Tipyn o siom, a déjà vu. Theatr Gen

March 9, 2015 by

Merched caeth a control-freaks gwrywaidd sy’n llenwi llwyfan y Theatr Genedlaethol ar hyn o bryd. Fel Y Negesydd o’i blaen, a Blodeuwedd cyn hynny, mae Y Fenyw Ddaeth o’r Môr o dan anfantais; yn groes i’w greddfau naturiol hi, caiff ei boddi gan gymdeithas batriarchaidd.

Fel sawl cynhyrchiad diweddar gan y Theatr Gen, drama gyfnod sy’n agor tymor 2015. Ac fel yn achos llwyfaniadau’r cwmni o waith gan Shakespeare, Samuel Beckett a Molière, dyma addasiad Cymraeg o glasur Ewropeaidd.

Lluniwyd y ddrama gan Henrik Ibsen o Norwy, sef ‘tad’ y theatr naturiolaidd. Yr oedd hefyd yn fardd, a chemegydd cyn hynny, â diddordeb ym maes iechyd meddwl. Creodd ei ddramáu gryn stŵr ar ddiwedd y 19eg Ganrif wrth herio culni ei gymdeithas. Wrth ddal drych i’r dorf, creodd ddadl fawr a arweiniodd at newid gwleidyddol.

Thema cyson yng ngwaith Ibsen yw hawliau’r ferch, a rhyddid yr unigolyn. Gwelir hyn yn glir yn Y Fenyw Ddaeth o’r Môr (1888) a droswyd i’r Gymraeg gan Menna Elfyn, dan gyfarwyddyd Arwel Gruffydd.

Caiff y fenyw ifanc, Elida (Heledd Gwynn), ei chyflwyno i ni gyntaf fel awen i arlunydd. Plannodd hedyn ym mhen yr artist, Ballested (Seiriol Tomos), i lunio ‘môr-forwyn sydd ar drengi ar y graig’. Mae hi allan o’i helfen fyth ers symud i dref ar lan fjørd ac yng nghysgod y mynyddoedd. Daeth yn ail-wraig i feddyg – y Dr Wangel (Dewi Rhys Williams)  caredig – ac yn llys-fam i’w ddwy ferch.

Erbyn iddi gamu ar lwyfan, â’i gwallt yn wlyb, a hithau newydd fod am nof’, mae hi’n destun clecs ei theulu a’i chydnabod, sy’n grediniol ei bod hi’n colli’i phwyll. Fel un a fagwyd ar ynys gyfagos ac a gafodd ei henwi ar ôl llong, mae perthynas neilltuol gan y ferch a’r môr agored. Dyw hi heb ‘gynefino’ â’r gymdeithas gul, ac mae’n ysu am ‘arswyd a hud’ y môr.

Mae ei llysferch Hilde (Sian Davies) yn sbeit i gyd, mewn galar am ei mam, tra fod y Bollete (Elin Llwyd) boleit yn dyheu am gael dianc, a dysgu am y byd . Mewn gwewyr llwyr am ei wraig tipyn iau, mae Dr Wangel yn galw am gyngor hen ffrind; mae yntau, Arnholm (Richard Elis), yn awyddus i rwydo’i gyn-ddisgybl Bollette fel gwraig.

I gorddi’r dyfroedd ymhellach, daw dieithryn (Sion Ifan) o’r gorffennol i gynhyrfu Elida’n lân. Ond pa ffordd i droi? Tua sicrwydd y tir mawr neu i donnau gwyllt y môr?

Yr hyn sy’n diffinio Elida yn ystod y ddrama hon yw ei pherthynas â phobol eraill; nid yw’n rhydd i fyw bywyd yn ei hawl ei hun, a chael ei thrin fel unigolyn. Yn ferch i geidwad y goleudy, yna’n wraig ac yn llys-fam; ei rôl mewn bywyd yw gwasanaethu eraill. Caiff ei beirniadu’n hallt am archwilio’i pherthynas â hi ei hun, cyn magu’r hyder i fentro hawlio ei hunaniaeth.

Yn anffodus iddi hi, a chynulleidfa gyfoes y cynhyrchiad hwn, mae honno’n hunaniaeth hanner-ffordd. Ar ôl pentyrru’r trosiadau, ar hyd drama bump act, sy’n parhau am bron i deirawr, mae’r fenyw ddaeth o’r môr yn dychryn yn lân, gan ddioddef dôs gwael oAquaphobia.

Nid yw’n fai ar yr actorion i mi ddiflasu â’r cynhyrchiad hwn, nac ychwaith ar drosiad campus Menna Elfyn; ar ei orau, mae’n gynhyrchiad chwareus a hynod chwaethus. Y mae’r gwisgoedd, a’r set, yn gwbl ysblennydd, ond syrffedais â’r sgwrsio statig ymhell cyn yr egwyl.

