Milwr yn y Meddwl, Theatr Genedlaethol Cymru

August 15, 2018 by

Sut mae dehongli drama sydd, ar bapur, yn llawn elfennau llwyddiannus, ac eto – o’i brofi yn y cnawd – yn eich diflasu? Aeth penwythnos hir heibio ers i mi brofi Milwr yn y Meddwl, a dwi wedi methu’n lân ag egluro paham na lwyddodd i’m cyffwrdd, fel y ‘dylai’, ac fel y gwnaeth â gwylwyr eraill.

Dyma oedd y cynhyrchiad olaf i mi ei brofi yn ystod wythnos Eisteddfod lwyddiannus; gallai hynny fod yn ffactor, ond doedd y blinder heb fy nharo erbyn 6 o’r gloch ar nos Iau. Ro’n i’n llawn disgwyliadau i weld drama newydd y  Theatr Genedlaethol, a hawliodd y Fedal Drama i Heiddwen Thomas y llynedd yn Sir Fôn. Ces i siom ar yr ochr orau â chynyrchiadau diwethaf y Cwt Drama, a bonws eleni oedd y llwyfannu yng ngofod pwrpasol ‘Theatr y Maes’. Roedd aelodau’r cast yn gryf – Phyl Harries yn arbennig, a Ceri Murphy wrth berchnogi’r brif ran. Roedd gwta awr o hyd, oedd ymhell o fod yn fwrn, gyda deialog ddisglair, a llwyfannu beiddgar, wrth ei wraidd.

Dyma hefyd oedd y drydedd ddrama Gymraeg i mi’i phrofi mewn tair blynedd am effeithiau PTSD, yn dilyn Triptych(De Oscuro) – oedd yn wefreiddiol –  a Hogia Ni(Theatr Bara Caws) – oedd ddim cweit cystal, er yn gyflwyniadau o ogwyddau gwahanol ar straen trawmatic yn sgil profi rhyfel. Rwy’n synhwyro mai hynny, yn y bôn, sydd wrth wraidd fy niflastod y tro hwn. Nid y pwnc, sy’n un oesol, a llawn potensial iasol, ond yr ymdriniaeth, oedd yn ddryslyd ac arwynebol, yn fy marn i.

 

 

Fe’n cyflwynwyd i Ned (Ceri Owain Murphy)- Is-Gorporal Edward Thomas – fel aelod o frawdoliaeth y fyddin Brydeinig, yn cyd-sefyll a chyd-chwarae, fel un. Wrth iddynt dorri’n rhydd mewn parti, roedden nhw dal yn uned glos, a thaenwyd tywod Iraq ar hyd y lle, yn gorwynt o giamocs meddwol. O fewn dim, fodd bynnag, trodd y tŷ-parti gwallgo yn gartref i Ned, ei wraig Michelle (Elin Phillips) a’u merch fach Gwen. Yno hefyd oedd presenoldeb cyson ei dad cariadus Gor (Phylip Harries) – a’r tywod, oedd yn sylfaen parhaus.

Gyda Ned mewn cadair olwyn, troediodd pawb yn ofalus iawn; yn barchus ohono ond yn awyddus i’w weld yn addasu i’r ‘byd go-iawn’. Yn anffodus, nid ei dad yn unig oedd yn niwsans pur dan draed. Ac roedd arogl cig moch yn atgoffa Ned o gyflafan ar faes y gad. Ni allai neb ddeall pam mai unig uchelgais Ned oedd gwella i ddychwelyd i ryfel. Ond trwy gip ar sesiynau Saesneg â’i swyddog yn y fyddin (Aled Bidder) cawsom fewnwelediad i ‘Stockholm Syndrome’ Ned.

‘Dychwelodd’ Ned yn gyson i faes y gad, a gwelodd drychiolaethau lu. Gadawyd y ddrama naturiolaidd, glawstroffobig o gartrefol, yn aml i fyd rhyfel uwch-real ym meddwl Ned. Yn hynny o beth, bu cerddoriaeth ac effeithiau sain gan Dyfan Jones , a goleuo Ace McCarron o gymorth mawr. A chyfosodwyd gorws cerdd dant eisteddfodol yr agoriad â chyd-adrodd anghydnaws catrawd Ned. Hoffwn ganmol enghreifftiau unigol niferus o gyfarwyddo dychmygus Jack Ifan Moore. Yn arbennig, golygfa feistrolgar, tua canol y ddrama hon; llenwodd mwg cinio rhost o’r popty ffroenau Ned, a’i gipio’n greulon ’nol i faes y gad.

Ond ar y cyfan, tanseiliodd y ‘gimmicks’ gweledol rym tawel sgript yr awdur, oedd fwyaf pwerus ym mynwes y teulu ar chwâl. Y golygfeydd o gig a gwaed oedd rhai’r tad a’r mab… a’r wraig, dan bwysau mawr. Ond braidd yn denau oedd y rhain – a gywasgwyd y sgript? – mewn cymhariaeth ag ymdriniaeth cynharach teulu Triptychgan Gwyneth Glyn.

Tua’r diwedd, yn ddigon siomedig,  dygodd yr effeithiau byddarol gryn sylw, gan ddrysu’r gwyliwr yn llwyr. Collwyd ystyr geiriau allweddol tua diwedd y cynhyrchiad, gan darfu ar ddatgeliad o faes y gad. Wedi hynny, mae gen i ofn i’r diweddglo hynod gawslyd droedio un cam yn ormod i mi . Fel fideo Michael Jackson, tanlinellwyd y cwbl amlwg, a drylliodd y schmaltzbŵer y ‘ddrama’ yn rhacs.

 

 

 

 

 

 

Leave a Reply