Hefin Robinson: Estron, Theatr Genedlaethol Cymru

March 6, 2018 by

O’r dudalen i’r llwyfan ac ar draws y bydysawd

Un o’r pethau pwysicaf i mi am theatr yw ei fod yn cynnig byd lle mae unrhyw beth yn bosib. Does dim rheolau. Roedd Shakespeare yn gwybod hynny’n fwy na neb wrth ysgrifennu am wrachod a thylwyth teg a cherfluniau’n dod yn fyw. Dyna sydd yn fy nghyffroi am theatr. Rydw i’n hoffi’r ffaith ein bod yn gallu cwestiynu’r amhosib ac agor y drws i bosibiliadau diderfyn. Roedd hi’n teimlo’n hollol naturiol, felly, wrth fynd ati i ysgrifennu Estron, bod unigolyn ifanc yn gallu troi i dun o Quality Street am gysur, a’i fod yn penderfynu siarad â’r gwrthrych hynny er mwyn rhoi cyd-destun i’w deimladau.

Dydw i ddim yn un am gynllunio pan mae’n dod i’r broses o greu drama – mae’n llawer gwell gen i neidio’n syth i mewn i’r ysgrifennu. Gyda Estron, doedd gen i ddim syniad i le fyddai’r stori’n mynd. Gwyddwn fod gen i brif gymeriad oedd yn unig ac ar goll yn y byd. Gwyddwn hefyd fod y tun Quality Street yn cynnwys rhywbeth arallfydol. Roedd popeth arall yn ddirgelwch llwyr. Rydw i’n hoffi ysgrifennu fel hyn gan fy mod i, fel y gynulleidfa, ar y droed ôl, a’r posibilrwydd o ddigwyddiadau annisgwyl yn cynyddu. Yn aml, byddaf yn gadael i’r cymeriadau fy nhywys ar hyd llwybrau dieithr neu i mewn i gorneli er mwyn herio’r hyn yr wyf yn ei ddisgwyl.

Tua hanner ffordd trwy ddrafft cyntaf Estron, bu farw fy mam. Yn sydyn, roeddwn yn darganfod fy hun yn mynd trwy’r broses o alaru a’r syniad o ysgrifennu yn troi fy stumog. Roedd hi fisoedd yn ddiweddarach, a minnau’n ceisio ailafael mewn bywyd bob dydd, pan ddeuthum ar draws y ddrama eto a sylweddoli bod gan Estron y potensial i archwilio galar ac effaith y broses ar unigolyn. Er hynny, roeddwn yn awyddus i osgoi drama ddiflas neu rywbeth a fyddai’n sentimentaleiddio galar. Gan ddefnyddio fy mhrofiadau fy hun fel sylfaen (a llawer iawn o ddychymyg), es i ati i arbrofi gyda ffurf a chynnwys er mwyn ceisio taflu golau ar y pwnc mewn ffordd onest, egnïol a chwareus.

Erbyn i mi sefyll ar fy nhraed i dderbyn Medal Ddrama’r Eisteddfod Genedlaethol yn 2016, roedd Estron wedi newid cryn dipyn. Roeddwn wedi torri cymeriad, symud cymeriad arall i ochr arall y byd, ychwanegu drama o fewn drama, a chwalu’r bedwaredd wal yn llwyr er mwyn galluogi i’r cymeriadau i siarad yn uniongyrchol â’r gynulleidfa. Mae’n bwysig iawn i mi fod drama yn cyfiawnhau ei lle ar lwyfan – beth sy’n gwneud hwn yn ddarn o theatr yn hytrach na ffilm neu raglen deledu? Nawr, roedd gen i rywbeth a oedd yn theatrig heb os ac yn sefyll yn hyderus o fewn y cyfrwng hynny.

Enillais y Fedal Ddrama ar fy nhrydydd ymgais. Rydw i’n hoffi’r ffaith fy mod wedi dod yn drydydd wedyn yn ail cyn cipio’r wobr gan ei fod yn dangos datblygiad naturiol yn fy ngwaith ac yn adlewyrchu sut mae beirniadaeth yn gallu helpu i ddatblygu dramodydd ifanc. Dyna, yn wir, yw un o’r pethau gwych am y gystadleuaeth, gan ei fod yn cynnig cyfle eitha’ prin yn yr iaith Gymraeg i dderbyn adborth ar ddrama newydd gan grŵp o arbenigwyr yn y maes. Heb y gystadleuaeth, ni fyddai Estron wedi cyrraedd cynulleidfa. Rwy’n amau hefyd na fyddai Estron wedi bodoli o gwbl heb y cyfle i feithrin fy sgiliau yn y blynyddoedd blaenorol.

 

Estron (Alien) by Hefin Robinson Theatr Genedlaethol Cymru in partnership with the National Eisteddfod of Wales Director: Janet Aethwy Cast: Gareth Elis, Ceri Elen, Elin Llwyd

 

