Estron, Hefin Robinson, Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2017

August 10, 2017 by

Mae mwynhau yn y ’steddfod yn gallu teimlo’n rhyfedd, gan y bu Mam farw wythnos y Brifwyl yn 2014.  Ar adegau ar y Maes, pan fydd rhai’n holi ‘sumai?’, bydda i’n oedi weithiau cyn ateb ‘da iawn diolch’. Tra’n byseddu cyfrol newydd am alar ym mhabell Y Lolfa prynhawn ddoe, osgois ei phrynu, fel wnes i gyda nofel arobryn Ymbelydredd gan Guto Dafydd y llynedd, gan nad oedd math o ddidordeb gen i rannu ei daith, wedi cyd-grwydro ‘brwydrau’ canser fy rhieni.

Mi wn fod hynny’n taro’n od,  gan fy mod i’n cael cysur mawr o ddarllen profiadau pobol eraill, ond hynny ar fy nhermau i, ac yn fy amser fy hun. Os yw hynny yn swnio’n ddi-enaid, a control-freak-aidd braidd, wel tyff;  y gwir amdani yw fod galar yn annisgwyl a hunanol ’fyd,  a hollol afresymol ar adegau.

Ac mae’r syniad o fynychu drama am golled neu ganser yn troi fy stumog, i fod yn blwmp ac yn blaen. Dwi’n credu mai’r ofn  pennaf gen i yw profi stori  llawn ystrydebau saff, yn boddi mewn sentimentalrwydd dan gochl di-ffuantrwydd. Diolch byth felly i mi ymweld â’r Cwt Drama  neithiwr i weld drama Estron gan Hefin Robinson – a gipiodd y Fedal Ddrama yn  2016 – heb wybod dim byd amdani.

Mae’n ddrama ddoniol  a gobeithiol sy’n gignoeth o onest  am brofiad abswrd a chwbl afreal, nad ydy’r un ohonom byth yn barod i’w wynebu. Ro’n i’n ddagrau i gyd, â gwên lydan ar fy ngwep, pan saethais i nhraed ar ei diwedd. Dyma ddrama bwerus, heb daith ar y gweill, sy’n rhaid ei phrofi yn y ’steddfod eleni.

Mae’r ddrama yn dilyn Alun (Gareth Elis), dramodydd ifanc Cymraeg, sy’n skype-io’n gyson â Han (Ceri Elen), ei chwaer. Fe agorir ag yntau’n dioddef twtsh o writer’s block, wrth i sgrîn ei gyfrifiadur rewi o’n blaen, tra’n disgrifio achlysur arbennig sy’n gofyn iddo wisgo siwt a thei. Ymhen dim, y mae’n gafael mewn hen focs Quality Street, sy’n cynnwys cyfrinach fawr…

Try’r set moel o flociau gwynion a drws melyn yn brops aml-bwrpas (nid anhebyg i driniaeth Invertigo Theatre o Y Tŵr), ond ar y cyfan fe ffurfiant  hafan i sgwennwr sydd â’i ben yn ei blu. Ymddengys hefyd , wrth i Alun or-ddibynnu ar rwtîn a threfn, fod rhywbeth mawr o’i le.

Yn sicr, mae’n destun pryder i’w chwaer fawr Han, sy’n galw i fewn â croissants ac i saethu tequila shots, ond sydd  hefyd i’w gweld ar y sgrîn o bendraw’r byd. Daw’n amlwg mai drama gyd-amserol yw hon, sy’n gweithio ar lefelau niferus, wrth  i ni ddilyn ymateb Alun a’i chwaer i’r daeargryn mwyaf un.

Fiw i mi rannu rhagor o fanylion y ddrama ddyfesigar hon; rhaid eu darganfod drosoch chi eich hun. Digon yw dweud ei bod yn ffres ac yn ffraeth, ac yn peri ffrwydriad o atgofion ym mhenglog y gwyliwr ei hun. Mae’r cyfarwyddo, gan Janet Aethwy, yn chwareus ac yn chwim –  gan adlewyrchu’r sgript uchelgeisiol, sy’n saethu i bendraw’r bydysawd cyn dychwelyd i droelli’r byd, a throedio’ch stryd.

Does dim pall ar y symud ar lwyfan,  tan yr eiliad dyngedfennol un. Mae perfformiadau’r ddau actor yn pefrio ar lwyfan, ac yn ennyn cydymdeimlad drwyddi draw. Ond y sgript – y sgript! – sy’n gwneud hwyl am ei ben ei hun, sy’n peri i’w gwyliwr ymgolli, yn geg-agored mewn edmygedd pur.

Mae’n amlwg i’r dramodydd ifanc Hefin Robinson blymio i ddyfnderoedd ei brofiadau ingol ei hun. Ond nid yw hynny’n golygu fod y ddrama’n doom and gloom i gyd; i’r gwrthwyneb yn llwyr, trwy’r hiwmor du, mae’n cynnig tonig pur.

Mae cyffyrddiadau gweledol yn dwyn ffilmiau cyfoes i gôf, fel Pulp Fiction, Wall-E ac Adaptation, a cheir adlais o ddramau cynharaf Dafydd James ac Alun Saunders yn hyder a hyfrdra Cymraeg cyfoes y geiriau grymus. Mae na hefyd frolio mawr ar ‘Swedish Meatballs’ IKEA, a’ u bwrdd coffi Nornäs, sy’n tyfu mewn arwyddocád . Yn wir, gallwn restru’r manylion bychain sy’n coglais y dychymyg a chyffwrdd y galon drwyddi draw, ond ni hoffwn sbwylio’r helfa drysor emosiynol i chi…

Un o ddyfeisiadau gorau’r ddrama yw cymeriad athronyddol, sy’n chwarae ‘crutch’ o fath; mae Leia (Elin Llwyd) yn greadigaeth annisgwyl sy’n llawn cynghorion da, ac sy’n llwyddo i roi cyd-destun i gyflafan o emosiynau. O’r euogrwydd  di-baid wrth ffeindio’ch hun yn mwynhau, a’r newid bisâr yn eich chwaeth mewn rhaglenni teledu, i’r profiad o deimlo’n estron yn eich bywyd eich hun.

Efallai’r cysur mwyaf dderbyniais i tra’n gwylio’r ddrama hon yw na fydd dim o’r teimladau hyn yn gwneud synnwyr o gwbl tan i mi gyrraedd diwedd fy nhaith fy hun. Hefyd, yn naturiol, ar yr adegau tristaf oll, braf yw cael fy atgoffa  nad ydw i ar fy mhen fy hun.

Gwnewch bopeth y gallwch i fachu tocyn i’r Cwt Drama i weld chwip o debut ym Modedern. Am gynhyrchiad am alar, a cholled dwys,  mae Estron yn ddrama anfarwol.

Leave a Reply