Gwobrau Theatr Cymru – Yr Seremoni Wobrwyo

January 28, 2018 by

Mae cymuned artistig Cymru wedi anrhydeddu Godfrey Evans, sylfaenydd Cwmni Theatr Ieuenctid Gorllewin Morgannwg. Mae cyn aelodau’n cynnwys llu o actorion sydd wedi ennill gwobrau BAFTA ac Olivier, gan gynnwys Syr Anthony Hopkins a Michael Sheen, ac a ysbrydolodd waith Russell T Davies.

 

Cyflwynwyd y Wobr Llwyddiant Arbennig i Godfrey Evans gan gyfarwyddwr Lucid Theatre, Simon Harris, sydd hefyd yn ddramodydd ac yn gyn-aelod o CTIGM. Yn ei araith cyfeiriodd at ddyfyniad gan Michael Sheen sy’n cwmpasu ethos Gwobrau Theatr Cymru, “‘Rwy’n ddyledus i Godfrey Evans nid yn unig am fy ngyrfa ond hefyd, ac yn bwysicaf, am fy nghred yn yr hyn all gael ei wireddu pan fo cymuned yn cyd-weithio gydag un nod gyffredin. Mae wedi newid bywydau cenedlaethau o bobl ifanc, ac wedi agor llygaid miloedd ohonom, yn llythrennol, i bosibiliadau a chyfleoedd gwych. Mae fy nyled i, a chynifer o bobl eraill, iddo yn ddifesur.  Allai byth â diolch digon iddo.”

 

MLW_8336

 

Mae cyn-aelodau eraill yn cynnwys enillwyr Gwobrau Theatr Cymru Matthew Bulgo, Christian Patterson, Karin Diamond, Gareth John Bale, Sophie Melville sydd wedi ennill dwy o wobrau GTC, a Rosie Sheehy sydd wedi ennill y wobr am yr Actores Orau yn yr Iaith Saesneg yn y gwobrau eleni.

Mewn seremoni liwgar yng Nglan yr Afon, Casnewydd, enillodd Rosie Sheehy y wobr am yr Actores Orau yn yr Iaith Saesneg am ei phortread o Sonya yng nghynhyrchiad Theatr Clwyd o Uncle Vanya. Bu i’r sioe hefyd ennill y wobr am y Cynhyrchiad Gorau. Derbyniodd gyfarwyddwr artistig Theatr Clwyd, Tamara Harvey, ei thrydedd llechen ar ran y theatr yn yr Wyddgrug, gan iddi ennill y wobr am y Cyfarwyddwr Gorau am ei gwaith ar glasur Chekhov. Llwyfannwyd y cynhyrchiad ar y cyd â Sheffield Theatres.

TH

Bu i’r lleoliad yng Ngogledd Cymru hefyd rannu’r wobr am y Sain Gorau, sy’n cwmpasu gwaith cyfansoddi, perfformio, arbenigedd mewn perfformio cerddorol a chynllun sain. Lucy Rivers oedd yr ennillydd a hynny am ei sioe Sinners Club, sydd newydd gwblhau wythnos yn Theatr Soho Llundain yn dilyn taith o amgylch Cymru. Llwyfanwyd y cynhyrchiad, oedd yn adrodd hanes bywyd Ruth Ellis, gan gwmni Gagglebabble ar y cyd â Theatr Clwyd a lleoliad theatrig arloesol Caerdydd, The Other Room.

lucy

Mae’r gwobrau blynyddol, sy’n cynnwys pedwar categori newydd, yn dathlu theatr, opera a dawns a grëwyd ac a berfformiwyd yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae Gwobrau Theatr Cymru yn cydnabod rhagoriaeth mewn perfformio byw a rôl adolygwyr ym mywyd diwylliannol y genedl.

Mae’r rhestrau byrion ac enillwyr yn cael eu penderfynu gan grŵp eang o adolygwyr y mae eu harbenigedd yn cwmpasu amrediad eang o genres perfformio yng Nghymru a thu hwnt.

Mae’r grŵp yma’n ystyried yr enwebiadau ddaw i law gan adolygwyr, sy’n gweithio yn Gymraeg ac yn Saesneg, a hynny mewn print ac ar y cyfryngau digidol, ar bob math o lwyfannau, ac sydd wedi mynychu perfformiadau byw mewn opera, theatr a dawns a grëwyd ac a berfformiwyd yng Nghymru.

Mae bron i 600 o enwebiadau annibynnol wedi eu cynnig gan fwy na 40 o adolygwyr, a hynny ar gyfer gwaith 73 o gwmnïau, 130 o sioeau a mwy na 222 o artistiaid unigol.