O ganlyniad i ennill y Fedal Ddrama, penderfynwyd y byddai Estron yn cael ei llwyfannu gan Theatr Genedlaethol Cymru. Am y tro cyntaf, byddai cynulleidfa yn cael gweld fy ngwaith – dyna yn y pen draw yw gobaith pob dramodydd – ac mi fyddai’r profiad hynny yn un newydd sbon i mi. Profiad estron, os hoffech. Ar yr un llaw roeddwn wrth fy modd ac yn edrych ymlaen yn fawr at y broses. Ar y llaw arall, roeddwn yn llawn ofn. Diolch byth, felly, bod gymaint o bobol yn barod i helpu ar hyd y ffordd. Fel dramodydd ifanc, cefais fy synnu gan yr egni, brwdfrydedd a chefnogaeth y derbyniais i a’r ddrama. Roeddwn yn teimlo o’r dechrau bod pawb yn Theatr Gen yno yn gefn i mi ac yn awyddus i weld Estron yn llwyddo. Fel rhywun yn derbyn cynhyrchiad proffesiynol cyntaf, roedd hynny’n amhrisiadwy.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydw i wedi bod yn gweithio gyda Janet Aethwy, cyfarwyddwr Estron, i baratoi’r ddrama ar gyfer y llwyfan – yn gyntaf ar gyfer cynhyrchiad y Cwt Drama yn Eisteddfod Genedlaethol y llynedd, ac yna ar gyfer y daith genedlaethol. Mae gan Janet brofiad helaeth fel actor, cyfarwyddwr a dramodydd yn y byd theatr, ac roeddwn yn ddiolchgar iawn iddi am ei holl wybodaeth a chyngor ymarferol yn ystod y broses. Roedd hi’n gymorth mawr gydag ailddrafftio’r ddrama, gan awgrymu ffyrdd o dorri a newid er mwyn dweud y stori yn y ffordd fwyaf effeithiol. Roeddwn yn ddiolchgar iawn iddi hefyd am ei chefnogaeth gyda gramadeg a threiglo!

Roedd yr ymateb i’r llwyfaniad cyntaf o Estron yn syndod. Fel rhywun sydd yn brwydro gyda diffyg hunanhyder roeddwn yn disgwyl disaster llwyr, ond diolch i waith caled Janet, yr actorion, tîm rheoli llwyfan a’r cynllunwyr, crëwyd darn o theatr a gafodd effaith bersonol ar bobol. Y gwir yw, fel artist, na fydd pawb yn hoffi eich gwaith – rydw i’n ceisio peidio â becso gormod am hynny – beth sy’n bwysig i mi yw bod y profiad yn codi trafodaeth ac yn dechrau sgwrs. Rydw i eisiau i bobol adael y theatr wedi teimlo rhyw emosiwn neu gynnwrf, bo hynny’n chwerthin neu grïo neu gasineb eithafol tuag at y gwaith! Wrth ysgrifennu yn yr iaith Gymraeg yn arbennig, rydw i eisiau creu gwaith ffres ac egnïol sydd yn gyfoes ac yn berthnasol i ni heddiw. Rwy’n teimlo’n gryf fod angen i’r theatr iaith Gymraeg i fyw yn y presennol a pharhau i wthio’r ffiniau a chwestiynu pwrpas, ffurf a llais y theatr yn 2018 a thu hwnt.

Mae Estron wedi dod yn bell ers y diwrnodau cynnar yn ysgrifennu am berson ifanc a thun o Quality Street. Serch hynny, mae calon y ddrama wedi aros yr un peth. Ar yr wyneb, drama am farwolaeth yw Estron, ac am y broses o alaru. Ac eto, nid dyna yw Estron o gwbl. Drama am fywyd ydyw. Drama am unigolyn yn dygymod â digwyddiad ysgytwol, a thrwy’r boen a’r unigrwydd, yn dysgu i weld y bydysawd mewn ffordd newydd sbon.

 

Y Daith

Theatr y Glowyr, Rhydaman / Miners’ Theatre, Ammanford 19 + 20 Ebrill / April 19:30 theatrausirgar.co.uk / 0845 2263510

 

Canolfan Garth Olwg, Pentre’r Eglwys / Garth Olwg Centre, Church Village, Pontypridd 24 Ebrill / April 19:30 www.gartholwg.org / 01443 570521 *

 

Neuadd Dwyfor, Pwllheli 26 Ebrill / April 19:30 01758 704088

 

Y Stiwt, Rhosllanerchrugog, Wrecsam / Wrexham 1 Mai / May 19:30 www.stiwt.com /  01978 841300

 

Theatr Bro Alaw, Bodedern, Ynys Môn / Anglesey 3 Mai / May 19:30 Menter Môn / 01248 725 700 *

Theatr Felinfach, Dyffryn Aeron / Aeron Valley 5 Mai / May 19:30 theatrfelinfach.cymru / 01570 470697

 

Pontio, Bangor 8 Mai / May 19:30 pontio.co.uk / 01248 38 28 28

Canolfan Morlan, Aberystwyth 9 Mai / May 19:30 Swyddfa Morlan 01970 617996 *

 

Neuadd Gymunedol Maenclochog, Sir Benfro / Maenclochog Community Hall, Pembrokeshire 11 Mai 19:30 Swyddfa Celfyddydau Span Arts 01834 869323

 

Ffwrnes, Llanelli 12 Mai / May 19:30 theatrausirgar.co.uk / 0845 2263510

 

Chapter, Caerdydd / Cardiff 14 Mai / May 19:00 + 15 Mai / May 14:00 + 19:00 + 16 Mai / May 19:00 chapter.org / 029 20304 400

 

Canolfan y Celfyddydau Taliesin, Abertawe / Taliesin Arts Centre, Swansea

17 Mai / May 19:30 taliesinartscentre.co.uk / 01792 602 060

 

Galeri, Caernarfon 19 Mai / May 19:30 galericaernarfon.com / 01286 685 250

 

* Rhan o Gynllun Noson Allan – am fanylion llawn gweler theatr.cymru / Part of Night Out – for full details see theatr.cymru

                                                                                               

@TheatrGenCymru

#Estron

 

Live audio translation via the Sibrwd app for non-Welsh speakers and Welsh Beginners

 

Mynediad I’r di-Gymraeg drwy gyfrwn ap Sibrwd

 

Llun: Mark Douet

Leave a Reply