Nyrsys, Theatr Genedlaethol Cymru, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

November 18, 2018 by

Mae canser yn ein cyffwrdd ni gyd y dyddiau hyn; ffaith arswydus ond cwbl ddiymwad. P’run ai’n aelod o’r teulu, yn gydnabod neu’n ffrind, neu hyd yn oed yn glaf eich hun; yr eiliad ceir diagnosis, ry chi’n myned byd newydd, o densiwn a phryder ac apwyntiadau. Ry’ chi’n llythrennol yn myned bydoedd fel canolfan Felindre, ac yn rhyfeddu at y niferoedd sydd yno. Nid y cleifion yn unig yn aros i gael eu gweld, ond y staff yn eu lliwiau amrywiol.

Mae rhai o’r rheiny yn eu gwynion yn dduwiau awdurdodol, heb lawer o amser na ‘bedside manner’ i’w rannu â’r claf. Mae’r rheiny yn eu gwyrddion yn gwneud y gwaith caib a rhaw, o lanhau, ac atal clefydau rhag ymledu. Y lliw mwyaf cyffredin, a chysurlon mewn ffordd, yw glas golau, sef gwisg y nyrsys. Maent yn gwibio hwnt ac yma, neu’n ymgasglu tu ôl i’r ddesg, yn cyflawni miloedd o orchwyliau, ddydd a nos. Nhw yw’r bobol ry’ chi’n naturiol yn troi atynt am ‘bob dim’, gan olygu – yn anochel – eu bod yn ‘bopeth i bawb’.

Chwe mlynedd yn ôl ces gyflwyniad i’r byd hwn am gyfnod sylweddol iawn. Nid y fi oedd yn glaf ond fy Mam a Nhad, a dderbyniod ddiagnosis canser o fewn misoedd i’w gilydd. Ymhen dwy flynedd clywais si bod na ddrama Gymraeg ar y gweill ynglyn â nyrsys – a nyrsys canser yn bendol. Rhaid dweud mai dyna’r peth olaf faswn i eisiau ei weld ar y pryd, ac yn wir, mae’r profiad yn bendant wedi gadael ei ôl, a hynny er gwell ac er gwaeth. Bu’r rhan fwyaf o’r nyrsys, ym mhob ysbyty, yn rhagorol – yn gymwynasgar, yn amyneddgar, o gymorth i fy rhieni, a hynny dan bwysau mawr. Ond cawsom hefyd hunllef o brofiad ag unigolyn anodd iawn a daenodd gysgod dros farwolaeth fy mam.

Mae’n deg i ddweud felly, fel gyda’r rhan fwyaf o bethau mewn bywyd, nad yw popeth yn ddu a gwyn ym myd glas golau nyrsys. Oherwydd hyn, fe brofais y ddrama Nyrsys rhyw fymryn yn erbyn fy ewyllys, ond ar y cyfan rwy’n falch i mi fynd i’w gweld. Mae’n amlwg i eraill deimlo ‘run fath, gan iddo ennyn ymateb gwresog ar y daith ledled Cymru.

Fel yn achos cynhyrchiad Sgint – gwaith cynharach Bethan Marlow ar gyfer Theatr Genedlaethol Cymru – drama verbatim, ‘gair am air’, yw hon. Mae’n seiliedig ar gannoedd o oriau o ymchwil yn sgwrsio â nyrsys canser ledled Cymru. Fe aeth hi ati ar y cyd â’r gyfarwyddwraig Sara Lloyd, i drawsysgrifio, dethol profiadau, a cheisio canfod hanfod y ddrama yn y geiriau. Yn hynny o beth, mae hi’n denu fy edmygedd yn fawr, oherwydd gallai’r gwaith fod wedi arwain at ddegau o ‘ddramau’ gwahanol.

