Dau, Theatrau Rhondda Cynon Taf

July 13, 2016 by

Ddyddiau’n unig ‘rol cael blas o theatr ymylol Caerdydd, ym mar Porters gyda 10 Munite Musicals, dyma brofi drama arall a lwfanwyd mewn bar – ac a osodwyd, yn addas iawn, mewn tafarn.  Diolch i nawdd gan Theatrau Rhondda Cynon Taf, dangoswyd ‘Dau’ yn mar uchaf Dempseys; addasiad Gymraeg o’r ddrama Two gan Jim Cartwright.

Fe’i  llwyfanwyd yn wreiddiol  ym 1990, yn theatr yr Young Vic Llundain,  ond profodd hirhoedledd y darn yn  fytholwyrdd dan arweiniad cadarn Gareth J Bale. Efe a gyfarwyddodd ddau berfformiad disglair iawn gan Carwyn Jones a Catrin Morgan, yma’n portreadu  tafarnwr a’i wraig, a chwsmeriaid lu, ar noson dyngedfennol yn eu perthynas.

Dechreuodd y ddau yn gadarn, yn slic ac yn sionc, wrth gynnal symffoni wrth y bar; yn allanol yn dîm unedig, yn cydweithio’n dda, ond dan yr wyneb, trigai ddrwgdeimlad mawr. Bob hyn a hyn, gwneath un ohonynt le i ‘regular’;  hen ddynes, gwr gweddw a’r’fenyw arall’, yn eu plith. Hefyd, ymysg y cwsmeriaid cafwyd cyplau o bob math –  o’r pâr gordew a’u ffetish Elvis, i fwli  treisgar a’i gysgod o wraig, hyd at ‘sglyf’ a’i needy chick o gariad.

Dan bwysau cyllidebol, fe lwyddwyd i’n denu fewn i’w byd, gan newid eu ’sgidiau – ac ambell siaced a sgarff – ar gyfer pob cymeriad. Cydbwysywd yn dda rhwng y straeon dwys a digri, gan archwilio’r dafarn fel  dihangfa i rai, neu estyniad o garchar eu meddyliau i eraill, ynghyd ag  oriel yr argyfwng gwacter ystyr. Ond wrth ddychwelyd bob tro at y cwpwl canolog, arweiniwyd at grescendo emosiynol.

Cynigodd y ddau  arddangosfa o acenion – o’r Wenhwyseg i Gofi Dre. A thrwy newidiadau  bychain yn ymarweddiad y ddau, derbyniwyd y cast ehangach yn ddi-gwestiwn – er fod ‘sgidiau orthapedig a phar o lopannau gymorth, ar adegau.  Hawdd fyddai canmol y cymeriadu ar hyd y sioe; roedd Catrin Morgan yn wych fel y gragen o wraig dan orthrwm gwyliadwraeth ei gŵr, a Carwyn Jones yn ddigri tu hwnt fel Valley-boy di-glem. Ond roedd y cemeg rhwng y ddau fel y tafarnwr a’i wraig yn tasgu oddi wrth y llwyfan, yn arbennig tua’r diwedd dirdynnol.

Datgelodd y ddau, yn wir,  y ddynoliaeth ar waith yn y two-hander grymus hwn, sy’n ddigri dros ben, a theimladwy iawn ar adegau annisgwyl. Aeth y dramodydd gwreiddiol ymlaen i ganfod llwyddiant gyda The Rise and Fall of Little Voice ym 1992, wrth ddarhlu cymuned ddosbarth gweithiol  yn Swydd Gaerhirfryn. Diolch i drosiad naturiol Gymraeg, rhoddwyd hefyd lais i gur y Cymry cyffredin; a dan ofal Gareth J Bale, diddanwyd tafarn lawn o Gymry ar nos Lun.

Bu peilot o’r ddrama Dau (Jim Cartwright) ar daith fer i Theatr Soar, Merthyr Tudfil, Theatr Parc a Dar Aberdar a Dempseys Caerdydd yn ystod Gorffennaf, 2016.

Leave a Reply