{150) Patagonia NTW, TGC

July 3, 2015 by

Er fy mod yn gweithio ar gampws Trefforest yn ddyddiol, pleser oedd mynd ar y trên o Gaerdydd ymhellach i grombil y Cymoedd, a dilyn yr arwyddion o orsaf Cwmbach i le anghyfarwydd imi ar gyrion Abercwmboi ger Aberdâr. Ar un o’r nosweithiau cynhesaf eleni hyd yn hyn, gwyddwn yn syth ar ôl cyrraedd storfeydd y Tŷ Opera Brenhinol ar ystâd ddiwydiannol Aberaman bod profiad pur anghyffredin ar fin dod i’m rhan. Nid yw’r safle ar agor i’r cyhoedd fel arfer, ac felly roedd rhyw chwilfrydedd yn perthyn i’r gwahoddiad i dresmasu, a chynulleidfa niferus yno’n disgwyl.

Mae’r cynhyrchiad yn ffrwyth cydweithrediad am y tro cyntaf rhwng National Theatre Wales, Theatr Genedlaethol Cymru ac S4C – partneriaeth i’w chroesawu’n frwd. Aiff y perfformiad â ni ar antur sy’n pendilio rhwng ffaith a ffuglen, y cyfanwaith wedi ei greu a’i gyfarwyddo gan Marc Rees. Cofnodir hanes y gwladychwyr a hwyliodd i Batagonia yn 1865 – nifer ohonynt yn hanu o’r ardal hon – a oedd yn dwysáu arwyddocâd y lleoliad. Cawn gip hefyd ar sut y goroesodd y Cymry yn y Wladfa gyda phortreadau cyfoes o’r disgynyddion, sy’n syniad campus o ystyried bod y stori’n rhan allweddol o’n mytholeg fel Cymry hyd heddiw.

Fy maes ymchwil i yw hanes Cymry Gogledd America, ac felly mae gen i ddiddordeb mawr mewn hunaniaeth ddeublyg. Er i minnau gael fy swyno droeon gan hanes Patagonia,  mae’n rhaid cyfaddef fy mod yn syrffedu weithiau ar y ddelwedd Iwtopaidd a gyflëir o’r Wladfa yn ein diwylliant ar draul cymunedau eraill – er mor greiddiol yw’r bennod i gof y genedl. Braf felly yw datgan fod {150} yn cynnig chwa o awyr iach a wnaeth fy nghyffroi yn hytrach nag ymgais i ail-bobi hanes.

Anodd yw disgrifio natur yr hyn a welais, gan nad yw’n ddrama draddodiadol fel y cyfryw. Fe’i disgrifir fel cynhyrchiad ‘aml-blatfform’ mewn arddull ‘promenâd’, sy’n addas i gyfleu’r modd y cawn ein tywys drwy wahanol fannau yn y stordy, a’r gynulleidfa’n rhan weithredol o’r golygfeydd. Un o’r prif gryfderau oedd yr ymgorfforiad o wahanol elfennau megis dawns, ffilm, arddangosfeydd a llwyfannu byw, ac mae’r rhestr o artistiaid a chynllunwyr sydd ynghlwm â’r prosiect yn dyst i gwmpas eang y sgiliau a’r cydweithio sy’n ofynnol mewn gwaith o’r fath.

Mae’r cymysgedd o Gymraeg, Saesneg a Sbaeneg a glywir hefyd yn dechneg llwyddiannus, sy’n cadarnhau y gallwn arbrofi rhagor yn y maes hwn i roi byd-olwg mwy rhyngwladol i fyd y ddrama yng Nghymru ynghyd ag ymestyn i gynulleidfaoedd di-Gymraeg. Roedd teithi’r Gymraeg hefyd yn amrywiol ac yn ein hebrwng drwy gyfnodau amser, o’r barddonol i’r hen-ffasiwn a’r cyfoes. Efallai y gellid bod wedi ehangu’r elfen dafodieithol yn y perfformiadau er mwyn adlewyrchu’r amrywiaeth o bobl a ymfudodd.

Dechreua’r daith yn yr awyr agored pan glywn leisiau’r hen ymfudwyr, a oedd yn gosod naws hynod o real. Cawn ein tywys i ganol y stordy ble mae Dafydd Emyr fel Michael D. Jones yn pregethu, perfformiad a oedd yn argyhoeddi. Yr hyn a oedd yn arbennig o effeithiol oedd edrych i lawr y coridorau tywyll hir ar un ochr i ni a gweld golau a synau yn y pen draw – cyffyrddiadau iasoer a oedd yn rhoi ymdeimlad o brofiad yr ymfudwyr.

Cawn ein harwain drwy gyfres o olygfeydd a oedd yn cyfleu profiadau gwahanol ymfudwyr, weithiau i lawr un o’r coridorau cul cyn troi yn ôl am y brif storfa. Wrth gerdded heibio eu heiddo mewn archif o focsys, gwelwn enwau ein cyndadau a’r lleoedd yr oeddynt yn eu gadael. Yn wir, roedd sefyll a cherdded ar dro yn rhoi teimlad o symud drwy amser a phrofiadau newydd, a dw i ddim cofio erioed imi weld gofod yn cael ei ddefnyddio mewn dull mor ddyfeisgar.