Llusgodd y ‘ddrama’ am hir wrth i’r gorffennol daenu cysgodion – a’r rheiny’n llawer mwy bygythiol na’r gefnlen fynyddig. Roedd angen mwy nag adrodd hardd ar yr hanesion hynod hyn i danio dychymyg y dorf.

Chwistrellwyd chwa o egni newydd tua dechrau’r bedwaredd act, pan gafodd Bollette ymryson â’r ymwelydd ymhonus Lyngstrand (Sion Alun Davies) – pen bach sy’n gwbl ddall i’w dranc. Rhoddodd y rhyng-chwarae ysgafn rhwng Sion Alun Davies ac Elin Llwyd bleser mawr, a gyfathrebodd neges ddeifiol y ddrama yn dra deheuig.

Cogleisiodd Sian Davies y dorf gyda’i Hilde ddi-gywilydd, ym mhob un o’i golygfeydd. Dim rhyfedd i’r dramodydd ddatblygu’r ferch beryglus hon ymhellach, yng nghynhyrchiad A Master Builder (1892).

Tarodd y dynion y nod gyda’u hagwedd nawddoglyd, gan gynnwys y Dr Wangel (Dewi Rhys Williams) gofalus ond di-glem . Eiliad fawr y ddrama i mi oedd sylweddoliad Bollette , wrth iddi estyn yr allwedd i’w chell i’w charcharor ei hun.

Mewn cwta ugain munud, llwyddodd yr actores Heledd Gwynn i bortreadu angst merch anghyffredin yn y ddrama un-act Marjory yn 2013. Ar ffurf Elida, yn anffodus, bu iddi foddi wrth y lan; gormod o ddweud, a dim digon o wneud, yn fy marn i . Wedi dwyawr o archwilio’i theimladau hi, ces i nharo gan yr ysfa i daflu copi clawr-caled o’r beibl hunan-help Feel the Fear And Do it Anyway, i’w hachub hi.

Tanseiliwyd diweddglo’r ddrama hon gan ffawd arwresau cryfach Ibsen. Naw mlynedd ynghynt gadawodd Nora y Tŷ Dol (1879), a hynny ar ei liwt ei hun , a ffarweliodd Hedda Gabbler (1890) â’r byd yn hollol bendant. Mewn cymhariaeth â nhw, mae cyfaddawd Elida yn dro pedol truenus, sy’n teimlo fel brad ar ôl buddsoddi’n gobeithion ynddi hi.

Dwi’n derbyn wrth gwrs, i’r ddrama hirfaith hon, gael ei chreu ar gyfer torf bur wahanol. Ond eleni, ar lwyfan Theatr Genedlaethol Cymru, ar ôl i Blodeuwedd ac Elsi (Y Negesydd) wynebu’r un rhagfarnau? Tipyn o siom, a déjà vu.

 

 

Comments

  1. Y brif siom i mi heno oedd y gynulleidfa denau yn Theatr Anthony Hopkins, yn Theatr Clwyd Cymru,Yr Wyddgrug. Yn wahanol i`r perfformiad o Blodeuwedd yn y Rhyl, i dy llawn, roedd y gynulleidfa er mor denau yn canmol ar y ffordd allan o`r theatr. Roedd y llefaru yn groyw, y set yn arbennig a`r gwisgoedd yn addas, a`r symud o un act i`r llall yn esmwyth gelfyddydol. Rhaid derbyn bod Ibsen yn perthyn i oes arall, a`r gair a`r ddeialog yn holl bwysig, eto, roedd crefft y dramodydd yn datblygu ei thema sylfaenol gam wrth gam yn ddramatig. Roedd y trosiad/cyfieithiad yn rhwydd iawn ar wefusau`r actorion, hyd yn oed i ogleddwr!!! Credaf fod Elida fregus, ansicr, ond penderfynol yn orchestol mewn rhan mor heriol yn y byd sydd ohoni. Roeddwn yn hoffi`r cymeriadu credadwy gan yr oll o`r actorion. Roedd Dr. Wangel yn dad a phriod urddasol , Lyngstrand yn fombastig hoffus, Bolette yn arbennig,arbennig yn ei hawydd i ehangu ei gorwelion, Hilde yn cyfleu`r plentyn a`r plentynaidd, ac Arnholm yn cyfleu y cyfaill a`r tiwtor didwyll.,
    , Er bod Ibsen o ran arddull a chrefft yn perthyn i`w oes, mae ei neges parthed rhyddid a rhyddid y ferch yn arbennig,yn dal yn gyfoes. Onid oedd Saunders er yn delio efo`r un themau yn adweithio yn ei ddyddiau cynnar i feddylfryd naturoliaidd Ibsen? .Os mai siom oedd Blodeuwedd, roedd Y Ferch Ddaeth o`r Mor yn berfformiad a roes foddhad mawr i mi a nifer o`r gynulleidfa/.

    Tybed a ellir cyflwyno Litttle Eyolf rhywbryd – un o ddramau telynegol Ibsen?

Leave a Reply