Anweledig, Fran Wen, Eisteddfod Genedlaethol

August 10, 2018 by

Wedi dau sioe un-dyn, dyma brofi sioe un dynes, yn sgil coroni’r Prifardd newydd Catrin Dafydd. Ond nid  dynes gyffredin oedd dan sylw Anweledig, ym mhenllanw cynhyrchiad iasol Theatr Frân Wen. ‘Dynas Debenhams’ fu Glenda (Ffion Dafis) erioed yn ôl Beryl, ei chyfeilles bore oes; pam felly ei bod hi bellach yn gwario ei phres yn siopau elusen Caernarfon, yn prynu dillad ail-law pobol eraill fel ‘caridym’?

Nid dyna’r unig newid a brofodd Glenda ers iddi fod yn glaf yn ysbyty meddwl Dinbych, fel y clywson ni yn Neuadd Ddawns Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018. Ond i’r rheiny, fel fi, wnaeth gwrdd â Glenda bum mlynedd yn ôl ( yn Eisteddfod Gendlaethol Dinbych 2013), roedd y man-newidiadau hyn yn gamau anferth ymlaen yn y broses arteithiol (i eraill), hanfodol (iddi hi) a llesol (i bawb, mewn egwyddor) o ‘wellhad’.

Yn dychwelyd i’w chadair esmwyth fel Glenda y mae’r actores Ffion Dafis, mewn perl o ran gan y Prifardd, awdur a dramodydd Aled Jones-Williams. Bum mlynedd yn ôl, profwyd cywaith gwych rhwng yr awdur ac actores. Fel rhan o arddangosfa am Ysbyty Dinbych yn Y Lle Celf, cyflwynwyd gwaith eithriadol o rymus; monolog am Gymraes gyfoes ag iselder dwys, a phawb o’i chwmpas ar dân i ddeall pam. Gorffenwyd y gosodwaith bryd hynny mewn ystafell yn Ysbyty Dinbych, â Glenda wedi ymgolli yn ei hatgofion o lan y môr.

Flwyddyn yn ddiweddarach, fe dddatblygwyd y darn ymhellach, ond y Brifwyl eleni cawn brofi ‘Y Bennod Olaf’, cyn i’r cyfanwaith fynd  ar daith ledled Cymru yng Ngwanwyn 2019. Lleolir y darn yr wythnos hon yng nghyn-adeilad banc Portland House; nid, ysywaeth, yn ysblander y neuadd fasnach, ond ym mherfeddion y daeargell islaw.

Mae hynny’n gwbl addas wrth gwrs, gyda Glenda’n arfer gweithio mewn banc. Pan ofynodd hi i’w gŵr, i roi caniad i’w chyd-weithwyr i’w hysbysu nad oedd hi’n ddigon da i fynd i fewn, fe straffaglodd Huw i feddwl am esboniad digonol, gan setlo â’r celwydd golau ‘amser y mis’. Fel y clywn ni gan Glenda, mae’r salwch ‘yn heintio iaith’; fel yn achos ‘Dinbych’ – enw distawaf y Gogledd. ‘Mae’n iawn i chi ddeud bo chi’n mynd i Ddinbych y Pysgod ond nid Dinbych heb y Pysgod.’ 

Yn y gofod clostroffobig, gwynebwn Glenda’n ddi-golur, o flaen bariau cell y banc. Yn ei ffrog sidan syml, dygodd atgof i’r meddwl o sioe seilam ‘Voss’ Alexander McQueen. Gorchuddiwyd y bariau â llieiniau tryloyw, gan gynnig sioe dafluniadau o fri. Yn gefnlen soniarus roedd sain cynnil piano yn guriadau’r isymwybod, a sŵn heddychlon tonnau’r môr. Ger ei chadair, roedd ôl tywod y tonnau dan draed, yn frwgaits a broc môr; ond hefyd roedd tegeirianau, yn symbol ‘tlws’ o freuder gobaith, cryn amser wedi’r storom fawr. Clywyd hefyd am stormydd bychain fu’n dal i daro Glenda, a hynny’n bur anochel; ‘wobbler’ oedd yr enw ar ddyddiau o’r fath, a gynrhychioliwyd ar ffurf tegan ci bach.

Gyda Glenda erbyn hynny yn rhydd o’r ysbyty, roedd hi’n gaeth braidd i ddisgwyliadau’r gymdeithas o’i chwmpas, a dilynwyd hanes graddol ei gwellhad. Roedd Beryl yn bur feirniadol o’r ‘halfway house’ yn Ninas Dinlle, ac nad oedd Glenda ‘run fath ag o’r blaen’. Dilynwd hefyd lwybr briwsion o gliwiau bach cynnil ynglyn â statws ei phriodas â Huw. A daeth lleoliad y cynhyrchiad, yn y Neuadd Ddawns y Brifwyl, yn glir, a’r cylch yn llawn.

Mae’r sioe awr o hyd yn un andros o hardd, a’r actores – a’i llygaid yn pefrio – yn hawlio sylw pawb. ‘Gripping’ oedd ymateb fy chwiorydd i berfformiad Ffion Dafis, ‘fasa’r sioe heb weithio efo’r un actores arall’. I’r rheiny ohonom a brofodd gamau cynta’r sioe, bu datblygiad, ac esblygiad amserol, oedd yn gydnaws ag afiechyd o’r fath. Llongyfarchiadau i’r gyfarwyddwraig Sara Lloyd, a’i rhagflaenydd Iola Ynyr. Roedd y sioe  ymysg y cynharaf yn yr iaith Gymraeg i agor y llifddorau ar y drafodaeth am iechyd meddwl.

Mae’n sioe llawn cariad a gobaith, a gonestrwydd ingol, am daith gwellhad y claf. Ond hefyd, ceir pwyslais mawr ar ddealltwriaeth caredigion, a chyfraniad cymdeithas ehangach. ‘Rhaid i ti Fyned y Daith Honno Dy Dun’oedd teitl ar gyfrol bersonol yr awdur am alar ’nol yn 2001. I raddau, mae afiechyd iselder yn ymylu ar hynny, ond nid, ysywaeth, y broses o wellhad. Pwysleisir, mewn sioe llawn hiwmor, sy’n ddirdynnol tu hwnt, nad dim ond y claf sy’n gorfod newid i brofi iachad.

 

 

 

Leave a Reply