Mae’r cynhyrchiad hwn yn ein cyflwyno i bum nyrs mewn un tîm, ar wahanol risiau yn eu hamryw yrfaoedd. Dechreuodd un yn y gwaith yn ddeunaw mlwydd oed, tra trodd un arall at y maes yn dipyn hwyrach. Mae gan rai brofiadau personol o ganser yn y teulu, ac yn troedio dau dir gwahanol, fel nyrs a pherthynas i glaf. Mae ganddynt oll raddfeydd gwahanol o uchelgais yn y gweithle, tra hefyd yn brwydro i gynnal bywydau personol. Mae un wedi ysgaru, ac eraill â phlant, ac mae gan bawb ddyletswyddau ehnagach. Ond yn ganolog iddynt oll mae eu rôl fel nyrs, ac i’r rhan fwyaf mae o’n alwedigaeth.

‘Sleisen o fywyd’ a gawn, yn hytrach na dilyn drama ‘dair act’, ac mae’r pump yn gwibio heibio ei gilydd trwy’r set fel ar ward ysbyty. Yn wir, cynlluniwyd y set clyfar (a goleuo ardderchog) i efelychu cyfres o wardiau mewn adran oncoleg ysbyty Cymreig – efallai Ysbyty Gwynedd, ym Mangor. Mae’r rhan fwyaf o’r nyrsys yn Ogleddwyr sy’n meddu ar iaith naturiol eu bro, gan gynnwys geiriau Saesneg a jargon ysbyty. Maent yn hunan-ymwybodol o safon eu Cymraeg wrth rannu’u profiadau â’r ‘ymchwilydd’ chwilfrydig, ond anweledig. Golygai hyn y sefydlir perthynas glos rhwng y bum actores ac aelodau’r dorf, wrth i’r ‘nyrsys’ rannu’u profiadau mewn ffordd hamddenol, ac agos-atoch.

Fy marn i, wedi profi sawl cynhyrchiad gair air (Sgint, a Hollti yn eu plth) yw nad yw’r arddull yn cynnig ‘drama’ gyflawn o gwbl, ond yn hytrach amrywiaeth o ogwyddau am bwnc llosg. Hyd yma ni theimlais wrth adael yr un sioe fod cynhyrchiad o’r fath yn dod at gasgliad neu ddiweddglo pendant, gan fy nghadael yn pendroni dros safbwyntiau llu o leisiau hollol wrthgyferbyniol. Mae’r un peth yn wir i raddau yn achos y ddrama hon, ond y tro hwn, mae’r pump yn canu o’r un llyfr emynau. Yn ffigurol, yn hynny o beth – mae nhw wedi’r cyfan, yn aelodau o’r un tîm – ac yn llythrennol, gan y cyfoethogwyd y gwaith gan haenen drwchus y tro hwn o gerddoriaeth tra dymunol gan Rhys Taylor.
Canu wna’r nyrsys, yn achlysurol, trwy gydol y darn, mewn arddull sy’n gydnaws â natur gyfeillgar, ac adlewyrchol, y cynhyrchiad. Mae lleisiau’r pum actores yn asio’n dda gyda’i gilydd , sy’n tanlinellu gwaith ensemble cryf; ceir hefyd symudiadau hynod luniaidd rhyngthynt oll sy’n llifo megis ballet ar adegau.

Golygwyd profiadau’r nyrsys yn gelfydd tu hwnt; ceir cydbwysedd da rhwng y dwys a’r digri. Ond teg yw dweud fod y nyrsys hyn yn angylaidd, a does dim un enghraifft o nyrs â ‘gwendidau’. Ceir cyfeiriad at gyd-weithwraig sydd ddim yn ‘team-player’, ac sy’n siarad yn gas iawn â chleifion; efallai y byddai wedi bod o fudd i ychwanegu cymeriad o’r fath, a fyddai wedi cyfrannu elfen o ‘ddrama’ a thensiwn. Ond dathliad ydyw’r cynhyrchiad, ar achlysur pen blwydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 70 eleni, i ddiolch i nyrsys ym mhob cornel o Gymru. Yr unig gymeriad ‘negyddol’ yw claf heriol dros ben, sy’n llawn ofn wrth wynebu ei feidroldeb. A bwgan mawr y darn? Wel nid ‘canser’ a dweud y gwir, ond pwysau biwrocrataidd aruthrol y system, sy’n raddol ddiethrio’r nyrsus naturiol o’u cleifion.

