Photographs from the dancers’ and photographers’ collaboration to create and capture Decisive Moments

September 2, 2016 by

Three Valleys venues are hosting an international dancers and photographers collaborative project that will result in innovative new work presented across the autumn. The project then moves on to create similar events in Delhi and Mumbai in February 2017

In Wales, the Decisive Moments project is involving groups of dancers and photographers local to three venues, the Met, Abertillery; the Muni, Pontypridd and Blackwood Miners’ Institute working together either over a week or two weekends.

At each, choreographers and dancers Catrin Lewis and Julian Lewis of Ffin Dance, Swapoorna Sen from Bangalore and photographer Roy Campbell-Moore are working with 20 local dancers and photographers to create site specific work and photographic exhibitions based on that work.

The Wales leg of this unique artistic project is supported by Creu Cymru, the development agency for theatres and arts centres in Wales. Director, Deborah Keyser said, “It’s vitally important for Creu Cymru to support Welsh local theatres to bring international artists and young people together in the creation of such lively and exciting new projects.”

Creative Producer and Artistic Directors, Ann Sholem and Roy Campbell-Moore said, “Multi-arts projects like this release exciting new creativity in participants as they get inspired by sharing new skills, energy and knowledge with a wide variety of talented and enthusiastic people.”

The creative sessions culminate in public dance performances and photography exhibitions of the new work at:

  • The Met, Abertillery: Working from Tuesday, August 30 until Friday, September 2 with the public showing at 4pm on September 2.
  • The Muni, Pontypridd: Working on Saturday, September 10 and Sunday , September 11 and Saturday, September 17 and Sunday, September 18 with the public showing at 4pm on Sunday, September 18.
  • Blackwood Miners’ Institute: Working from Monday, October 20 to Friday, October 28 with the showing at 4pm on Friday, October 28.

Photograph from the first Decisive Moments showing at The Met, Abertillery on Friday, September 4.

 

 

 

 

 

 

Dawnswyr a ffotograffwyr yn cydweithio i greu a dal Eiliadau Tyngedfennol

 

Mae tair canolfan yn y Cymoedd yn croesawu prosiect ar y cyd gan ddawnswyr a ffotograffwyr rhyngwladol a fydd yn arwain at waith arloesol newydd i’w gyflwyno drwy gydol yr hydref. Yna, bydd y prosiect yn symud ymlaen i greu digwyddiadau tebyg yn Delhi a Mumbai ym mis Chwefror 2017.

Yng Nghymru, bydd y prosiect Decisive Moments yn cynnwys grwpiau o ddawnswyr a ffotograffwyr sy’n lleol i dair canolfan, y Met, Abertyleri; y Muni, Pontypridd a Sefydliad y Glowyr y Coed Duon, a fydd yn cydweithio naill ai dros wythnos neu ddau benwythnos.

Ym mhob canolfan, bydd y coreograffwyr a dawnswyr Catrin Lewis a Julian Lewis o Ddawns Ffin, Swapoorna Sen o Bangalore a’r ffotograffydd Roy Campbell-Moore yn cydweithio ag 20 o ddawnswyr a ffotograffwyr lleol i greu gwaith safle-benodol ac arddangosfeydd ffotograffig seiliedig ar y gwaith hwnnw.

Yng Nghymru, cefnogir y prosiect artistig unigryw hwn gan Creu Cymru, yr asiantaeth ddatblygu ar gyfer theatrau a chanolfannau celfyddydau yng Nghymru. Yn ôl y cyfarwyddwr, Deborah Keyser, “Mae’n hollbwysig i Creu Cymru gefnogi theatrau lleol yng Nghymru i ddod ag artistiaid rhyngwladol a phobl ifainc at ei gilydd wrth greu prosiectau sydd mor fywiog a chyffrous’.

Yn ôl y Cynhyrchwyr Creadigol a Chyfarwyddwyr Artistig Ann Sholem a Roy Campbell-Moore, ‘Mae prosiectau amlgelfyddyd fel hyn yn rhyddhau creadigrwydd newydd cyffrous yn y rhai sy’n cymryd rhan wrth iddynt gael eu hysbrydoli drwy rannu sgiliau newydd, ynni a gwybodaeth ag amrywiaeth eang o bobl ddawnus a brwdfrydig.”

Bydd y sesiynau creadigol yn cyrraedd eu hanterth gyda pherfformiadau dawns cyhoeddus ac arddangosfeydd ffotograffiaeth o’r gwaith newydd yn:

  • Y Met, Abertyleri: Ar waith o ddydd Mawrth 30 Awst tan ddydd Gwener 2 Medi ac ar ddangos i’r cyhoedd am 4yp 2 Medi.
  • Y Muni, Pontypridd: Ar waith ddydd Sadwrn 10 Medi a dydd Sul 11 Medi a dydd Sadwrn 17 Medi a dydd Sul 18 Medi ac ar ddangos i’r cyhoedd am 4yp ddydd Sul 18 Medi
  • Sefydliad y Glowyr y Coed Duon: Ar waith o ddydd Llun 20 Hydref tan ddydd Gwener 28 Hydref ac ar ddangos am 4yp ddydd Gwener 28 Hydref.

 

Leave a Reply