Ga i Fod, Theatr Bara Caws, Eisteddfod Genedlaethol Cymru

August 4, 2016 by

Mewn byd ben-i-waered sy’n llawn peli Pokemon, bendigedig oedd cael dianc i’r coed, ar gyfer un o dair sioe ’steddfod gan griw Theatr Bara Caws, sef perfformiad gwyllt o’r enw i Ga i Fod?. Sain defod ‘Dawns y Blodau’ a’m harweinodd at y sioe, ond wrth gefnu’n llwyr ar firi’r Maes, ces ysbaid braf dros dro.

Dyna hefyd oedd prif gymhelliant pum cymeriad Ga i Fod?, wrth archebu lle ar gwrs penwythnos ‘byw yn y coed’. Ond nid cynnau tân a fforio am fwyd  a dysgu sgiliau gwylltgrefft oedd y bwriad, ond cefnu ar fywyd, dros-dro,  a ‘byw fel anifeiliaid’.

 

 

 

Yn u plith roedd dyn busnes  – Carwyn Meirion Tomos (Llyr Evans) – a’i ffôn yn sownd i’w glust – ac Anwen (Carys Gwilym), awydd ‘rhywbeth gwahanol’,  tra r’oedd Glyn (Emyr ‘Himyrs’ Roberts) yn fwy cyfarwydd â chyrsiau o’r fath, ac yn ysu i archwilio cylch bywyd brân.

Taflodd Bleddyn (Iwan Charles) ei hun yn llwyr i’w rôl fel twrch daear – er yr edrychai’n debycach i armadillo; ac er iddi gyrraedd braidd yn hwyr, ar ras yn ei sodlau  uchel, fe wnaeth Mari hefyd ymroi – am gyfnod – i chwarae llyffant.

Yn raddol bach, wrth ddiosg eu dillad a thensiynau eu bywydau bob-dydd, aeth y pump ohonynt ati i gofleidio natur. Canwyd corn bob hyn a hyn i ddynodi ‘amser te’ i gael trafod a chymharu eu datblygiad. Yn bur anochel, y sinig mwyaf a ymgollodd yn llwyr – a hyd y gwn i mae Carwyn y carw yn dal yn y coed…

Difyr iawn oedd gwylio’r pump yn trawsnewid o flaen ein llygaid, gan fynd ati gyda’u giamocs doniol iawn. O wylio Anwen, fel y wiwer, yn cesio’i gorau i ddringo’r coed, i frwydr diriogaethol ffyrnig rhwng Mari a Bleddyn. Diddorol hefyd oedd arsylwi  frisson rhwng dau yn dwyshau ar ffurf anifeiliaid. Fel cyd-weithwyr, ni allai Mari a Carwyn gyfathrebu yn glir eu gwir dyhaeadau am ei gilydd. Ond fel carw a llyffant?   Doedd dim angen troslais gan David Attenborough i egluro eu greddfau naturiol.

Ychwanegwyd hanen drwchus o hiwmor gyda’r gwisgoedd, oedd i’w canfod mewn cistiau cochion; yn gydradd gyntaf, yn fy marn i, ydoedd MAMIL Glyn y frân, a Carwyn y carw a’i goesau ôl fel toilet rolls!

Mi fun’n sicr werth trosi sioe wreiddiol Madeleen Bloemendaal o’r Iseldireg i’r Gymraeg, ac mae addasiad Tony Llewellyn a Bryn Fon yn gweithio’n dda  Er mor syml oedd y darn, gwelwyd astudiaeth graff ar waith, a heriwyd ein cysyniad arferol ni o beth yw’n blaenoriaethau. Wedi’r ‘steddfod yn y Fenni, rhwng Rhith Gân a Ga i Fod?, rwy’n digwyl agwedd  mwy gofalgar ymysg  y Cymry Cymraeg – tan diwedd y gwyliau haf, ta beth!

 

 

 

Leave a Reply