Richard III gan cwmni Omidaze

March 2, 2015 by

Mae’n anodd llwyfannu addasiad gwreiddiol o waith Shakespeare. Mae’n teimlo fel bod popeth a oedd wedi cael ei ystyried yn chwyldroadol yn y gorffennol ddim yn cael yr un effaith yn y presennol. Mae’n galed iawn felly gallu creu cynhyrchiad Shakespeare sy’n mynd i gynnig rhywbeth ffres a newydd i’w cynulleidfa.

Mae drama Shakespeare Richard III yn ddiau wedi cael adfywiad ar ôl darganfyddiad gweddillion corff y Brenin enwog yn faes parcio yng Ngaerlyr . Mae cwmni Omidaze wedi ceisio dod a rhywbeth newydd i’w cynulleidfa nhw gyda’u cynhyrchiad o’r ddrama enwog gan berfformio gyda chast hollol fenywaidd.

Ffaith gyffredin ynglŷn â Richard yw ei bod yn anabl yn gorfforol. Yn wir, mae nifer o actorion wedi actio’r rôl gyda gwahanol fathau o anabledd, ond yr un mwyaf cyffredin yw asgwrn cefn crwca. Un o’r perfformiadau mwyaf enwog yw Anthony Cher gyda’r RSC yn 1984. Enillodd Gwobr Olivier am ei berfformiad. Mae’n hynod bwysig bod yr actor yn arddangos rhyw fath o anhawster corfforol er mwyn cyfiawnhau cymhelliant cymeriad y Brenin drygionus. Anabledd Richard yn gynhyrchiad Omidaze oedd fraich anffurfiol. Nid oedd hyn yn cyfiawnhau agwedd Richard, gan fod hi’n anodd dychmygu bydd yr anhawster yma yn rhwystr enfawr i’r Brenin.

Roedd Mairi Phillips fel Richard yn arddangos llawer o sgil fel actores, ond teimlaf ei bod hi wedi cael ei chamgastio; mi fydd Mairi wedi body n berffaith am gymeriad fel Macbeth er enghraifft (gyda’r acen naturiol hefyd) ond roedd hi’n rhy ddominyddol am y rôl yma. Roedd perfformiad Ana-Maria Maskell fel Lady Anne yn gryf iawn, gydag emosiwn pwerus iawn try ei pherfformiad hi.

Roedd set Gabriella Slade yn un uchelgeisiol iawn. Llwyfannwyd y cynhyrchiad yn ofod y to yng nghanolfan y mileniwm, gyda sgaffaldiau yn creu digon o lefelau yn y gwagle oeraidd. Roedd y syniad yn un ysbrydoledig iawn, ond gyda’r gynulleidfa yn symud pob golygfa, roedd gormod o ddiwreiddio, yn aml yn achosi rhai aelodau o’r gynulleidfa i golli mas ar ddechreuadau olygfeydd. Roedd y symud yn denu i ffwrdd o’r perfformiad oherwydd pan roedd y gynulleidfa yn gallu aros yn yr un fan am fwy na deg munud, roedd y sioe yn un diddorol iawn.

Yn anffodus, gyda chwpwl o broblemau camgastio a llwyfannu, nid oedd y cynhyrchiad yma yn creu digon o effaith ar y gynulleidfa. Roedd y cynhyrchiad efallai yn rhy uchelgeisiol.

Leave a Reply