Cynhaliwyd y Gwobrau diolch i nawdd gan Glan yr Afon, y South Wales Argus, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Mae’r incwm ddaw i law yn sgil yr hysbysebion sydd yn y Rhaglen ar gyfer y Gwobrau, rhaglen sy’n cynnwys erthyglau gan yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas, Gweinidog Diwylliant Cymru, y seren opera ryngwladol Dennis O’Neill, yr awdur Manon Eames, y cyfarwyddwr ifanc Chelsey Gillard, un o’r adolygwyr newydd, Sanaz Safari, yn ogsytal â Chyfarwyddwr y Gwobrau, Mike Smith, o fudd i Gronfa Adolygwyr Cymru. Mae’r Gronfa unigryw hon yn talu am fentora adolygwyr newydd, ac am fentora prosiectau mewn ysgolion ledled Cymru, ac yn cynnig cymorth ariannol i alluogi myfyrwyr ac adolygwyr llawrydd i wneud eu gwaith. Cynllun aelodaeth yw’r Gronfa a gefnogir gan holl brif theatrau a sefydliadau celfyddydol Cymru. Fe’i rheolir gan y cwmni nid-er-elw, Gwobrau Celfyddydol Cyf.

MLW_7799

Cafodd cynulleidfa niferus Glan yr Afon ei diddanu gan goreograffi newydd gan Darius James ac Amy Doughty, gwaith sy’n cael ei greu ar y cyd â Cerys Matthews, ar gyfer rhaglen 2018 Bale Cymru. Cafodd rhan o A Child’s Christmas in Wales, ei berfformio gan ddawnswyr Bale Cymru, Beth Meadway, Krystal Lowe a Daniel Morrison.  Bu i Daniel Llewelyn-Williams berfformio darn o sioe A Regular Little Houdini, gan Flying Bridge Theatre Ltd.

MLW_8114

I nodio canmlwyddiant blwyddyn olaf y Rhyfel Byd Cyntaf, adroddodd Sion Emyr ddarn allan o gerdd Hedd Wyn, Rhyfel. Lladdwyd Ellis Humphrey Evans ym mrwydr Passchendaele yn 1917. Mae Sion Emyr yn gweithio gyda chwmni Mewn Cymeriad, sy’n cyflwyno sioeau un dyn/dynes am hanes Cymru mewn ysgolion ledled y wlad.

joe

Enillodd Theatr Genedlaethol Cymru ddwy wobr am eu llwyfaniad uchelgeisiol o Macbeth yng Nghastell eiconig Caerffili, gyda Richard Lynch yn cipio’r wobr am yr Actor Gorau yn yr Iaith Gymraeg, a Joe Fletcher yn mynd â hi am y cynllun Goleuo Gorau.

MLW_8150

Caryl Morgan enillodd y wobr am yr Actores Orau yn yr Iaith Gymraeg am ei pherfformiad yn Yfory, gan Theatr Bara Caws. Awdur y ddrama honno, Siôn Eirian, gipiodd y wobr am y Dramodydd Gorau yn yr Iaith Gymraeg.

 

sion eirian

Yr opera Gymraeg newydd, Wythnos yng Nghymru Fydd, enillodd y wobr am y Cynhyrchiad Gorau yn yr Iaith Gymraeg. Teithiodd Opra Cymru y gwaith hwn gan Gareth Glyn a Mererid Hopwood, yn seiliedig ar nofel Islwyn Ffowc Elis, ledled y wlad.

Patrick

Sion Daniel Young gafodd y Wobr am yr Actor Gorau yn yr Iaith Saesneg am ei ran yn Killology, a gyflwynwyd ar y cyd gan Theatr y Sherman a Theatr y Royal Court. Awdur y ddrama, Gary Owen, gipiodd y wobr am yr Awdur Gorau yn yr Iaith Saesneg.

’Roedd y categorïau newydd eleni yn cynnwys y Cynhyrchiad Teithiol Gorau – yn Gymraeg ac yn Saesneg – er mwyn cydnabod pwysigrwydd gwaith sy’n cael ei weld drwy Gymru benbaladr. Enillydd cyntaf y wobr yn y categori Saesneg oedd How to Win Against History – a gyd-gynhyrchwyd gan Aine Flanagan Productions, Seiriol Davies a’r Young Vic, Llundain. Mae’r cynhyrchiad wedi teithio o amgylch Cymru cyn y Nadolig i gynulleidfaoedd llawn, cyn symud i Lundain. Cefnogwyd y daith gan Pontio, Bangor, Gwynedd. Mae tarddiad y sioe gerdd hon, am Bumed Marcwis Sir Fôn, yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.

