Fel Anifail gan Meic Povey

October 21, 2018 by

Fe fynn y gwir ei le, medde nhw, ond pwy sydd i farnu beth sy’n wir ai peidio?  Dros y ddwy flynedd ddwetha daeth y gwirionedd dan warchae, a defnyddiwyd celwydd fel arf wleidyddol. A rhwng technegau maleisus Rwsia, shambls Brexit a Trump, denwyd ein sylw i’r cysyniad o ‘cognitive dissonance’; stâd meddyliol o straen, o ‘anghyseinedd gwybyddol’ wrth i’n daliadau dyfnaf gael eu dryllio yn llwyr. Daeth ‘gaslighting’ i’r amlwg hefyd, fel term am ‘drais’ emosiynol sy’n arwain person i amau’i bwyll ei hun.

Daeth cyfraith a threfn  dan y chwyddwydr hefyd yn achosion trais rhywiol diweddar Bill Cosby a Brett Kavanaugh, gan ddenu linell Shakespeare – ‘Who shall believe thee, Isabel?’,  o Measure For Measure, i’r cof.

Daeth yr elfennau hyn oll i fy meddwl yn Theatr Sherman, wrth wylio adfywiad Fel Anifail gan Meic Povey. Ac wrth wylio Mair a Defi yn mynd benben â’i gilydd – mewn drama sydd bron yn chwarter canrif oed –  tanlinellwyd drasiedi oesol y ddynoliaeth. Oherwydd tydw i ddim callach ynglyn â phwy ohonynt oedd yn ‘dweud y gwir’ ynglyn â dirgelwch canolog y ddrama.

Yr hyn sy’n gwbl amlwg yw fod y pâr mewn ‘limbo’ llwyr,  ac wrth wynebu ‘dydd y farn’, mae’r ddau mewn stad o ‘burdan’; aeth deng mlynedd ar hugain (a mwy) heibio ers marwolaeth eu mab, a’r ddau oedrannus yn gwynebu eu tranc eu hunain. Wedi byw ar y mynydd, rhaid gwynebu symud tŷ i gartref mwy addas ar gyfer eu hiechyd. Mae’r tensiwn ynglyn â hyn yn symtom o’r hollt anferthol rhyngddynt sy’n dyddio o ddiwrnod olaf eu mab. Yr hyn a ddilynir yw’r ‘sgwrs’ gyntaf, hirddisgwyliedig, yn archwilio beth ‘yn union’ ddigwyddodd; fe godir hen grachod, sydd dal yn greithiau byw, cyn datblygu’n gêm felltigedig o ‘gwir neu gau?’.

Mudferwi wna’r tensiwn ar gychwyn y darn, cyn datblygu’n llosgfynydd toscsig o gyhuddiadau.  Mae’r ddrama’n mynnu dau actor ‘simpatico’ ac mae’r perfformwyr yma’n darbwyllo’n llwyr. Morfudd Hughes a Wyn Bowen Harries sy’n portredu’r pâr tocsig, cyd-ddibynnol ar ei gilydd,  a gollodd eu gafael yn eu perthynas flynyddoedd yn ôl.  Mae hefyd yn archwiliad onest o effeithiau hir-dymor  galar dwys, a’i ddylanwad posib i wenwyno a niweidio i’r byw. Ceir cyffyrddiadau o realaeth hudol wrth grybwyll ‘dylanwad’ tylwyth teg, ac yn hynny o beth, uwcholeuir bwnc llosg (af)iechyd meddwl.

Fel cymaint o ddramau gan Meic Povey mae’r mynydd yn gysgod dros y dddau, a natur yn ymdreiddio  i bob cornel o’r sgript a’r cynhyrchiad. Mae set cynnil ond trawiadol Rebecca Wood o’r mynydd yn chwarae ffon ddeubig – ar y naill llaw yn asio a’r sgript naturiolaidd, ond eto’n gefnlen ‘gyntefig’ i benbleth oesol, ac abswrd. A goleuo Ceri James, yn taenu cymylau yma a thraw, ac yn chwarae’n barhaus ac awgrymiadau o’ ‘nefoedd’ ac ‘uffern’.

Mae Morfudd Hughes yn ysgubol mewn ‘mam ddaear’ o ran, sydd ar adegau yn griddfan fel anifail wrth esgor ar ei epil, yn ysu i ‘groesi’r trothwy’ i ail-ymuno  â’i llanc yn y ‘lle arall’. Wrth weu, a phlicio tatws yna esgyrn cyw iâr, mae’r cynddaredd yn cronni cyn ffrwydro drachefn.  Ond pwy sydd i ddweud mai Mair sydd yn ‘gyfiawn’, yn gafael yn dynn i’w dicter dieflig tuag at ei gŵr? Daw’n amlwg o ambell ystum gan Wyn Bowen Harries fod un cyffyrddiad  gan ei wraig  yn ddigon i’w ypsetio’n lan. Ai euogrwydd sydd wrth wraidd, neu dros ddeng mlynedd ar hugain o loes, wrth sgwennu dau naratif sy’n croesddweud ei gilydd yn llwyr?

Rhaid dweud, i mi gael fy rhwygo’n ddau gan y cynhyrchiad hwn, gan gydymdeimlo yn llwyr gyda’r ddau.  Roedd ‘passive aggression’ y pâr i’w deimlo drwyddi draw,  fel llysnafedd yn llifo o’r llwyfan – diolch i’r drefn am fflachiadau cyson o hiwmor tywyll y dramodydd. Bu’r cyfarwyddo gan Jac Ifan Moore yn sensitif iawn – serch hynny,  ro’n i’n falch i gefnu ar gawl tocsig o gyfyng gyngor. Gyda diweddglo mor amwys, mae drama o’r fath yn ein hatgoffa i gyfathrebu â’n gilydd. Y tristwch mawr yw nad yw drama Fel Anifail wedi dyddio dim ers 1995; a dyna sy’n gwneud y ddrama hon  gan Meic Povey yn glasur i’r oesoedd.

 

 

 

 

Leave a Reply