Deffro’r Gwanwyn, The Gate, Cardiff

July 15, 2017 by

Deffro’r Gwanwy Roedd gwres The Gate yn danbaid ar noson gyntaf  Deffro’r Gwanwyn; cynhyrchiad tymor olaf myfyrwyr Canolfan Berfformio Cymru ,Y Drindod Dewi Sant. I gyfri am hyn oedd cyfuniad o’r tywydd tesog, hormonau’r dorf, a pherfformiadau’r cast, oedd ar dân yn llwyr.  Wrth i bawb wyntyllu eu rhaglenni o’u blaenau,  ffeindiais fy hun yn cenfigennu wrth gobanau ‘babydoll’ merched y cast…  Yn wir,  ni allai Tenessee Williams fod wedi trefnu noson fwy synhwyrus ar gyfer y camp a rhemp o’r fath  yn Y Rhath!

Mae’n ddegawd a mwy ers i’r sioe gerdd wreiddiol, Spring Awakening (gan Steven Slater a Duncan Sheikh) daro Broadway  yn 2006 – cynhyrchiad a ddisgrifwyd gan feirniad y New York Times ar y pryd, yn syml, fel ‘pure sex’.  Ac fe aeth pum  mlynedd heibio ers taith y Theatr Genedlaethol o’r addasiad Gymraeg gan Dafydd James, a berfformiwyd gyntaf ganddynt yn 2009. Bues i’n ddigon anffodus i golli’r cynyrchiadau hynny, ac felly ro’n i’n wyryf llwyr i’r sioe cyn ei brofi yn The Gate.

Ond serch y cynnwys ‘masweddus’, mae’n gwbl addas mai mewn hen gapel y llwyfanwyd y cynhyrchiad yma, dan gyfarwyddwyd  dyfeisgar Angharad Lee . Peidiwch a gwaredu; ni ddiosgir yr un dilledyn ar lawr, a does dim eiliad nothlymundod i’w weld.  Ond teg dweud fod yna gryn dipyn o halio, hunan-leddfu a mwdlwasgu, a’r holl eiriau boncyrs o wych am hunan-bleseru yn y Gymraeg… Digon yw dweud i mi glywed chwerthin ac ‘ughhh… that’s disgusting!’ gan ferch ysgol yn y rhes o’m mlaen. Ond erbyn diwedd y cynhyrchiad, saethodd hithau a’i ffrindiau i’w traed, wedi’u heintio gan hud y sioe .

Fe seiliwyd y sioe gerdd wreiddiol ar ddrama ddadleuol Frank Wedekind o’r Almaen, a gyhoeddwyd yn 1891. Mae’n dilyn criw o arddegwyr ym mlodau eu dyddiau,  wrth iddynt ddelio â gormes o bob math; gwewyr y glasoed, a phwysau cymdeithas, gan gynnwys rhieni ac athrawon – sydd ar blaned arall i’r bobol ifanc. Tra’n disgwyl i’r ‘plant’ ufuddhau i’r hen drefn, mae’r oedolion yn ddall i’w chwyldro mawr. Ac er y gosodwyd y ddrama ar ddiwedd y 19eg Ganrif, mae’r themau a grywbyllir ynddi yr un mor addas i’r genhedlaeth Youtube a Snapchat Gymreig a Chymraeg.

 

gate 3

gate 4

gate

Dyna sy’n egluro steil trawiadol y cynhyrchiad hwn, sydd – rhwng y colur a’r dillad (a gynlluniwyd gan Becky Davies) – yn cyfuno elfennau amrywiol Kabuki a Steam-Punk.  Glynnir at enwau gwreiddiol Almaenig y cymeriadau, sy’n cynnwys Melchior (Josh Morgan), sef dreamboat arweiniol y cast. Ond nid Danny Zuko o ionc mo’r cyfaill hwn – dyma feddyliwr dwys sydd ymhell ar y blaen i bawb. Yn wahanol i’w gyfoedion, cafodd ryddid gan ei rieni i gwestiynnu, a herio’r drefn. Yn ddarllenydd brwd o waith Goethe, mae e’n anffyddiwr mawr – tipyn o safiad yn wyneb y gymdeithas Lutheraidd gul. Ac mae’n  deall mwy am Virgil na’i athro sadistaidd, sydd â’r grym i lywio’i ffawd.

Mae’ gyfaill Moritz  (Sion Emlyn Parry) yn wynebu dipyn o strach;  dan bwysau mawr i  lwyddo ym mhob maes, caiff ei blagio gan drychiolaethau fin nos. Daw’n amlwg mai beuddwydion gwlyb yw’r rhain, a caiff ei gysuro i glywed fod pawb o’i gwmpas yn profi’r un fath. Ond am ba hyd y gall y Moritz mwyn osgoi siomi ei deyrn o dad?

