Nyrsys, Theatr Genedlaethol Cymru, Pontio

November 8, 2018 by

Braf oedd gweld nad darn traddodiadol o theatr o stori gyda chychwyn, canol a diwedd oedd cynhyrchiad diweddaraf Theatr Genedlaethol Cymru, Nyrsys – ond yn hytrach cyfres o fonologau wedi i’w cyfeirio at y gynulleidfa yn darlunio bywyd cyfres o nyrsys o ward ganser.

Darn awr a hanner o hyd oedd y perfformiad, gyda phum actores yn bywiogi’r llwyfan gyda’u geiriau’n seiliedig ar drafodaethau gyda nyrsys go iawn. Bu’r syniad i beidio rhoi egwyl yn gwneud synnwyr o ystyried y strwythur anarferol y darn a’r trosiad gyda bywydau nyrsys go iawn ble mae hi’n anodd cymryd saib iawn o’r proffesiwn.

Un o fy hoff bethau am y darn oedd y strwythuro clyfar a lwyddodd Bethan Marlow a Sara Lloyd i lunio. Roedd y gynulleidfa yn cael ei dynnu’n bell i mewn i ddyfnderoedd heriau gwaith y nyrsys cyn ei daflu i’r pegwn arall o chwerthin a llawenydd sydd hefyd ynghlwm a’r proffesiwn.

Roeddwn i’n mwynhau’r arddull o siarad gyda’r gynulleidfa ac roedd tafodiaith ogleddol cyfarwydd pedair allan o bump o’r cast yn adfywio’r darn a’i berthnasedd.  Gyda hynny a pherfformiadau mor onest, roedd hi’n aml yn teimlo fel petai fod Theatr Genedlaethol Cymru wedi cymryd pum nyrs allan o Ysbyty Gwynedd ym Mangor a’u rhoi ar y llwyfan i siarad â ni. Byddai gennyf i ddiddordeb mewn gweld os yw’r teimlad cyfarwydd yn dod ar draws un fath mewn ardaloedd eraill o’r daith megis yn y de o ystyried y chwant gogleddol oedd ar y darn.

 

 

Roedd yno nifer o fonologau pwerus ynghlwm a’r darn, ond yn fy marn i roedd cadw rhai o’r darnau mwyaf pwerus tan y diwedd yn gamgymeriad. Gyda hwn yn berfformiad awr a hanner o hyd heb egwyl, roeddwn i’n medru teimlo shifft go sylweddol erbyn y deg munud diwethaf yn y gynulleidfa – dipyn o gwingo a chymryd golwg ar y ffon. Trwy hyn fe gollwyd ffocws y gynulleidfa ar ddarn hynod o bwerus sef monolog Carys Gwilym yn agos at y diweddglo. Rhaid cytuno gyda sylwad y gwelais ar Trydar, efallai fod y darn gyda jest un monolog yn ormod.

Fe lwyddwyd y pum merch i ddramateiddio geiriau’r nyrsys go iawn yn ddigonol heb fynd dros ben llestri, rhywbeth y gallai wedi bod yn her – yn enwedig wrth ystyried mai sioe gerdd oedd hon. Roedd y gerddoriaeth yn amserol a nifer o ganeuon yn gyfarwydd o ystyried cymaint oeddwn i wedi gweld yr hysbyseb ar sianel S4C dros yr wythnosau diwethaf!

Bu’r dewis i ganolbwyntio ar ward ganser yn benderfyniad dewr a doeth. Nid oes gennyf i berthynas yn gweithio o fewn y gwasanaeth iechyd, ond eto roedd gymaint o’r hyn yr oeddent yn ei ddweud mor gyfarwydd. Dwi’n tybio fod bron pawb o’r gynulleidfa wedi cael eu cyffwrdd gan ganser mewn rhyw ffordd neu’i gilydd ac mae ‘na siawns dda fod y mwyafrif ohonom wedi camu i mewn i ward ganser fel yr un a phortreadwyd gan y cast.

Am hyn felly byddwn yn argymell i unrhyw un fynd a rhoi cynnig ar wylio Nyrsys, i fwynhau, i fyfyrio, ac i gymryd amser i werthfawrogi’r nyrsys sy’n gweithio’n galed ledled y wlad.

 

 

Pontio, Bangor 06/11/2018:

18.30 Pre-show talk for Welsh learners, PL2

Post-show talk in the theatre

Lyric, Carmarthen 09/11/2018:

Post-show talk in the theatre

Aberystwyth Arts Centre, Aberystwyth 13/11/2018:

Post-show talk in the theatre

Royal Welsh College of Music and Drama, Cardiff16/11/2018:

19.00 Pre-show talk for Welsh learners, meeting room

Theatr Clwyd, Mold 20/11/2018:

18.30 Pre-show talk for Welsh learners, Haydn Rees room

Post-show talk in the theatre

Borough Theatre, Abergavenny 27/11/2018:

18.30 Pre-show talk for Welsh learners, Council Chamber Room

Mwldan, Cardigan 04/12/2018:

19.00 Pre-show talk for Welsh learners, Mwldan Café

Galeri, Caernarfon 07/12/2018:

Post-show talk in the theatre

 

Do you know what makes Arts Scene in Wales unique?: https://www.asiw.co.uk/about-us

Nyrsys, Theatr Genedlaethol Cymru

Leave a Reply