Seiriol

Enillydd y Cynhyrchiad Teithiol Cymraeg oedd Rhodri Miles am ei sioe, Sieiloc, sy’n taro golwg newydd ar stori Shylock o ddrama Shakespeare, The Merchant of Venice.

rhodri

Y categori newydd arall oedd Gwobr Cymru a’r Byd sy’n cydnabod gwaith o Gymru sy’n cael ei berfformio dramor. Enillydd y wobr hon oedd Daniel Llewelyn-Williams am A Regular Little Houdini, drama sy’n adrodd hanes bywyd bachgen o Gasnewydd pan ddaethHoudini i’r dref, oedd bryd hynny’n borthladd prysur. Ysbrydolwyd y stori gan dad yr awdur/actor a aned yng Nghasnewydd ac a fu farw llynedd pan oedd Daniel ar fin mynd â’r sioe i Efrog Newydd.

Cast y sioe gerdd Tiger Bay, gan Ganolfan Mileniwm Cymru a Cape Town Opera gipiodd y wobr am yr Ensemble Gorau. Bu i aelodau o’r cast, gan gynnwys Suzanne Packer, Vikki Bebb a Dom Hartley-Harris dderbyn y wobr am y sioe oedd yn adrodd hanes Dinas Caerdydd ar droad yr 20fed ganrif.

MLW_8264

Dywedodd Mike Smith, cyfarwyddwr y Gwobrau, fod y gwobrau teithiol newydd yn cydnabod “pwysigrwydd teithio cynyrchiadau i fywyd diwylliannol Cymru, yn ogystal â’r sialensiau penodol sy’n mynd law yn llaw â theithio ledled y wlad, tra mae’r Wobr Cymru a’r Byd yn nodi cyfraniad cwmni neu unigolyn sy’n mynd â gwaith a grëwyd yng Nghymru i’w ddangos i gynulleidfa ryngwladol”.

Aeth y wobr gyntaf erioed i’w chyflwyno am y Coreograffi Gorau i Marcos Morau am Tundra, a grëwyd gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Ed Myhill o GDCC enillodd y wobr am y Dawnsiwr Gorau am ei berfformiad yn Animatorium, a goreograffwyd gan Caroline Finn.

Ed Myhill

Enillydd Gwobr y Ddawnswraig Orau oedd Anna Pujol am ei rhan yng nghynhyrchiad Ballet Cymru, The Light Princess, a gyd-gynhyrchwyd gan Ballet Cymru, Catrin Finch a Glan yr Afon. Bu i Anna hedfan o Sbaen i dderbyn y tlws. Ballet Cymru hefyd enillodd y wobr am y Cynhyrchiad Dawns Gorau, sef Shadow Aspect, a goreograffwyd gan Tim Podesta gyda Maria Galeazzi, Prif Ddawnswraig Wadd y Royal Ballet, yn serennu ynddo.

bc

Buddug James Jones ac Anneliese Mowbray enillodd y Wobr am y Cynllunio Gorau am Gwledd Gwyddno gan Gwmni Theatr Arad Goch, mewn gŵyl fawr a gynhaliwyd ar lan y môr.

buddug

Gan gydnabod cyfraniad cwmnïau sy’n cynhyrchu gwaith ar gyfer pobl ifanc, enillydd y wobr am y Sioe Orau i Blant a Phobl Ifanc (Saesneg) oedd Theatr na nÓg am Eye of the Storm, ac yn Gymraeg gan Gwmni’r Frân Wen am Mwgsi.

Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru enillodd y tair gwobr yn y categori opera. Bu i Simon Bailey hedfan o Frankfurt i gasglu ei dlws am y Perfformiad Gorau gan Wryw mewn Cynhyrchiad Opera am From the House of the Dead, Janacek. Cyfarwyddwr COCC, Matthew Holmquist, derbyniodd y wobr am Le Vin Herbé, Frank Martin. Natalya Romaniw, y soprano o Abertawe, aeth â hi am y Perfformiad Gorau gan Fenyw mewn Cynhyrchiad Opera, am ei phortread o Tatyana yn Eugene Onegin gan Tchaikovsky. Gyrrodd neges fideo o Brno yn y Weriniaeth Tsiec ble mae wrthi’n perfformio rhan Lisa yn Queen of Spades, hefyd gan Tchaikovsky, a diolchodd i’r beirniaid am yr anrhydedd. Derbyniodd ei mam y tlws ar ei rhan.

natalya

 

Leave a Reply