Elen ap Robert: To hope, to dream and maybe fly? I obeithio, breuddwydio a hyd yn oed hedfan?

October 9, 2017 by

Byddwn i wedi hoffi canolbwyntio ar syrcas gyfoes yn yr hyn o eiriau ond beryg y byddech yn syrffedu ar ddarllen am syrcas eto’r mis hwn!  Er rhyfedd o fyd yw bod yn 53 ac wedi’ch cyfareddu gan ffurf ar gelfyddyd sydd ddim wedi bod yn elfen amlwg yn eich hyfforddiant fel person creadigol, nac ychwaith yn fyd yr oeddech wedi ei brofi tan ‘chydig dros ddegawd yn ôl. Ond mae rhywun yn cofio momentau arwyddocaol tydyn, pan newidiodd pob dim, digwyddodd hyn i mi pan alwodd cynhyrchydd cwmni syrcas Gwyddelig heibio am gyfarfod gyda mi pan oeddwn yn Gyfarwyddwr Artistig Galeri, a’m argyhoeddi bod unrhywbeth yn bosib, hyd yn oed pobl yn dawnsio o graen 80 tunnell. A dyna ddechrau ar siwrnai o ddarganfod  a rhyfeddu at hud dawns awyr a syrcas gyfoes sydd yn parhau hyd heddiw, am ei fod dwi’n credu yn peri i mi gredu yn yr eiliad o wylio, bod unrhywbeth yn bosib. Fis Gorffennaf eleni ar gynffon GWLEDDSyrcas Pontio, cwrddais ag aelod arall o Gwmni  Fidget Feet, y cwmni syrcas a’m swynodd ddegawd yn ôl, roedd yn cydberfformio gyda dwsin o ddawnswyr fertigol o Ewrop a Chanada feddianodd canolfan Pontio, yn hongian ar ein waliau ac o dyrrau Prif adeilad celfyddydau Prifysgol Bangor, yn eofn, yn gelfydd ac yn arswydus o lonydd.

I would have liked to concentrate on contemporary circus in this many words but its likely you may have had enough of reading about circus again this month! What a strange thing to be 53 and enchanted by an artform that hasn’t been an obvious part of your training as a creative person, or even one you’d experienced until a little over a decade ago. But you remember those pivotal moments don’t you, the ones where everything changed? This happened to me when I was Artistic Director at Galeri, when I was convinced that anything was possible, even people dancing from an 80ft crane. So a journey of discovery began, and my fascination with the magical of aerial dance and contemporary circus which remains to this day, because I think that it makes me believe, while I’m watching it at least, that anything is possible. This July at the end of Pontio’s Gwledd SYRCAS Feast, I met another member of Fidget Feet, the circus company that enchanted me all those years ago, who was performing with a dozen aerial dancers from Europe and Canada and who took over the Pontio centre, hanging on our walls and from Bangor University’s Main Tower, fearlessly, artfully and terrifyingly still.

 

Image

Vertical dancers 

 

A wedyn y wefr o weld ieithwedd 4 dawnswraig fertigol lleol yn cael ei ymestyn i gyfleu ystumiau chwarelwyr, gan berchnogi ein chwarel o Theatr Bryn Terfel, yn LLECHI, cywaith unigryw a gwaith celf cyfoes gomisiynais fel rhan o raglen agoriadol  Pontio y llynedd  ac a ail lwyfannwyd gennym yr haf hwn i gydredeg gydag Eisteddfod Genedlaethol Môn. Dyma brofiad creadigol sy’n blethiad o gerddoriaeth, dawns awyr, fideo, drama a barddoniaeth yr wyf yn teimlo’n falch o fod ynghlwm a’i gydgynhyrchu gyda cherddorion gorau a mwyaf dyfeisgar Cymru: 9Bach, Lleuwen Steffan, a John Ogwen a Martin Daws, actorion a beirdd sydd yn hoelio sylw, yn coelio ac yn cyffwrdd, trwy gyfrwng llif o fynegiant ensemble hyblyg a thelynegol oedd yn olrhain hanes ardal y llechi ddoe a dathlu creadigrwydd a theimlad o berthyn yr artistiaid i’r ardal hwnnw heddiw.

