Rwtsh Ratsh Rala Rwdins, Arad Goch, Sherman

July 12, 2019 by

Mae’n dipyn o her cynnal sioe sy’n gorfod apelio at plant rhwng tri ac wyth oed. Fel y gwyr unrhyw rhiant mae lefel y ddealldwriaeth a’r soffistigeiddrwydd yn amrywio’n fawr dros ystod oedran o’r fath. Mae hynny’n her i Rwtsh, Ratsh, Rala, Rwdins ar lwyfan Theatr Sherman yr wythnos hon. Mae’r cynhyrchiad hwn yn dathlu deng mlynedd ar hugain ers y llwyfannu cyntaf gan Arad Goch yn 1989.

Roedd y theatr yn llawn cyffro a disgwyliad wrth I’r plant dod i mewn i’r theatr. Mae’r stori yn un sydd yn apelio yn syth at gynulleidfa o’r fath ac at yr oedolion sy’n dod gyda’r plant. Yn y ddrama mae’n rhaid I’r prif gymeriadau chwilio am pot o fel sy’n dal aur. Wrth cwrs, nid yw’r chwilio mor syml  a hynny a chymeriad drwg sy’n benderfynol o’u taflu oddi ar y trywydd ac yn cuddio’r pot sy’n dal yr aur.

Mae’r rhan fwyaf o’r gweithredu yn atseinio i’r gynulleidfa ifanc ond roedd yn  amlwg bod y darnau lle’r oedd mwy o ddeialog a llai o slapstick yn tueddu i golli sylw aelodau ieuengaf y gynulleidfa. Serch hynny, llwyddodd deialog Angharad Tomos i bontio’r oedrannau yn rhyfeddol wrth i’r ddrama ddod i’r uchafbwynt disgwyliedig gyda photyn yn cael ei ddarganfod ond heb gynnwys aur ond fel hud a oedd, pan gafodd ei fwyta, yn cyflawni dymuniadau y rhai oedd yn ei fwyta.

I gloi pum deg munud o adloniant roedd bonws ychwanegol gyda’r gynulleidfa ifanc yn cwrdd a’r prif gymeriadau wrth iddynt adael yr awditoriwm.

 

http://aradgoch.cymru

Leave a Reply