Roedd Eddie Ladd yn wirioneddol wych, a braf oedd gweld dawns yn rhan mor hanfodol o ddramateiddio’r naratif. Gresyn am anallu’r Cymry weithiau i’w werthfawrogi fel cyfrwng. Syniad addas oedd cynnwys eisteddfod gan ddisgyblion ysgol er mwyn darparu dogn o hiwmor yn ogystal â gwers sobreiddiol am ein brwydr ninnau hefyd dros barhad yr iaith drwy gyfrwng ysgolion Cymraeg yr ardal. Elfen deimladwy oedd y cyferbyniad hwn gyda geiriau un o ddisgynyddion Lewis Jones mewn hen ffilm yn gobeithio na fyddai’r iaith yn darfod.

Er mwyn osgoi difetha’r union olygfeydd i’r sawl nad ydynt wedi gweld {150} eto drwy fanylu gormod, dylid nodi y bydd sawl un yn serio’r cof. Cafwyd symbolau grymus yn aml – rhai’n ymylu ar fod yn swrrealaidd – ac roedd y newid cyfeiriad cyson yn y storfa yn cynrychioli troeon gyrfa’r hanes imi. Yn wir, difyr oedd gweld y gynulleidfa’n edrych o’u cwmpas yn chwilfrydig er mwyn dyfalu o ba gyfeiriad y deuai’r profiad nesaf.

Cryfder arall oedd yr effeithiau sain priodol a oedd yn dileu’r angen i fod yn rhy eiriog. Yn yr un modd, gweithredai’r golygfeydd sinematig a dafluniwyd ar y waliau fel dehongliadau cynnil, a’r golygfeydd o dirwedd a chartrefi yn rhoi cyfle i’r sawl nad ydynt wedi ymweld â De America uniaethu â’r trigolion. Teimlais amryw o gyffyrddiadau personol yn y darnau ffilm gan eu bod yn ymddangos yn amrwd a gwreiddiol. Roedd y golau yn arbennig o effeithiol, ac roedd yn braf gweld arbrofi gyda lliwiau gwahanol megis coch a glas yn hytrach nag amrywio graddfa’r golau yn unig.

Wrth i’r golygfeydd lifo o un i’r llall yn naturiol, cynigiai bob un rywbeth i bendroni drosto, a chanfyddais fy hun yn dymuno cofnodi’r manylion ar bapur. Serch hynny, credaf na ddylai’r adolygydd gymryd nodiadau er mwyn ymddiried yn y meddwl i gofio’r uchafbwyntiau, a gadael i’r argraffiadau olchi drosto yn raddol wedi hynny. Credaf fod cyflwyno pytiau o’r gorffennol a’r presennol ar draws ei gilydd yn fwy addas na mynegi’r stori ar ei hyd yn gronolegol, gan adlewyrchu natur ddarniog hanes, a difyr oedd clywed adlais o’r olygfa nesaf wrth ymlwybro o un man i’r llall.

Cafwyd gwledd i’r synhwyrau. Yr unig drueni oedd fy mod yn colli’r dweud neu’n methu â gweld perfformiad ar brydiau oherwydd eco a gwastadedd y stordy, ond ni ddylid ar unrhyw gyfrif osgoi arbrofi gyda lleoliadau newydd er mwyn glynu at sicrwydd seddau ar echel y theatr. Er bod y ffilm yn cael ei dangos yn ddigon uchel i bawb ei gweld, gellid codi’r set mewn rhai rhannau – er nad ydy dibynnu ar y glust ddim yn ddrwg o beth ar adegau wrth i ni ymgolli yn y gweledol. Eto i gyd, teimlwn ei bod yn anodd gweld y cyfoeth corfforol ar brydiau.

Wna i ddim honni fy mod yn llawn ddeall arwyddocâd pob golygfa yn y cynhyrchiad, ond efallai y gorwedd eu heffaith yn ein gallu i ddehongli drosom ein hunain. Yn sicr, rhoddwyd llawer i gnoi cil arno a’n herio, a’r delweddau celfydd ac astrus o awgrymog yn dangos ôl gwaith ymchwil a meddwl. Mae’n rhaid canmol creadigrwydd y fenter i roi gwedd newydd ar stori dreuliedig, sy’n talu gwrogaeth i ymdrechion trigolion Patagonia dros y Gymraeg.

Mae ‘150’ yn ddathliad teilwng o bennod bwysig yn hanes y Cymry, ond hefyd yn ein hatgoffa o galedi eu hymgyrch drwy archwilio realiti eu hetifeddiaeth heddiw yn hytrach na phortreadau rhamantus y gorffennol. Mae’r criw i’w llongyfarch am anferthedd y cyfuniad o elfennau a oedd yn gwau drwy ei gilydd, sy’n ildio nifer o bosibliadau creadigol yn y dyfodol. Gadewais y safle â deigryn yn fy llygad a chroen gŵydd yn dilyn yr olygfa olaf, ond bydd yn rhaid i chi fynd i’w gweld i brofi’r wefr drosoch eich hunain.

 

Leave a Reply