Yuri, Chapter

October 11, 2015 by

Gyda’r ddrama eisioes ar waith wrth fyned y set, drylliwyd y bedwaredd wal wrth fachu fy sedd. Wrthi’n arthio cyfarwyddiadau at Siwan, y rheolwr llawr, oedd cymeriad grotesg Angharad (Carys Eleri), wrth hefyd gorlannu’r dorf i barti syrpreis.

Asiai ei ffrog streips llachar â’r lolfa gyfoes – Momentum-chic meets Ikea-cheap, mewn chwdfa o liwiau day-glo. Ond cafwyd awgrym o banics yn ei ei steil gwallt-gwely, ac absenoldeb un clust-dlws.

Croeswayd Patrick (Ceri Murphy) ei gŵr – sef testun y parti – gan gymeradwyaeth wresog y dorf, a perfformiodd y pâr eu cyfarchion i’w gilydd fel cystadleuwyr mewn hen gêm gwis. Crewyd egni rhyfeddol rhwng y ddau, fel perfformiad comedi stand-yp uwch-real; y gerddoriaeth uwchlaw oedd pastiche o drac sain ffatri freuddwydion cyfres deledu Grand Designs.

 

Byw’r freuddwyd oedd delfryd y ddau ohonynt, a chadw lan gyda’r Jônsys go iawn; rhwng ei llyfrau lliwio ‘Mindfulness’ hi a’i yogic head-stands a’i smŵddis brocoli yntau, dyma ddiffiniad cyfoes o’r cwpwl perffaith – heblaw am yr eliffant yn y stafell, anffrwythlondeb.

Taclwyd hynny yn syth – mewn ffordd anarferol – ar ffurf rhodd rhyfedd Angharad i’w gŵr; llanc ifanc, mud o Rwsia, o’r enw Yuri (), a herwgipiwyd ganddi hi o siop Lidl. Am weddill y sioe, trowyd eu byd ben i waered, diolch i bresenoldeb amwys y llanc.

Pwy yn union yw Yuri? Oes cynllun dieflig ganddo ar waith? A paham fod pasports i Tseina a’r Congo ganddo yn enw Abdullah Wang? Ai rhithweledigaeth ydyw, yn cynrhychioli hunllef o fewn hunllef, i’r pâr beryglus-fregus druenus ddi-blant?

 


Mae na ddigon o hwyl i gael ar hyd y cynhyrchiad gwallgof hwn, diolch yn bennaf i addasiad disglair Dafydd James. Mae’n gerbyd perffaith i danio dychymyg y dramodydd hynod ddireidus, gaiff gymaint o hwyl wrth drosi’r sgript Ffrangeg i’r Gymraeg; mae’r canlyniad yn adleisio llwyddiant Llanast! (Theatr Bara Caws). .

Wrth i Patrick awgrymu’n onest y byddai’n well ganddo fagu babi o’r Gorllewin na’r Undeb Sofietaidd – ac yn ddelfrydol, rhywle ‘rhwng Tymbl Uchaf a Llangennech’ – fe aiff ati i holi Angharad ‘o ble yn union ma Yuri’n dod’, gan dderbyn yr ateb godidog, ‘o grombil ein dyheadau’

 


Mae’r ddau actor comig ar eu gorau yma, gan droedio’r linell denau rhwng cariad a chasineb. Fe ddisgrifiais i Carys Eleri fel ‘potel o bop o actores’ mewn adolygiad ychydig yn ôl. Yma, mae hi’n nes at botel siampaen, wedi’i hysgwyd a’i rhyddhau ar ddiwedd ras geir Grand Prix; mae Ceri Murphy yn bartner perffaith iddi, fel petai wedi hen wneud dêl gyda’r diafol; yma, efe sy’n gyfrifol am ysgwyd y botel, ac sy’n derbyn cael ei drochi drachefn.

Rhwng y ddau y mae Yuri – sy’n gyfuniad bisâr o Damien:The Omen  a The Man Who Came To Dinner. Mae Guto Wynne Davies yn creu argraff fawr mewn perl anarferol o ran.

Ond mae’r diolch am hyn i gyd i arweiniad hynod gadarn gan y gyfarwyddwraig Mathilde Lopez, sy’n cadw trefn ar anrhefn pur. Gwneir defnydd llawn o’r set o’n blaenau, yn weledol ac yn glywedol; cyflwynir y cyfan fel petai trwy sbectolau 3D.

Ceir cymaint o bleserau annisgwyl, sy’n ategu at brofiad y dorf, sy’n troi penbleth y pâr yn broblem gyffredin, all gyffwrdd â ni gyd.

 

Leave a Reply