And then the thrill of seeing the physical language of 4 vertical dancers being extended to suggest the characters of quarrymen, owning their own quarry in Theatr Bryn Terfel in LLECHI, an unique project I commissioned as part of Pontio’s opening programme last year, which was restaged this summer to run in parallel with the National Eisteddfod in Anglesey. Here we had a creative experience which interwove music, aerial dance, video, drama and poetry which I feel very proud of coproducing with some of the best and most innovative musicians in Wales, 9Bach, Lleuwen Steffan, John Ogwen and Martin Daws, actors and poets which demand attention, who believe and who connect, through a stream of ensemble expression which is flexible and lyrical and which charted the history of the slate mining area of yesteryear and the feeling of belonging those artists have for the area today.

 

pontio

Llechi

 

… gan fy atgoffa o pa mor bwysig yw synnwyr o le, eich Lle-Chi, a’r teimlad o fod yn  perthyn i’r lle hwnnw, yn ardal, yn filltir sgwar, ac yn theatr.

…reminding me of how important a sense of place is, Your Place (Lle-Chi, a play on words in Welsh) and the feeling that you belong to that place, a region, a square mile, and a theatre.

Wrth ddadansoddi ein rhaglen Medi-Rhagfyr, dyma sylwi ar naws ystod y digwyddiadau sydd wedi syrthio i’w lle y tro hwn, mae gwreiddiau llawer ohonynt mewn bydoedd dieithr ac anghyfarwydd i ni heddiw. Sylweddolais bod hyn wedi digwydd bron yn ddiarwybod i mi, heblaw mod i wedi gofyn y cwestiwn syml pa fath o fyd ydan ni’n perthyn iddo erbyn hyn” ac yna un arall mwy perthnasol fyth efallai pa fath o fyd hoffen ni berthyn iddo?.

Mae How to Win Against History”, Seiriol Davies, Cynyrchiadau Aine Flanagan, yn dathlu bywyd 5ed Marcwis Môn, un oedd yn byw mewn byd nad oedd yn ei dderbyn oherwydd ei arferion anghonfensiynol a mae The Mountaintop” gan Fio yn dwyn i’r cof bywyd Martin Luther King, hanner canrif wedi ei lofruddiaeth, un a frwydrodd dros hawliau’r dyn du mewn byd nad oedd yn eu cydnabod.

 

As I analyse our September-December programme, I notice a certain sensibility to the events has fallen into place this time, the roots of many of them are in unfamiliar worlds for us today. I notice this has happened also unconsciously, though I did ask myself one simple question “what kind of a world do we belong to at the moment” and then an even more pertinent one “what kind of world would we like to belong to?”.

 

Seiriol Davies

The Mountaintop

How to Win Against History”, Seiriol Davies, Aine Flanagan Productions, celebrated the life of the 5th Marquess of Anglesey, one that lived in a world that didn’t except him because of his unconventional ways, and The Mountaintop by Fio brings to the forefront Martin Luther King, fifty years since his assassination, and someone fought for the rights of black people in a world that didn’t acknowledge them.

Mae un o uchafbwyntiau’r rhaglen i mi, ar ffurf première opera gan Gareth Glyn a Mererid Hopwood, cynhyrchiad OPRA Cymru mewn cydweithrediad gyda Pontio a Phrifysgol Bangor. Addasiad o nofel sci- fi cyntaf Cymru yw Wythnos yng Nghymru Fydd gan Islwyn Ffowc Elis  yw’r opera, lle mae Ifan yn cael ei ddanfon, ddwywaith,i Gymru’r dyfodol i 2033 gan ddod o hyd i 2 Gymru tra gwahanol i’w gilydd.  Fentrai ddweud na fu amser mwy tyngedfenol i ni ystyried fel cenedl, ac fel cynulleidfa sut fyd hoffen ni ar gyfer Cymru’r dyfodol, un lle mae’r Gymraeg yn ffynnu ac ar wefusau’r niferoedd, ynteu “Western England” a  phan glywir y gair olaf o Gymraeg yn cael ei yngan, yn ddirdynnol o ddisymwth o enau hen wreigen. Mae’r bygythiad yn glir.

One of the highlights of the programme for me will be the première of a new opera by Gareth Glyn and Mererid Hopwood, OPRA Cymru’s production in partnership with Pontio and Bangor University. An adaptation of the first Welsh sci-fi novel Wythnos yng Nghymru Fydd by Islwyn Ffowc Elis, where Ifan finds himself twice in 2033 and the Wales of the future, and finds two very different version of Wales. I daresay there hasn’t been a more relevant time for us to consider this as a nation, and as an audience what kind of life we’d like for Wales in the future, one where the Welsh language is flourishing and spoken my thousands, or “Western England” and when we hear the last Welsh word spoken, unexpectedly from the lips on an old woman. The threat is clear.

