Adolygiad ‘Allan o Diwn’, Theatr Bara Caws

May 10, 2016 by

Arbrawf diddorol a llwyddiannus yw ‘Allan o Diwn’ gan Bara Caws. Sioe un dyn ydy hi, ac mae’n gyferbyniad llwyr i’r ddrama ddwys a lwyfannwyd ganddynt yn ddiweddar, ‘Hogia Ni’. Os ydych chi’n dymuno ymrafael â themâu dyrys bywyd, fydd hon ddim at eich dant. Os ydych chi eisiau chwerthin o waelodion eich boliau, ewch i’w gweld ar bob cyfri! Dyma ffrwyth sioe hanner awr a berfformiwyd gan Emyr ‘Himyrs’ Roberts yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli ddwy flynedd yn ôl, a mawr yw ein diolch am ei hatgyfodi a’i datblygu.

Dyma un o brif ddynwaredwyr Cymru yn olrhain ei hanes yn ddisgybl yn y chweched dosbarth hyd at sefydlu grŵp pop adnabyddus ‘Y Ficar’ yn yr 1980au. Cafodd ei annog gan athro i ddilyn gyrfa academaidd, ac astudiodd Beirianneg yn y Brifysgol cyn gweithio fel peiriannwr i Gyngor Gwynedd maes o law. Buan y sylweddolodd mai fel perfformiwr yr oedd yn ei elfen, a phenderfynodd wireddu ei freuddwyd. Cyhoeddodd y band albwm o’r enw ‘Allan o Diwn’, gan ennill y wobr am y band gorau yn seremoni ‘Sgrech’ a pherfformio i gynulleidfa o 1,500.

Nid monolog a geir fel y cyfryw, ond yn hytrach gwelir cyfuniad o barodïau, dynwarediadau a cherddoriaeth. Cawn ddogn helaeth o ddychan wrth drafod rhai o gymeriadau enwocaf Cymru, gan gynnwys efelychiad hynod o agos ati o Dai Jones, Bryn Terfel a Vaughan Hughes. Yn wir, cefais fy atgoffa yn gyson o waith y perfformiwr dawnus hwn ar y rhaglenni ‘Cnex’ a ‘Pelydr X’ – rhaglenni y mae bwlch sylweddol ar eu holau.

Mae plethu cerddoriaeth ac adrodd hanesion yn gweithio’n dda ac yn cynnig amrywiaeth. Wedi’r cwbl, nid ar chwarae bach y gall unigolyn gynnal cynulleidfa am awr a hanner. Mae’r elfen gerddorol hefyd yn golygu bod cyfle i ddychanu gwahanol fandiau o’r sîn roc Gymraeg – deunydd newydd i mi a oedd yn cynnig ffresni ochr yn ochr â dynwared yr hen ffefrynnau. Braf oedd gweld band byw ar y llwyfan sy’n cynnwys dau o’i feibion, Aled Emyr ac Ifan Emyr, ynghyd â Carwyn Rhys.

O ystyried bod perygl i’r hunangofiant chwythu ei blwc yn sgil cyhoeddi cynifer ohonynt, roedd llwyfannu ei atgofion personol yn hytrach na’u cofnodi yn ysgrifenedig yn gweddu i Emyr Roberts. Mae’n berfformiwr wrth reddf, ac roedd y gynulleidfa’n ymateb yn dda iddo. Ar brydiau, cawn fy hun yn cael trafferth cymryd gwynt gan mod i’n chwerthin cymaint! Roedd y cipolwg o wahanol fandiau tua’r diwedd yn arbennig o ddigri yn fy marn i, a bu’r anecdotau am gigio yn agoriad llygad i mi fel rhywun a anwyd yn yr wythdegau.

Mae pob dynwarediad o’i eiddo o ran llais, ynganu a chyflymder y dweud yn taro deuddeg bron yn ddi-ffael, ac ni allwn lai na rhyfeddu at ei wreiddioldeb a’i ffraethineb. Mae ei fanylder a’i dreiddgarwch wrth ymdrin â nodweddion fel ystum, wyneb ac osgo hefyd yn rhinwedd sy’n atgyfnerthu naws hwyliog y perfformiad.

Yr unig feirniadaeth a fyddai gen i o bosib yw y byddai’r perfformiad yn gweddu’n well i awyrgylch mwy anffurfiol fel y sioe glwb. Oherwydd bod y set wedi ei gosod fel bar, natur yr hiwmor a rhegfeydd yn ogystal â phresenoldeb y band yn y cefndir, teimlwn fod theatr fel lleoliad yn rhy strwythuredig ar brydiau.

Achosodd y perfformiad imi bendroni pa mor brin yw’r grefft o ddynwared yng Nghymru heddiw, ac felly diolch i Emyr Roberts am ddarparu ysgafnder ac adloniant pur. Mae hyn i’w groesawu o ystyried faint o ddramâu sy’n delio â phynciau trwm. Wedi’r cwbl, arwydd o genedl iach a hyderus yw ei gallu i chwerthin am ei phen ei hun. Mae’r sioe hon ar daith tan yr Eisteddfod yn y Fenni, felly peidiwch â’i cholli!

Cynyhrchiad llawn hwyl a cherddoriaeth, parodiau a dynwarediadau gydag ambell i sylw dychannol ar y sîn roc Gymraeg!

Band – Aled Emyr; Ifan Emyr; Carwyn Rhys
Cyfarwyddo – Betsan Llwyd

lan o diwn’ â’r byd a’i bethau, at sefydlu un o grwpiau eiconig yr ’80au…

Cynyhrchiad llawn hwyl a cherddoriaeth, parodiau a dynwarediadau gydag ambell i sylw dychannol ar y sîn roc Gymraeg!

Band – Aled Emyr; Ifan Emyr; Carwyn Rhys
Cyfarwyddo – Betsan Llwyd

 

 

 

Leave a Reply