Yfory, Theatr Bara Caws

March 2, 2017 by

Lai na phum munud i fewn i’r ddrama Yfory (Theatr Bara Caws), fe wyddwn i un peth yn sicr;  y bydden i eisiau ei gwylio hi eilwaith –  ac eto, ac eto, o bosib. O’r eiliad gamodd Dewi Rhys Williams ar lwyfan, fe nhrywanwyd gan sylweddoliad ; dyma ddrama gyfredol, sy’n ddifyr a dadleuol, sy’n gwbl berthnasol i bawb.

Wrth ei gwylio, fe ysais am ddramau eraill o’r fath i’n cadw ar flaenau ein traed. Ond prin yw’r gweithiau hynny sydd wir yn herio’r drefn, a’n gadael yn gegrwth drachefn.

Wedi cipio gwobrau lu am y cynhyrchaid Garw, am Streic y Glowyr, yn 2015, bu Siôn Eirian yn gweithio’n ddiwyd ar ddrama wleidyddol fyddai’n craffu ar ein cyfnod ni. Rhodd, mewn ffordd, ydoedd Brexit, a’r daeargrynfeydd sydd megis dechrau dirgrynnu ers hynny, i’r awdur. Mae’n stori, meddai ef, y mae e’n ysu i’w rannu, ers blynyddoedd, ac o’r diwedd dyma hi.

Mae’r  ddrama yn agor mewn fflat chwaethus â golygfa o Fae Caerdydd, a darlun ganolog  sy’n adleisio’r Sgrech gan Edvard Munch. Ar fin gadael y mae’r Aelod Cynulliad, Gwyn (Dewi Rhys Williams), sydd hefyd yn arweinydd Plaid Cymru. Dychwela i’r llwyfan ar ddechrau’r ail act, yn ysu i gael gafael yn ei gariad. Ond gwell gan hithau, Ellie (Caryl Morgan), i’w holi fe’n dwll am ei daith ddiweddar yntau i Norwy. Daw’n amlwg mai ei gynghorydd arbennig ef yw hi, sydd â’i huchelgais gwleidyddol ei hun; yn sgil cyflafan Brexit, mae’r byd  en ei waered, yn rhyngwladol, ac yma yng Nghymru. Yn yr oriau a fu, collodd Llafur eu harweinydd; cyfle perffaith i gamu i’r gwagle. Cyfle perffaith, yn ôl Ellie, i rwygo’r llyfr rheolau, a chynnig dêl chwyldroadol i Gymru…

Gyda’r pâr yn gytûn, daw ymwelwyr annisgwyl i darfu ar gynlluniau’r ddau; Kelvin George (Rhodri Evan) o’r Blaid Lafur, sy’n byrlymu o hyder, a Trystan (Aled Bidder) – mab Gwyn –sy’n llawn pryder.  Nid cyd-ddigwyddiad mo ymweliad y naill, na’r llall, ac mae’r sgil-effeithiau, i bawb, yn bellgyrhaeddol. Sut ‘yfory’ fydd i Gymru wedi noson o’r fath, yn sgil datguddiadau di-droi ’nol?

Un rheswm i ddychwelyd i weld Yfory fwy nag unwaith yw i sawru corwynt o sgript gan Siôn Eirian. Caiff ei eiriau eu saethu fel bwled o wn, gan olygu i mi stryffaglu, ar adegau, i ddal fyny. Mae’r egni a greir yn hynod gyffrous a sylwedd y dadlau deallus yn gyfareddol. O am newyddiaduraeth, a thrafodaeth gyson o’r fath, i ni gael arfer â mwy o hyn yng Nghymru.

Mae’r ddadl a gyflwynir gan yr Ellie angerddol, yn herio’r status quo gwleidyddol. Yn sgil ffrae Ysgol Llangennech, bydd nifer yn gwaredu, ond eraill yn deall ei phwynt. Ond nid yn unig y mae’r ddrama yn herio gwleidyddiaeth Cymru, ond hefyd un o ffigurau mwyaf y theatr Gymraeg. Dyma ddrama sydd ar dân i chwalu shibolethau, ac mae’r canlyniad yn werth ei brofi.

Mae’r perfformiadau’r pedwarawd yn gafael o’r dechrau, a’r cymeriadau yn grwn ac aml-haenog. Ceir diafol ym mhob un, ond hefyd angel yn ogystal; mae modd uniaethu â phenbleth pawb. Fel gwylwraig fenywaidd, mae’n bleser pur gwylio Ellie yn saernïo, a darbwyllo â’i ddadl graff. Arwres o sylwedd, sy’n hyderus ei hunaniaeth, ac sy’n gwrthod celu ei phŵer benywaidd. Dyma rodd yn wir o ran i Caryl Morgan sy’n mynd i’r afael â’r fenyw gymhleth mewn steil.

Mewn drama lai, hi Ellie fyddai gryfaf, a’r dynion o’i chwmpas yn ffyliaid, ond ni cheir ystrydeb o’r fath yn Yfory. Mae Dewi Rhys Williams yn bleser i’w wylio, yn cydbwyso gravitas â greddf comig craff. Wrth ymyrafael â’i gydwybod, gwelwn ymennydd Gwyn yn troi, ac fe rannwn yn ei rwystredigaeth ef.

Er mai’r actor Aled Bidder sy’ leiaf profiadol o blith y pedwar, mae’r Trystan trwstan yn ennyn cryn empathi. Mae Rhodri Evan, fel arfer, yn ein cadw ar flaenau ei seddau, gyda’i egni unigryw ef. Er yn sarff, datgela Kelvin wreiddiau dwfn i’w ddaliadau, gan gynnig drych i’w hen ffrind coleg, Gwyn.

Cawn ein harwain ar gyfeiliorn gan ystumiau’r actorion, a chyfarwyddwraig sydd ar y blaen ar bob troad – Betsan Llwyd. Awgrymir nifer o lwybrau yn ystod y gêm chess theatrig hwn, ac mae’n bleser i ‘golli’ i feistres o’r radd flaenaf.

Yn bresennol yn y dorf ar y noson agoriadol oedd nifer fawr o ffigurau mawrion – gwleidyddion ac yn academyddion yn eu plith. Cafwyd noson Gŵyl Ddewi ddinesig o fri, a esgorodd ar seiswn drafod drydanol. Ond peidied, da chi, ag ystyried Yfory yn ddrama i’r ‘deallusion’ yn unig. Mae’r cynhyrchiad dynol hwn yn cydymdeimlo’n fawr ag amheuon a phryderon y ‘dyn cyffredin’; cydbwysir ffyrdd gwahanol o ystyried y ‘gymuned Gymraeg’, er mwyn cyflwyno Cymru sy’n decach i bawb. Nid maniffesto mohoni, ond cyfle i wyntyllu – mewn ffordd llawer gwell na Pawb â’i Farn.

Mae na wacter anferthol yn y Gymru gyfoes sydd ohoni, nid yn unig yn wleidyddol ond hefyd yn ymennyddol. Fel manna o’r nefoedd, mae Yfory yn cynnig mwy na briwsion – dyma ddrama o sylwedd, i’w sawru.

http://theatrbaracaws.com

 

http://www.asiw.co.uk/my-own-words/betsan-llwyd-yfory

http://www.asiw.co.uk/my-own-words/betsan-llwyd-yfory-theatr-bara-caws-expectations-high

Leave a Reply