Ac wrth i waliau gael eu codi o’n cwmpas fesul diwrnod ceisio adeilau pontydd wnawn ni, gyda BBCNow trwy ddod a‘r clasurol a’r cyfoes Cymraeg ynghyd mewn cyngerdd gyda chomisiwn newydd i’r gerddorfa gan Rich James, grŵp Gorky’s gynt.

And as walls are being put around us day by day we try to build bridges, with BBC  NOW bringing classical and contemporary music together in a concert and a new commission by Richard James, formerly of Gorky’s Zygotic Monkey.

Mae’r byd wedi newid a chanrif yn ddiweddarach nodwn gyfnod cythryblus hanes chwyldo Rwsia – ar ffurf P.A.R.A.D.E. gan ein cwmni dawns cenedlaethol a BBC Now, Dawns i Bawb ac wed ei guradu gan Marc Rees.

 

 

Mae cysgod Rwsia i’w deimlo yn lleisiau tywyll unigryw Dakhabrakha o’r Iwrcain ddaw yma i Gymru am y tro cyntaf erioed. Agosach at adre fydd arddull gerddorol mwy cyfarwydd cerdd werin Bob Delyn a’r Ebillion a Bwncath, a Lankum o’r Iwerddon. Dathlwn gyfoeth ein amrywiaeth a’n gwahaniaethau yn ein Gig Gwrth-hiliaeth gyda Rhys Mwyn gyda set DJ gan feistr reggae Dennis Bovell,

The world has changed and a decade later, we note the turbulent era of the Russian revolution, in the form of P.A.R.A.D.E. by our national dance company and BBC NOW, Dawns i Bawb and curated by Marc Rees.

The shadow of Russia is also felt in the dark and unique voices of DakhaBrakha from the Ukraine, who visit Wales for the first time. Closer to home, the more familiar Bob Delyn a’r Ebillion and Bwncath performed in September, and Lankum from Ireland visit soon. We also celebrate diversity in our Rock Against Racism gig with Rhys Mwyn with a DJ set by reggae master Dennis Bovell.

Mae angen i’n theatrau a chanolfannau ein galluogi i ddianc o’r byd sydd ohoni hefyd ac fe ymdrechwn I wneud hynny yng nghwmni’r storïwr meistrolgar Philip Pullman, y comedïwyr Elis James a Phil Jupitus, a diahangwn ( eto) gyda’r syrcas a sioe FLOWN gan Pirates of the Carabina, sy’n giamstars hala chwant arnan ni i redeg i ffwrdd gyda nhw!

Mae’r celfyddydau ar eu gorau yn galluogi ni brofi bydoedd gwahanol ac ystyried byd er gwell. Mae theatr yn gallu cynnig gobaith a helpu i ni goelio bod unrhyw beth yn bosib – rhywbeth sydd wrth galon sioe wreiddiol gyntaf Rhodri Sion, Cwmni Murmur i blant a theuluoedd gyda sioe dolig “Caban Hud” y clown. Ein rhaglen rhaglen hyderir, s’yn cwmpasu byd o wahaniaethau, sy’n caniatau i ni fod yn wahanol i’n gilydd ac s’yn galluogi i ni obeithio, breuddwydio …. A hedfan?

Our theatres and centres can help us escape from today’s world and we’ll do that in the company of master storyteller Philip Pullman, the comedians Elis James and Phil Jupitus and we’ll run away once more with the circus with FLOWN by Pirates of the Carabina.

The arts are at their best when they allow us to experience new worlds and consider a better life. Theatre can offer hope and help us believe that anything is possible, something that’s at the heart of an original new show by Rhodri Siôn and his new company Murmur, the festiveCaban Hud (Magical Caban). A programme, I hope, which embraces difference, which allows us to be different to each other and which gives us permission to hope, to dream…and maybe fly?

 

Caban Hud

 

 

http://www.asiw.co.uk/about-us

English:

https://issuu.com/pontio/docs/pontio_sep_dec_english_web-compress

Gymraeg:

https://issuu.com/pontio/docs/pontio_sep_dec_welsh_web-compressed

www.pontio.co.uk @PontioTweets @TrydarPontio

 

 

http://www.asiw.co.uk/about-us/

Leave a Reply