y dorf yng nghlwb Wellman’s wrth eu bodd, yn enwedig â’r jôcs gwan, gaiff eu tanlinellu’n glir yn null yr anterliwt. Mae’r sioe yn debygol o newid o noson i noson, hyd diwedd y daith yn yr Eisteddfod.

Yn feistr y seremoniau tan gamp, rhaid dweud, y mae’r actor Maldwyn John – hen law ar sioe glybiau Bara Caws ers amser maith. Mae’n ennyn cefnogaeth y dorf yn rhwydd, gyda’i hiwmor hunan-gyfeiriadol; yn barod iawn i dychanu’i hun cyn meiddio troi’r gyllell ar eraill. Yn straight-woman gref i’w giamocs ef y mae’r ddynwaredwraig Catrin Mara, ond mae ei doniau disglair hi i’w gweld yn gliriach mewn cyfres o is-gymeriadau, gan gynnwys un barfeistres sydd yn ‘shaken, not stirred’.

Un o uchafbwyntiau’r sioe ydy’r anthem i’r menopôs gan Gwenno Ellis Hodgkins fel Shirley Classy. Mae hi’n edrych yn odidog yn ei ffrog sequins aur, serch teitl y gân, ‘Hen Mingar’.

Caiff Llyr Evans gryn hwyl fel yr asiant Double D – sy’n groes rhwng supermodel ac un o ferched-ddynion Bangkok – ac Iwan Charles fel Cyw crac ac arch-elyn i Jâms, sy’n groes rhwng Odd-Job a Toulouse Lautrec.

Mae’r manylion gweledol yn rhan o’r hwyl, gyda’r motif James Bond yn glir, diolch i waith silwet effeithiol, heb sôn am y car Cymreig clyfar, Arfon – sydd yn wyn.

Ond roedd hi’n werth bob cam o Gaerdydd i Langefni i brofi eu perfformiad-ar-y-cyd, fel grŵp pop neisaf Cymru, y brodyr Brigyn. Mae na gemeg rhyfeddol yn bod rhyngddynt , sydd yn wir yn werth ei brofi;  gyda’r gorau ers Ryan a Ronnie a’r Ddau Frank.

Does dim rhyfedd gen i y byddan nhw’n chwarae Syr Wynf a Plwmsan mewn cynhyrchiad arfaethedig; gwell fyth fyddai eu gweld mewn sioe sgetsus newydd sbon o gymeriadau gwreiddiol.

 

Leave a Reply