Un o’u cyfeillion bore oes yw’r Wendla (Jemima Nicholas)  dlos, sy’n fodryb am yr ail waith; mae hi’n ysu i gael gwybod sut yn union y creir babanod, ac yn awchu i gael teimlo rhywbeth’ . Ond gwrthod datgelu hanfodion natur wna ei mam, ac mae’i hanallu hithau – a’r oedolion eraill –  i drin pryderon eu plant gyda pharch,  yn arwain at drasiedi i’r tri…

O eiliadau cynta’r sioe chwareus a hynod hyderus hwn, trywanwyd pawb yn y dorf gan don o egni mawr. A dan arweiniad John Quirk, y cyfarwyddwr cerdd, aethpwyd ati i godi’r to. Chwaraeodd y band roc yn y pulpud ran ganolog yn y sioe, wrth lywio’n hemosiynau drwyddi draw.  Adeiladwyd yn raddol at uchelfannau orgasmig erbyn diwedd yr hanner cyntaf, cyn dychwelyd i’r ddaear gyda chlep yn yr ail ran. Mewn sioe o 23 o ganeuon, cafwyd anthemau a baledi di-ri; o’r caneuon protest  Bitch yw Bywyd a Totally Fucked, hyd at farwnadau hardd Cân y Gwynt  a Sisial Fwyn. Cynigodd y cast ddosbarth meistr yn y grefft o aml-dasgio, wrth redeg a rasio a sboncio tra’n canu  a dawnsio. Gwerthfawrogais y wledd weledol yn fawr, ond ar adegau, ni allwn glywed popeth yn glir. Yng ngofod The Gate, y darnau tyner a’m hudodd i,  wrth i’r band roc gwffio â chantorion yr anthemau mwy tanllyd.

Ar nodyn gyffelyb, rhaid ail-adrodd yr un gwyn ag y profais wrth wylio Macbeth y Theatr Genedlaethol. Mae addasiad  rywiog Dafydd James  o’r sgript Saesneg yn rhodd i Gymry Cymraeg , gan gynnig potensial i’r geiriau lifo fel arian byw yng ngenau pawb. Hawdd deall sut gallai actortorion feddwi’n llwyr ar berlau mor ddeallus. Ond mae na dueddiad gan rai actorion ifainc i lyncu’r geiriau euraidd hyn ar garlam. Fel yng Nghastell Caerffili gynt, mae’n amhosib dilyn pob gair, yn enwedig mewn gofod theatrig ‘anarferol’. Collwyd ystyr nifer o’r llinellau wnaeth i mi golli rhediad y plot, gan droi fy sylw at y tes a’r gwres, yn ddi-amynedd braidd.

Dwi’n deall mai’r bwriad gwreiddiol  oedd llwyfannu’r sioe yn Stiwdio Weston, yng Nghanolfan y Mileniwm Bae Caerdydd, ac yn sicr, byddai gofod o’r fath, ag acwsteg gwell, wedi rhannol ddatrys problem o’r fath.  Ond rhaid datblygu ciwed o actorion all addasu’n hwylus i yngangu a thaflu geiriau’n glir, mewn gofodau theatr ledled Cymru – a thu hwnt – o bob math. Wedi dweud hyn oll, roedd y lleoliad yn addas i elfennau eraill y sioe. Yn sicr, roedd naws gableddus i’w phrofi mewn cyn-ofod ‘sanctaidd’ o’r fath,  oedd yn fêl ar fysedd nifer yn y  dorf. Caniatwyd i’r actorion dorri trwy’r ‘pedwerydd wal’, wrth wibio heibio’r cyhoedd,  a ‘chwarae a thân’ wrth droedio’n fregus ar hyd gwefusau’r hen falconîau.

Ymysg y perfformwyr a hoeliodd y sylw, creodd Josh Morgan (Melchior) argraff fawr. Mae e’n seren breuddwydiol o fachgennaidd, y’n  dwyn yr  Iwan Rheon  ifanc i gof.  Mwynheais hefyd waith Jemima Nicholas yn fawr, wrth iddi gynnig perfformiad  amlhaenog, fel y Wendla chwilfrydig, sy’n awchu i gael teimlo rhywbeth,  ac i gael dechrau byw.  Ar y naill llaw roedd ei Wendla hithau yn Lolita bur ddrygionus, yna’n ddol borslen fregus – nid anhebyg i Lucy Fallon (Bethany Platt) o Corrie ar hyn o bryd (ac mae hynny’n gompliment, gyda llaw!).  Gair i ganmol yn ogystal leisiau unigol Lleucu Gwawr a Lloyd Macey;  mewn rhannau cynorthwyol, fe llwyddodd y ddau  i oresgn rhwystredigaethau sain yr adeilad yn fwy nag eraill.

Ond teg fyddai dweud i’r ensemble cyfan gyd-weithio’n wych i greu gloddest o gynnwrf y glasoed, gan gyffwrdd ar angst a chywilyddd ynghyd â phleserau erotig y cnawd. Rhyfeddol yw meddwl i’r ddrama ddadleuol wreiddiol ragflaenu gwaith Sigmund Freud ar rywioldeb yr arddegau; mewn cymdeithas mor grefyddol, roedd yn dipyn o beth i Frank Wedekind  agor blwch Pandora o’r fath. Gwnaeth Dafydd James (a’r comisiwn gwreiddiol gan y Theatr Gen) gymwynas fawr â’r iaith Gymraeg, wrth sicrhau sioe gerdd i apelio’n benodol at bobol ifanc. A diolch i Ganolfan Berfformio Cymru, ro’n i’n dyst i rywbeth anarferol yr wythnos hon; theatr lawn Cymry Cymraeg dan ugain oed, wedi’u cyfareddu gan sioe ystyrlon or fath.

Gefr, yn wir, i’r enaid ar noson o Orffennaf, ac awgrym o addewid mawr – llongyfarchiadai i bawb.

 

 

 

 

 

Leave a Reply