Hoffwn ganmol y pum actores, sy’n cydweithio â’i gilydd yn wych , a ceir digonedd o olygfeydd lle mae hynny i’w brofi, yn enwedig wrth ganu ar y cyd. Ond yr eiliadau bychain hynny sy’n cydio ynddom go-iawn yw pan fo’r cymeriadau yn bwrw eu boliau; ar eu pennau eu hunain, mae’r pum yn creu argraff unigryw am amrywiol resymau.

Daeth Mirain Haf Roberts â chryn empathi i’w rhan wrth archwilio rôl ei hymrwymiad at ei gwaith i’w thor-priodas. Enillodd Elain Lloyd ein hymddiriedaeth wrth gyflwyno cymhlethdod annisgwyl ‘Sister’ tawedog ond uchelgeisiol; wrth fod mor deyrngar i’w gweithle na fyddai’n meiddio croesi llinell biced i gefnogi’i ‘chwiorydd’. Nyrs arbenigol oedd cymeriad Mali Jones – ar yr arwyneb y weithwraig leiaf emosiynol a mwyaf ymarferol, ond eto, cafodd rannu brofiad dirdynnol, ffurfiannol, yn ei gyrfa. Ac wedi awgrym bach cynnil ar ddechrau’r cynhyrchiad, cafodd Bethan Ellis Owen rannu colled bersonol ei nyrs, a esboniodd hirhoedledd ei gyrfa.

Ond Carys Gwilym, i mi, sydd wedi aros yn fy meddwl, am gynnig nyrs gwbl reddfol, ond hefyd person go-iawn a ffeindiodd ei ffordd wrth weithio trwy’i galar yn y gweithle. Cafodd hefyd agor y llen ar anadl olaf claf di-deulu, gan gynnig urddas a lleddfu unigrwydd mawr. Dwy olygfa – o blith nifer – a gafodd eu cydbwyso i’r dim, dan arweiniad tîm cynhyrchu o fri. Rhwng pawb, crewyd theatr ensemble ar ei orau, a theyrnged deilwng i gyfraniad tawel nyrsys Cymru.

 

 

 

 

 

Manylion sgyrsiau cyn ac wedi’r sioe ar hyd y daith:

Pontio, Bangor 06/11/2018:

18.30 Sgwrs cyn-sioe i ddysgwyr, PL2

Sgwrs wedi’r sioe yn y theatr

Lyric, Caefyrddin 09/11/2018:

Sgwrs wedi’r sioe yn y theatr

Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth 13/11/2018:

Sgwrs wedi’r sioe yn y theatr

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd 16/11/2018:

19.00 Sgwrs cyn-sioe i ddysgwyr, Ystafell Gyfarfod

19.30 Gwers Sibrwd, cyntedd

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd 17/11/2018:

13.30 Gwers Sibrwd, cyntedd

19.00 Gwers Sibrwd, cyntedd

Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug 20/11/2018:

18.30 Sgwrs cyn-sioe i ddysgwyr, Ystafell Haydn Rees

Sgwrs wedi’r sioe yn y theatr

Hafren, Y Drenewydd 23/11/2018: Dim sgwrs

Theatr Borough, Y Fenni 27/11/2018:

18.30 Sgwrs cyn-sioe i ddysgwyr, Ystafell Siambr y Cyngor

Canolfan y Celfyddydau Taliesin, Abertawe 01/12/2018: Dim sgwrs

Mwldan, Aberteifi 04/12/2018:

19.00 Sgwrs cyn-sioe i ddysgwyr, Caffi Mwldan

Galeri, Caernarfon 07/12/2018:

Sgwrs wedi’r sioe yn y theatr

 

Andanom ni https://www.asiw.co.uk/about-us

 

Nyrsys, Theatr Genedlaethol Cymru, Pontio

Leave a Reply