Tudur Owen, The Ll Factor, Just The Snifter Room at The Mash House, Edinburgh Fringe

September 1, 2016 by

Profiad digon swreal ydy gwylio Tudur Owen yn perfformio yn yr iaith fain. Yn gyflwynydd amlwg ar Radio Cymru, ac wedi blynyddoedd ar S4C  ef yw seren fawr y sin gomedi stand-yp Cymraeg. Ond ag yntau wedi arfer a gigio yng nghlybiau Gogledd Lloegr, mae ei arddull yr un mor naturiol hyderus ag yn y Gymraeg.  Bu mor serchog ag estyn croeso personol i aelodau torf The Mash House yn ystod Gwyl Ffrinj Caeredin ym mis Awst, wrth i seiniau’r Super Furries ein cofleidio o’r uchel seinydd.

Sioe Gymreig yn y Saesneg oedd cynhyrchiad ‘The Ll Factor’, a gyflwynwyd yn llawn direidi. Archwiliodd Tudur Owen labeli di-ri, o’r term ‘Cymro’ i’w enw ei hun, gan ddatguddio yn raddol gynhwysion yr ‘Ll Ffactor’, a  herio cysyniadau’r dorf o genedlaetholdeb Cymreig.

Fel diddanwr, mae e’n giamstar ar gybwyso’i falchder am ei filltir sgwâr, a sylwadau deifiol amdano’i hun a’i gyd-Gymry. Un o atyniadau mawr ei raglen radio yw ei ffraethineb chwim wrth ymateb i bob pwnc dan haul; yng Nghaeredin, diolch i sicrwydd trefn ‘sgript’ a baratowyd o flaen llaw, gwlewyd fflachiadau niferus o’i allu byrfyfyr – gan amlaf wrth feithrin a chynnal perthynas wresog â’r dorf.

Mewn corwynt o berfformiad, llwyddodd i ddychan ei deulu ei hun, gan gynnwys Richard ei frawd – oedd yn bresennol yn y dorf – a dawnsio erotig ei ‘Anti Margaret’. Llwyddodd hefyd i osod pin yn swigen hunan-fodlon ambell un, gan gynnwys cigyddion ger gorsaf niwclear Sir Fôn. Ymestynnodd y thema wleidyddol – a gwleidyddiaeth y teulu yn arbennig –  wrth gymharu sefydllfa’r Deyrnas Gyfunol ar hyn o bryd i un o deuluoedd ‘dysfunctional’ Jeremy Kyle.

Ond llwyddodd hefyd i’n denu i’w fyd o rwystredigaethau bob dydd, o wetsuits, Cefn Gwlad a Pingu – a arweiniodd, yn anochel,  at fonllefau o chwerthin o’r dorf.  Mae ar ei orau yn ‘tampan’ fel  ffigwr y Celt Crac – un o destunau mawr y sioe; ond mae e ar ei anwylaf fel  ‘Trevor/ Trudy’; y plentyn ysgol â’r enw rhyfedd, a hepgorwyd gan siopau cofroddion Caerliwelydd a Sŵ Caer.

Daw ei hyder  o’i  ‘gigs’ cyson –  bob pnawn Gwener a bore Sadwrn ar BBC Radio Cymru –  sy’n ffordd wych o ymarfer ei gomedi arsylwgar, cyn perffeithio’r defnydd ar gyfer y llwyfan. Ond teg dweud mai’r fersiwn 12-yn-ymylu-ar-15 a glywn ar y tonfeddi; yn y cnawd, caiff archwilio stwff sy’ bach mwy ‘rated R’, sy’n rhyddhau ei hun, a’r dorf, i ymlacio’n llwyr. Un pwnc anarlledadwy, yn anffodus, yw ymateb amhrisiadwy ei wraig i arferion rhywiol yr ystlum ffrwyth .

O gofio i’w sioe ddiwethaf yng Ngwyl Caeredin 2008 arwain at nofel lwyddiannus Y Sŵ, synnwn i ddim na glywn ni ragor am  yr ‘Ll Factor’ cyn bo hir.  Mae profi comedi Tudur Owen ar lwyfan yng Nghaeredin yn ein hatgoffa o’i athrylith, ac i fachu pob cyfle i’w weld o ’nol yng Nghymru.

Leave a Reply