Perfformiad prin i’r cyhoedd o sioe boblogaidd ‘Sbesial’ gan Spectacle

October 5, 2017 by

Mae cwmni Theatr Spectacle yn falch o gyhoeddi perfformiad prin i’r cyhoedd o’u cynhyrchiad Sbesial gan Paul Swift, sydd wedi teithio dros 100 o berfformiadau i ysgolion a grwpiau ieuenctid yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.  Bydd y perfformiad cyhoeddus yn cael ei gynnal ar y 25ain o Hydref yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, Heol Dumballs, Caerdydd yn cychwyn am 7pm.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae Sbesial wedi perfformio i dros 3,400 o bobl ifanc ar draws Cymru, Lloegr, Romania a Groeg.  Gall y darn gael ei gyflwyno yn Gymraeg ac yn Saesneg ac fe gynigir gweithdy i bobl ifanc yn dilyn y sioe ar thema bwlio.

Stori dyn o’r enw Terry a merch unarddeg mlwydd oed o’r enw Megan yw Sbesial.  Ar ôl sgwrsio gyda bachgen sy’n hŷn na nhw ar Facbook, mae Megan a’i ffrindiau yn dod i’r parc i gwrdd ag e, ond yr unig berson sydd yno yw’r ‘hen foi yma’ sef Terry.  Mae’r plant yn gwneud hwyl am ei ben, ac yn rhedeg i ffwrdd ond mae Megan yn gadel ei bag, a phan mae’n dychwelyd mae’r bag gan Terry. Mae Megan yn dod i ddeall bod gan y ddau dipyn o bethau’n gyffredin, a bod Terry yn wahanol iawn i’w hargraff gyntaf.

Bwriad y sioe yw ymwneud â phobl ifanc a chymunedau a chychwyn sgwrs ynglŷn ag ymddygiad bwlio a bwlio ar y we.  Mae’r prosiect yn archwilio cymhlethdod ymddygiad bwlio a strategaethau i gadw’n saff.  Mae Sbesial yn arbennig o addas i fynd i’r afael â grwpiau sydd yn anodd eu cyrraedd, ac i ddatblygu eu hyder ac empathi.

Meddai Steve Davis, Rheolwr Theatr Sbectacle, “Mae nifer o athrawon wedi ymateb i ‘Sbesial’ yn dweud ei fod wedi caniatâu eu staff i sgwrsio gyda’r disgyblion am broblemau y byddant wedi cael trafferth trafod; fe wnaeth agor eu llygaid i pa mor fregus yw nifer o bobl ifanc.  Mae’r ffaith nad dim ond un mater sydd yn cael ei drafod yn y sioe, ac mae’r gynulleidfa yn cael eu tynnu i mewn i’r sefyllfa gymhleth y ddrama yn profi ymateb cyntaf y bobl ifanc.  Mae hyn yn hytrach nag ymateb yr ystafell ddosbarth pan maent yn gweithio ar brosiectau am ddiogelwch ac ati, ac mae nifer o’r athrawon yn cael braw faint o bobl ifanc y byddai wedi ymateb yn y ffordd ddisgwyliedig yn y dosbarth, yn dangos ymateb bregus iawn i’r sioe. Mae’r athrawon hefyd wedi sôn yn gyson am allu’r sioe i ddal sylw’r plant mewn ffordd bositif (gan gynnwys plant nad ydynt fel arfer yn gwneud), yn eu galluogi i gael empathi, i ddadanoddi a meddwl yn feirniadol.   Rydw i’n teimlo’n gyffrous bod gennym y cyfle prin yma i ddangos y cynhyrchiad i’r cyhoedd yng Nghaerdydd, ac rydym yn gobeithio y bydd modd i nifer ymuno â ni.”

Sefydlwyd Theatr Spectacle fel cwmni Theatr mewn Addysg ar gyfer Morgannwg Ganol yn 1979, ac mae wedi datblygu i fod yn gwmni arobryn rhyngwladol sydd yn arbenigo mewn theatr cyfranogol. Mae’r gwaith wedi cyrraedd rhai o ardaloedd mwyaf anghysbell y Cymoedd, pobl ifanc o fewn y system cyfiawnder troseddol yn ogystal â ennill gwobrau yng ngŵyl theatr Rhyngwladol Shanghai.  Mae ei bartneriaeth creadigol yn estyn i ysgolion, colegau, sefydladau troseddwyr ifanc, ysbytai, cwmniau preifat, mentrau cymdeithasol a sefydliadau cymunedol.

Sbesial

gan Paul Swift, wedi ei gyflwyno gan Spectacle

25 Hydref, 7pm

Leave a Reply