Sioe theatr ganmoladwy i blant, The Bear

December 1, 2017 by

Daw byd hudolus Raymond Briggs i Gaerdydd y Nadolig hwn wrth i Stiwdio Weston Canolfan Mileniwm Cymru groesawu’r sioe theatr ganmoladwy i blant, The Bear.

Gyda phypedwaith campus, cerddoriaeth hyfryd, dawn dweud stori anhygoel a llond trol o chwerthin mae The Bear yn brofiad bythgofiadwy i’r teulu cyfan, a chyflwyniad perffaith i’r theatr ar gyfer y plantos a’u teuluoedd.

Wedi’i haddasu o’r llyfr gan Raymond Briggs – sydd hefyd yn gyfrifol am ysgrifennu’r clasuron Nadoligaidd ‘The Snowman’ a ‘Father Christmas’ – adrodda The Bear stori Tilly, merch ifanc sy’n cael ei dihuno un noson gan arth enfawr wen yn dringo mewn drwy ffenest ei hystafell wely. Mae ganddo dafod fawr ddu a’i geg agored yn fwy na dy ben. Ond nid oes ofn gan Tilly. A dweud y gwir, mae hi’n gwneud ei gorau i hyfforddi ei gwestai blewog.

Mae Tilly’n sylweddoli’n ddigon buan bod gofalu am arth yn waith caled ac mae tryblith yn dilyn wrth i’r creadur gael bath, dringo o gwmpas yr ystafell wely, ac ymgartrefu yn y gegin.

Cafodd y sioe ei chreu gan Pins and Needles, cwmni wedi’i sefydlu ym Mryste sy’n cael ei adnabod am greu theatr o safon uchel ar gyfer plantos, teuluoedd a phobl ifanc. Daethant â The Bear i’r llwyfan am y tro cyntaf yn 2015 a derbyniodd glod gan adolygwyr a chynulleidfaoedd.

Mae’r cynhyrchiad hwn wedi ei anelu at blant 3 + ac yn cynnwys cast o dri pherson – ac un pyped o arth enfawr. Mae’r apêl yn amlwg i gynulleidfa ifanc wrth i’r sioe ddeniadol hon ddod â darluniau lliwgar a stori hudolus Briggs yn fyw ar y llwyfan.

 Bathtime with the bear

Tilly and bear

Dywedai Uwch-gynhyrchydd Celfyddydol a Chreadigol Canolfan Mileniwm Cymru, Sarah Leigh: “Rydym wrth ein bodd bod The Bear yma yn Stiwdio Weston y Ganolfan dros adeg y Nadolig. Mae’n stori hyfryd ar gyfer y plantos a gobeithiwn eu bod nhw a’u teuluoedd yn mwynhau’r wledd hudolus o gerddoriaeth, pypedwaith a chwedleua.”

Mae gwaith llwyfan blaenorol Suzanne Jennings, sy’n chwarae rhan Tilly, yn cynnwys ‘Alice’s Adventure in Wonderland’, ‘The Gruffalo’, a ‘The Snail and the Whale’. Lucy Grattan a Benedict Chambers sy’n chwarae eu rhieni a phypedwyr The Bear.

Yn 55 munud o hyd, The Bear yw’r profiad theatr gyntaf perffaith ar gyfer y plantos ac mae’n rhyfeddod chwaraegar, doniol a thwymgalon i deuluoedd y tymor Nadolig yma.

 

Bydd The Bear yn Stiwdio Weston yng Nghanolfan Mileniwm Cymru o ddydd Mawrth 12 – Sul 31 Rhagfyr 2017. Bydd y sioe hefyd yn dangos yn Waterside, Sale ym Manceinion Fwyaf ar yr un pryd. Mae tocynnau ar werth nawr am £10 fesul person.

 

Archebwch ar lein ar www.wmc.org.uk. Mae tocynnau i fabanod mewn breichiau yn £2 yr un – a wnewch chi gysylltu â’r swyddfa docynnau ar y rhif 029 2063 6464 er mwyn archebu.

 

Canllaw oed: 3+

Hyd y sioe: Tua 55 munud

Mae’r perfformiad ar 20 Rhagfyr am 10:30am yn berfformiad ymlaciedig.

Leave a Reply