Raslas Bach a Mawr, Theatr Bara Caws

December 3, 2016 by

Dyma sioe sy’n atgyfodi dau glasur o gymeriad digri yng ngorffennol teledu plant Cymru, wedi ei addasu ar gyfer y llwyfan gan Theatr Bara Caws. Edrychais ymlaen yn fawr at weld y cynhyrchiad gan fod DVD gen i o’r bartneriaeth ddoniol, a dw i wedi cael oriau o bleser yn ei wylio, fel sawl un arall yn y gynulleidfa dw i’n amau. Braf felly oedd cael cyfle i ail-fyw’r wefr drwy gyfrwng gwahanol i’r sgrin.

Gwelwyd Syr Wynff a Plwmsan am y tro cyntaf ar gyfres Teliffant y BBC rhwng 1972-79, cyn iddynt ddychwelyd rhwng 1982-1990 ym mlynyddoedd cynnar S4C. Daeth darnau o’r sgript mor gyfarwydd nes eu bod yn rhan o iaith bob dydd, yn cynnwys geiriau fel ‘slepjan, chwcs, Wyyynff,’ ac wrth gwrs, ‘raslas bach a mawr.’ A fyddai ail-greu’r ddeuawd wedi seibiant o 26 mlynedd gyda dau actor newydd, Iwan Charles fel Plwmsan a Llyr Ifans fel Syr Wynff yn llwyddiannus tybed? Tipyn o gamp fyddai i’r ddau wreiddiol, Wynfford Elis Owen a Mici Plwm, ymddiried eu creadigaeth i berfformwyr eraill, yn enwedig gan mai hwy oedd yn gyfrifol am y sgript. Ond braf cael dweud bod y cynhyrchiad yn llwyddiannus, ac wedi dwyn i gof dau eicon y genedl.

 

 

Mae’r stori ei hun yn gweddu i gân actol neu bantomeim Dolig fel y byddech yn ei ddisgwyl yr adeg hon o’r flwyddyn. Cafodd rhannau o’r sioe ei llwyfannu yn gyntaf yn yr Eisteddfod eleni, ac yno cafwyd prawf bod y ddau gymeriad yn parhau i ddifyrru cynulleidfa o bob oed. Ond roedd angen strwythur i ddod â chymeriadau a grëwyd yn y saithdegau yn fyw i blant cenhedlaeth wahanol.

Cefndir y stori yw bod prif weinidog di-egwyddor (sy’n medru dychryn gyda’i hanadl) yn ceisio gorfodi pobl o’u cartrefi er mwyn datblygu’r safle a’i werthu. Syniad amserol a pherthnasol iawn, a oedd yn rhoi digon o gyfle i’r ddau arwr ein herio a’n diddanu. Roeddwn yn hanner disgwyl rhagor o sgetsys heb gysylltiad rhyngddynt fel yr hyn a gafwyd yn y rhaglenni gwreiddiol, ond roedd yn bwysig i’r stori glymu’r golygfeydd er mwyn creu cyfanwaith dramatig.

Roedd yn gynhyrchiad uchelgeisiol a oedd yn ceisio cynnig hiwmor addas i blant ac oedolion, ond roedd pawb yn amlwg yn mwynhau. Roedd yr hiwmor slapstic ysgafn yn gwneud i’r gynulleidfa chwerthin yn aml, ond roedd hefyd yn cynnwys haenau dyfnach ar gyfer oedolion. Fel yr hyn sy’n gyffredin mewn ffilmiau animeiddio a rhai dramâu, roeddent wedi sicrhau bod dogn helaeth o ddychan a chyfeiriadaeth wleidyddol yn britho’r sgript, a’r elfennau hynny yn finiog ar adegau. Mae’n bosib bod ambell jôc yn y sgript yn gwthio’r ffiniau yn ormodol ar brydiau o ystyried ei fod yn gynhyrchiad i blant, a byddwn yn tybio bod rhai rhieni yn gwingo wrth wynebu cwestiynau anodd yn eu sgil!

Roedd y rhan am yr etholiad a fideos enwogion yn arbennig o ddyfeisgar, yn enwedig yng nghyd-destun Brexit a’r hinsawdd wleidyddol ohoni. Defnyddiwyd y cymeriad Boris Jones hefyd fel cocyn hitio gwleidyddol. Roedd y cynhyrchiad felly yn cadw’n driw i’r gwreiddiol, ond yn cynnwys digonedd o jôcs cyfoes. Buaswn wedi hoffi mwy o flas y gwreiddiol efallai o ran sgetsys yn canolbwyntio ar y ddau yn hytrach na chynnwys naratif ganolog i gynnal awr a hanner gyda chymeriadau eraill. Byddai’r fformat hwn o bosib wedi bod yn gyfrwng i weld perthynas y ddau yn datblygu.

Roedd Iwan Charles yn hoelio’r sylw fel Plwmsan drwy gyfrwng ei wyneb, ystum, osgo a symudiadau. Roedd cymeriadu’r ddau yn argyhoeddi ac yn gredadwy, yn enwedig dynwarediad Llyr o lais main Syr Wynff. Roedd y cymeriadau eraill yn cefnogi’r stori, ond y ddeuawd oedd canolbwynt y sioe yn fy marn i.

Hoffais y set, yn enwedig y grisiau a’r ddwy lefel a oedd yn ychwanegu cryn dipyn at y symud. Roedd y defnydd o olau yn creu awyrgylch a’r lliw yn greiddiol, a’r cyferbyniad gyda thywyllwch hefyd yn atgyfnerthu’r cyffro a’r tensiwn. Roedd y gerddoriaeth wreiddiol yn dod ag atgofion yn ôl, ac roedd caneuon yn cael eu perfformio gan y cast yn annisgwyl ond yn ddifyr. Symudodd y cast o amgylch y gofod mewn modd egnïol a bywiog, gan ddefnyddio pob modfedd yn gelfydd er mwyn dal sylw’r gynulleidfa.

Teimlais fod yr ail hanner yn well na’r gyntaf oherwydd bod cymaint yn digwydd i ddechrau. Llwyddodd y tempo sydyn i gynnal diddordeb, er imi ofni y byddai awr a hanner yn rhy hir i blant. Sioe boblogaidd sy’n sicr o blesio. Cyfle i oedolion hel atgofion ac i blant ddod i wybod am yr hyn oedd eu rhieni’n ei wylio yn eu plentyndod.

18 Tachwedd – 17 Rhagfyr

http://theatrbaracaws.com/portfolio/raslas-bach-a-mawr/

Leave a Reply