Cer i grafu…Sori…Garu! Y Daith

September 2, 2019 by

Yn ffres o’i ail-rhediad yng Ngŵyl Ymylol Caeredin, mae Lovecraft (Not the Sex Shop in Cardiff) sioe gerdd comedi-wyddonol, unigryw, un-menyw gan yr enwebai BAFTA, y gantores a’r actores Carys Eleri, yn mynd ar daith i 11 lleoliad ledled Cymru dros yr Hydref eleni, ochr yn ochr gydag addasiad newydd sbon yn yr iaith Gymraeg o’r enw Cer i Grafu…sori… GARU!

Wedi’i hysgrifennu a’i pherfformio gan Carys Eleri, mae Lovecraft (Not the Sex Shop in Cardiff)/Cer i Grafu… sori… GARU! yn sioe orfoleddus ond personol iawn am niwrowyddoniaeth cariad ac unigrwydd, yn taclo’r themâu cyfoes lles ac iechyd meddwl gyda thrac sain gwreiddiol a chaneuon aml-genre. Dyma’r sioe gyntaf i Carys ysgrifennu – mae hi’n fwy adnabyddus efallai am ei rôl yng nghyfres S4C– Parch – a chafodd ei henwebu am wobr BAFTA yn 2018 am y rôl honno. Datblygwyd Lovecraft o’r dechrau gyda chefnogaeth Canolfan Mileniwm Cymru.

Cafodd Lovecraft ei berfformio am y tro cyntaf yn ystod Gŵyl y Llais Canolfan Mileniwm Cymru ym mis Mehefin 2018 ac yna aeth i Ŵyl Ymylol Caeredin – gŵyl gelfyddydol fwyaf y byd. Fe aeth ymlaen i ennill y wobr Cabaret Gorau yng Ngŵyl Ymylol Adelaide – ail ŵyl Ymylol fwyaf y byd – ym mis Mawrth 2019. Dychwelodd y sioe i Ŵyl Ymylol Caeredin ym mis Awst eleni fel rhan o raglen Cyngor Celfyddydau Cymru Dyma Gymru, cyn cychwyn ar daith ledled Cymru gyda’r ddau fersiwn dros yr hydref.

Dywedodd Carys Eleri: “Rwy’n hynod gyffrous i allu teithio o gwmpas gwlad fwyaf secsi’r byd gyda’r sioe-wyddonol mwyaf secsi sydd erioed wedi cael ei chreu ynddi. P’un ai yn y Gymraeg neu yn Saesneg, dewch i ymuno yn yr hwyl fy hyfryd ffrindiau fel ein bod ni’n gallu chwalu’r epidemig unigrwydd unwaith ac am byth. Cwtsho yw’r ateb.”

Y Daith

Cer i Grafu… sori… GARU!
Wedi’i gynhyrchu gan Carys Eleri a Chanolfan Mileniwm Cymru
Wedi’i greu a’i berfformio gan Carys Eleri
Wedi’i gyfarwyddo gan Mared Swain
Cerddoriaeth wedi’i gynhyrchu gan Branwen Munn

Hyd y sioe: 1 awr 5 munud
Canllaw oedran: 16+

Borough Theatre, Y Fenni
Dydd Mercher 16 Hydref 2019, 7.30pm

Theatr Felinfach, Llanbedr Pont Steffan
Dydd Sadwrn 19 Hydref 2019, 7.30pm

Galeri, Caernarfon
Dydd Gwener 25 Hydref 2019, 7.30pm

Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug
Dydd Gwener 1 Tachwedd 2019, 7.30pm

Volcano Theatre, Abertawe
Dydd Iau 7 Tachwedd 2019, 7.30pm

Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin
Dydd Gwener 15 Tachwedd 2019, 7.30pm

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Dydd Sadwrn 23 Tachwedd 2019, 8pm

ffresh, Canolfan Mileniwm Cymru
Dydd Sadwrn 30 Tachwedd 2019, 8pm

Lovecraft (Not the Sex Shop in Cardiff)
Wedi’i gynhyrchu gan Carys Eleri a Chanolfan Mileniwm Cymru
Wedi’i greu a’i berfformio gan Carys Eleri
Wedi’i gyfarwyddo gan Mared Swain
Cerddoriaeth wedi’i gynhyrchu gan Branwen Munn

Hyd y sioe: 1 awr 5 munud
Canllaw oedran: 16+

Borough Theatre, Y Fenni
Dydd Iau 17 Hydref 2019, 7.30pm

Sefydliad y Glowyr, Coed Duon
Dydd Gwener 18 Hydref 2019, 7.30pm

Theatr y Torch, Aberdaugleddau
Dydd Mercher 30 Hydref 2019, 7.30pm

Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug
Dydd Sadwrn 2 Tachwedd 2019, 7.30pm

Theatr Volcano, Abertawe
Dydd Gwener 8 Tachwedd 2019, 7.30pm

Glan-yr-Afon, Casnewydd
Dydd Iau 14 Tachwedd 2019, 7.45pm

Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin
Dydd Sadwrn 16 Tachwedd 2019, 7.30pm

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Dydd Gwener 22 Tachwedd 2019, 8pm

ffresh, Canolfan Mileniwm Cymru
Dydd Iau 28 a Dydd Gwener 29 November 2019, 8pm

Leave a Reply