Dawns Ysbrydion, Theatr Genedlaethol Cymru

November 13, 2015 by

Ffrwydriadau tân gwyllt a sgrechiodd uwchben y Stiwt, Rhosllannerchrugog, nos Sadwrn. Ond roedd yr egni a grewyd o fewn yr adeilad yn ganwaith yn fwy grymus na’r rheiny.

Fe brofais, am yr eilwaith, gynhyrchiad newydd y Theatr Gen, sydd ar daith ledled Cymru ar hyn o bryd. Dan arweiniad ffyrnig Eddie Ladd – yng nghwmni’i chyd-ddawnswyr Anna ap Robert ac Angharad Price Jones – cynhelir protest wleidyddol ar lwyfan theatr Cymreig.

Mae’r cynhyrchiad yn cofnodi hanner can mlwyddiant hanes boddi Cwm Celyn, i ddiwallu anghenion trigolion Lerpwl. Ond yn wahanol i Porth y Byddar (2007),  a archwiliodd yr hanesion personol,  gosodir Dawns Ysbrydion mewn cyd-destun geo-wleidyddol.

Estynnwyd wahoddiad i’r coreograffydd Sarah Williams o Ganada i gyfarwyddo cynhyrchiad ar y cyd ag Eddie Ladd, a fyddai’n plethu geiriau, dawns a cherddoriaeth byw, i gyfosod hanes cyffredin dau ddiwylliant leiafrifol.

Benthycwyd y cysyniad o ‘Ddawns Ysbrydion’ gan lwythi brodorol Gogledd America, a fabwysiadodd y ddefod tua diwedd y 19eg Ganrif. Gwynebodd y llwythi fygythiad cynyddol wrth i fewnfudwyr Ewropeaidd reibio eu tiroedd, eu ffynhonellau, a’u traddodiadau, a hynny gyda bendith y Llywodraeth, ‘er lles y mwyafrif’. Arweiniodd y ‘dawnsio’ – wnaeth bara am ddyddiau – at stâd o  ewfforia llwyr. Profwyd rhithweledigaethau yng nghwmni eu cyn-deidiau, gan weld yn bell i ddyfodol llawer gwell.

Parhau wnaeth y gwladychu ar hyd yr Ugeinfed Ganrif, fel yn achos datblygiad argae Big Bend, ar yr afon Missouri ar droad y Chwedegau. Adleolwyd llwyth o frodorion o’u cartrefi yn nhalaith Ne Dakota ddwy flynedd cyn i bentrefwyr Pentre Celyn wynebu’r un ffawd.

Nid profiad cysurus mo gwylio Dawns Ysbrydion; ar adegau mae’n siwrne astrus dros ben. Ond cawn ein hudo, ynghyd a’n dieithrio, gan ymosodiad  ar ein synhwyrau yn ystod cynhyrchiad sy’n hollol drydanol.

 

 

 

 

Dengys ddyfeisgarwch mawr yn y defnydd o bolysteirin gwyn, fel canfas aml-bwrpas. Ar ddechrau’r darn, fe efelychai lwyfan llyfn, mor bur â llyn o rew. Wrth i’r golau daro’r dawnswyr, mae cysgodion eu cyrff yn arwydd o bresenoldeb eraill o’r gorffennol.

Ond wrth i’r jig-sô gwleidyddol drawsnewid yn raddol, dechrau dryllio wna’r tir dan draed. Cynyddu wna’r rhwystredigaeth a’r tensiwn gormesol diolch i’r sain gwichian anioddefol. Toddai’r llyn o rew i ffurfio ynysoedd pellenig, a’r dawnswragedd fel eirth polar ar fin trengi. Wrth suddo i drwmgwsg, profir rithweledigaethau, sy’n arwain, yn derfynnol, at y ddawns.

 

 

Penllanw’r cynhyrchiad yw chwalfa llwyr; storom eira o ecstasi pur, wrth i’r dawnswyr gyrraedd crescendo tangnefeddus, a gyflyrrir gan Y Pencadlys a’i set gerddoriaeth electro byw.

Wedi profi’r ddawns ddwywaith, gwendid mwyaf y cynhyrchiad yw’r gagendor rhwng y dawnswyr a’r dorf; profiad rhyfedd a rhwystredig yw eistedd mewn sedd yn y nesaf peth at rave.

Serch hynny, cwbwl amhosib yw profi’r ddawns hon heb gael eich gwefreiddio’n llwyr. Nid sioe i’r gwan-galon mo Dawns Ysbrydion, ond galwad i gorddi’r dyfroedd, a chynhyrchiad i godi croen gwydd.

 

Y Stiwt, Rhosllannerchrugog

Leave a Reply