Yr Eisteddfod Genedlaethol 2018 yng Nghaerdydd

August 5, 2018 by

Gyda thros 1,100 o ddigwyddiadau a gweithgareddau unigol, yr Eisteddfod Genedlaethol yw’r lle i fod yn ystod wythnos gyntaf mis Awst.  Mae’r Eisteddfod wedi cyrraedd y Bae, ac mae’n edrych ac yn teimlo’n wahanol i’r arfer, gyda chymysgedd clyfar o adeiladau parhaol a strwythurau dros-dro deniadol.

Gyda’r ŵyl wedi’i chynnal yng Nghaerdydd y tro diwethaf yn 2008, mae’r Eisteddfod eleni’n wahanol iawn. Y tro diwethaf roedd yr ŵyl yn guddiedig ar Gaeau Pontcanna, ond y tro hwn, mae’n ŵyl fyrlymus a hyderus, gyda’r Bae yn gefndir hardd iddi.  Ac nid dim ond y lleoliad sydd wedi newid.

Mae’r ddegawd ddiwethaf wedi bod yn gyfnod o newid i’r ŵyl sy’n dathlu’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru.  Mae wedi esblygu a datblygu dros y blynyddoedd, gan droi o fod yn glwstwr o adeiladau o amgylch y Pafiliwn, i fod yn gasgliad o bentrefi, pob un yn dathlu genre gwahanol o ddiwylliant a’r celfyddydau, a phob un yn groesawgar ac eclectig.

Soniwyd am hon fel Eisteddfod drefol ac arbrofol, ac roedd rhai yn amheugar o’r penderfyniad i ymweld â Bae Caerdydd a chyfuno’r defnydd o adeiladau parhaol gyda phebyll a tepees.  One mae’r canlyniad yn wych, gydag anffurfioldeb cyfeillgar y Bae yn amlwg i’w weld, a defnydd clyfar o leoliadau a llwyfannau’n darparu cyfleoedd gwahanol i’r trefnwyr.

Mae gan y digwyddiad eleni raglen feiddgar a chyffrous, sy’n dangos yr iaith a’n diwylliant mewn ffordd gynhwysol tu hwnt, gyda’r awydd i ddenu cynulleidfa newydd ac amrywiol yng nghalon y prosiect.  Dyma ‘ŵyl ddi-ffens’, Eisteddfod lle gall pobl bicio draw i flasu genres diwylliannol o bob math, o lenyddiaeth a cherddoriaeth i gelfyddydau gweledol, gwyddoniaeth a thechnoleg a theatr stryd.

Mae diwylliant Cymraeg yn mwynhau cyfnod euraidd ar hyn o bryd, a does unman gwell na’r Eisteddfod i weld sut mae ein gwlad fechan yn llwyddo i ddisgleirio mewn cymaint o feysydd.

Un enghraifft o hyn yw’r Pentref Drama, rhaglen lawn o ddigwyddiadau o a gweithgareddau, o premiere’r ddrama a enillodd y Fedal Ddrama’r llynedd, Milwr yn y Meddwl gan Heiddwen Tomos, cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr y Sherman gyda’r Eisteddfod, i Anweledig, perfformiad dirdynnol Ffion Dafis yn nrama un-actor rymus Aled Jones Williams.

Mae’r rhaglen drama wedi elwa o’r penderfyniad i ddod â’r Eisteddfod i leoliad trefol, gyda’r Bae a’r adeiladau’n cynnig cynfas gwag i’w lenwi. Mae Canolfan Mileniwm Cymru’n berffaith ar gyfer llawer o’r perfformiadau drama ‘ffurfiol’, ond llefydd fel Portland House ar Stryd Biwt, Chapter, Caffi Sia yng Nghrefft yn y Bae, a hyd yn oed grisiau’r Senedd yn rhoi’r cyfle i’r trefnwyr, llawer ohonyn nhw’n wirfoddolwyr lleol, arbrofi, herio a chreu rhaglen arbennig wedi’i anelu at gynulleidfa eang o ran oedrannau a diddordebau.

I lawer, trysor cudd yr Eisteddfod yw Cymdeithasau.  Gall unrhyw gymdeithas neu sefydliad sy’n rhan o fywyd neu ddiwylliant Cymraeg archebu slot yn ystod yr wythnos, ac mae’r canlyniad yn rhaglen eang ac eclectig o ddigwyddiadau.  Mae rhai ohonyn nhw’n arbenigol iawn, ond eraill yn gosod yr agenda diwylliannol ar gyfer y misoedd nesaf.  Dyma drafodaethau, sgyrsiau a darlithoedd na ddylid eu methu.  Ewch ar-lein i weld y rhaglen cyn mentro i’r Senedd i weld beth sy’n digwydd.

Mae’r Eisteddfod yn ddathliad o’r iaith Gymraeg, gan ddefnyddio diwylliant a’r celfyddydau i wneud yr iaith yn berthnasol a deniadol i’r demograffig ehangaf bosibl.

Mae Y Lle Celf, arddangosfa agored y celfyddydau gweledol yr Eisteddfod yn un o ganolfannau pwysicaf y Maes, os ydych yn siarad Cymraeg ai peidio.  Ac eleni, mae’r arddangosfa i’w gweld yn y Senedd.  Mae canlyniad yr arbrawf yma’n hollol hyfryd, gyda defnydd clyfar o ofod ac arddangosfa sy’n odidog o eclectig, lle mae artistiaid ifanc a newydd yn gallu arddangos wrth ymyl rhai o enwau mwyaf y byd celf yng Nghymru.

Mae cerddoriaeth yn rhan greiddiol o’r Eisteddfod.  Mae Maes B, brawd bach nosweithiol yr Eisteddfod wedi bod yn un o uchafbwyntiau’r haf i lawer am flynyddoedd.  Ond dros y blynyddoedd diwethaf, mae trefnwyr wedi gweithio’n galed i ehangu apêl Maes B a cherddoriaeth Gymraeg yn gyffredinol, a’r canlyniad yw llwyddiant mawr Llwyfan y Maes.

Lleolir y llwyfan mawr yn y Roald Dahl Plass, a’r rhaglen yn rhedeg o 12:00 tan yn hwyr bob dydd, gyda band parti’r 90au, Diffiniad yn ymddangos nos Wener, ac un o fandiau mawr y sîn, Candelas, yn cau’r Eisteddfod ar y nos Sadwrn olaf.

Mae mynediad yn rhad ac am ddim drwy gydol yr wythnos, a’r bwriad yw hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg i’r gynulleidfa ehangaf bosibl yng Nghaerdydd, gan wneud yr iaith a diwylliant Cymru mor ddeniadol a pherthnasol i bawb.

Ond nid dim ond roc a phop sydd ar y Maes, gyda’r Eglwys Norwyaidd yn gartref i raglen cwbl newydd, sydd wedi bod ar goll o’r Eisteddfod tan rŵan. Mae #Encore yn dathlu cyfansoddwyr a cherddoriaeth o Gymru, mewn awyrgylch hyfryd, yn y gobaith y  daw yn rhan greiddiol o’r Maes yn y dyfodol.

 

The Independent Voice of Artists and Reviewers in Wales / Llais Artistiaid ac Adolygwyr yng Nghymru

Leave a Reply